Skip to content Skip to navigation menu
Nid ni’n unig sy’n canmol. Dyma farn y wasg a chanllawiau i brifysgolion am Gaerdydd.
Mae gan Gaerdydd y cwbl, i bob golwg: pensaernïaeth ddinesig drawiadol a lleoliad braf ar lan y dŵr, barrau chwaethus dros ben a gwlad hyfryd o’i chwmpas
Guardian University Guide 2013
Yn academaidd, mae Caerdydd yn brifysgol sydd ar y brig … ac yn rhyfeddol o boblogaidd ymhlith ei myfyrwyr. Tybed ai Caerdydd yw’r gyfrinach fwyaf ymhlith prifysgolion Prydain?
Canllaw Virgin i Brifysgolion Prydain 2012
Mae Caerdydd yn cynnig profiad atyniadol iawn i fyfyrwyr: un o brifysgolion ymchwil Grŵp Russell, ystod eang o gyrsiau gradd israddedig traddodiadol, costau byw cymharol fforddiadwy a phob math o fywyd hwyliog gyda’r nos.
Sunday Times University Guide
Canmolodd yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd y brifysgol am ei gweledigaeth academaidd rymus ac am y datblygu celfydd ac effeithiol ar eiriad ei chenhadaeth i sicrhau rhagoriaeth yn ei haddysgu a’i hymchwil
The Times Good University Guide 2012
Mae’r Brifysgol mor hyderus a blaengar â’r ddinas y mae’n rhan ohoni ac mae ganddi enw rhagorol am ansawdd ei haddysgu a’i hymchwil. Barnwyd bod bron 60% o’i hymchwil yn arwain y byd ac mae hi’n aelod o'r Grŵp Russell o brifysgolion blaenllaw
Prifysgol ymchwilddwys o safon fyd-eang
Daily Telegraph Guide to UK Universities
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Cip olwg ar y prosbectws, lawr lwytho neu gwneud cais am gopi caled.
Cip olwg ar y prosbectws