Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Buddion a Gostyngiadau

Mae nifer o fuddion a gostyngiadau ar gael i aelodau o staff Prifysgol Caerdydd. Dosbarthwyd y rhain dan y categoriau canlynol:

Teithio a Thrafnidiaeth

Ceir nifer o fuddion ar gyfer staff o dan Teithio a Thrafnidiaeth gan gynnwys gwasanaeth os ydych wedi torri lawr, cynigion gwyliau ac yswiriant.

Iechyd a Lles

Gall staff fwynhau ystod o ostyngiadau o aelodaeth campfa ac yswiriant iechyd i gynigion trin gwallt a harddwch. .

Hamdden ac Adloniant

Amrywiaeth eang o ostyngiadau siopa a hamdden ar gael ar gyfer aelodau o’r staff.

Gwybodaeth a Thechnoleg Gwybodaeth

Gostyngiadau ar gael i staff ar feddalwedd a chaledwedd cyfrifiadurol, llyfrau ac adnoddau TG a gwybodaeth cyffredinol eraill.

Ymwadiad: darllenwch yr ymwadiad ar waelod y dudalen hon cyn ceisio am unrhyw un o’r buddion a’r gostyniadau a amlinellir isod. 

Buddion Cadarnhaol

Positive Benefits Booklet Cover

Mae buddionCadarnhaol yn ffordd callach i dalu am eich buddion; mae’n eich galluogi i ostwng faint rydych yn ei dalu o ran cyfraniadau treth incwm a/neu Yswiriant Gwladol, gan gynyddu’r gwir gyflog. Gallwch gael mwy o wybodaeth ar dudalennau cyllid buddionCadarnhaol.

Mae buddionCadarnhaol yn cynnwys cynlluniau sy’n ymwneud â phensiynau, gofal plant a seiclo. Os ydych yn cytuno i gyfnewid rhan o’ch cyflog cytundebol gros sy’n cyfatebol i gost unrhyw ran o buddionCadarnhaol, bydd y Brifysgol yn talu’r gost hon ar eich rhan. Mae hyn yn golygu, yn ddibynnol ar y buddion rydych yn eu dewis, na fyddwch yn gorfod talu treth a/neu Yswiriant Gwladol ar y swm rydych wedi ei gyfnewid ac felly bydd eich gwir gyflog yn cynyddu. Mae’r swm rydych yn ei arbed yn ddibynnol ar faint rydych yn ei ennill a pha rannau o buddionCadarnhaol rydych yn cyfranogi ynddynt.

Cyflenwyr Pwrcasu at Ddefnydd Personol Staff

Mae’r wefan Pwrcasu’n rhestru cyflenwyr sydd o dan gontract i’r Brifysgol at ddefnydd busnes. Bydd rhai o’r cwmniau hyn yn cynnig gostyngiad at ddefnydd personol pan wneir cais. Ewch i dudalennau Buddion Staff Pwrcasu am fwy o fanylion. Nodwch, ar gyfer staff Prifysgol Caerdydd yn unig mae’r tudalennau cyflenwyr a bydd angen i chi lwytho eich enw defnyddiwr rhwydwaith a’ch cyfrinair er mwyn cael mynediad.

Gostyngiadau grŵp e-bost ar gyfer Staff Prifysgol Caerdydd

Sefydlwyd grŵp e-bost ar gyfer aelodau staff  er mwyn eu galluogi i dderbyn hysbysiadau drwy e-bost am ostyngiadau a hyrwyddiadau tymor-byr, cynigion arbennig a digwyddiadau, a diweddariadau i wefan Gostyngiadau Staff. I ymuno, ewch i dudalen ymuno â Gostyngiadau Staff a llenwch y ffurflen. Nodwch fod hon yn wefan INSRV ddiogel ac os cewch unrhyw negeseuon neu dystysgrifau diogelwch mae’n ymwneud â gwahaniaethau porwr a gallwch glicio ar 'allow' neu 'continue' er mwyn cael mynediad at y dudalen. Byddant yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost, ond byth am eich enw defnyddiwr rhwydwaith neu’ch cyfrinair.

Ymwadiad

Sylwer Nid yw Prifysgol Caerdydd yn cefnogi nac yn argymell unrhyw un o’r cynhyrchion, gwasanaethau na’r sefydliadau a restrir isod na’r buddion a/neu’r gostyngiadau maent yn eu cynnig. Mae’r penderfyniad i dderbyn y buddion a/neu gostyngiadau a amlinellir yn ddibynnol ar gytundeb rhwng y staff a’r sefydliadau dan sylw. Mae’r penderfyniad i fyny i chi’n llwyr a dylid codi unrhyw ymholiadau gyda’r sefydliad perthnasol yn uniongyrchol. Cynghorir chi i arfer diwydrwydd wrth ddewis unrhyw un o’r buddion a gostyngiadau a amlinellir ag y byddech wrth wneud unrhyw bryniant arall.

Sylwch fod y buddion a’r gostyngiadau sydd ar gael yn agored i’w newid. Cynghorir chi’n gryf i wirio dilysrwydd y cynigion a amlinellir yn uniongyrchol â’r sefydliad dan sylw cyn dechrau eich pryniant.

Cysylltwch â ni

Os oes gan eich sefydliad chi ddiddordeb mewn darparu buddion a/neu ostyngiadau  ar gyfer staff Prifysgol Caerdydd, os ydych yn gwybod am sefydliad sy’n dymuno cymryd rhan neu os hoffech drafod y buddion a’r gostyngiadau hyn ymhellach, cysylltwch â:

Amgylchedd Gweithio Cadarnhaol

E-bost: PWE@caerdydd.ac.uk

Ffôn: (029) 2087 9230

Posteri

Os ydych yn dymuno lawrlwytho posteri’n hysbysebu buddion a gostyngiadau staff, er mwyn eu harddangos yn eich Hadran chi neu i’w defnyddio yn eich pecynnau ymsefydlu staff, rydym wedi darparu fersiynau Cymraeg a Saesneg ar:

Nodwch, er mwyn hwyluso argraffu postiwyd y rhain ar ffurf ffeiliau Microsoft Publisher. Cysylltwch â ni os hoffech i ni anfon fersiwn jpeg atoch drwy neges e-bost.