Cyfleusterau i’r Staff
Gan fod modd i bob aelod o’r staff ddefnyddio amrywiol gyfleusterau’r Brifysgol, gobeithio y cewch chi gyfle i’w defnyddio nhw tra byddwch chi yma. Cliciwch ar y cysylltau isod i gael gwybod am y cyfleusterau sydd ar gael:
- Academi Llais Ryngwladol Caerdydd
- Caplaniaid Prifysgol Caerdydd
- Y Cyfleusterau Arlwyo
- Gofal Plant
- Y Cyfleusterau Cyfrifiadurol
- Y Clinig Llygaid
- Canolfan y Graddedigion
- Y Llyfrgelloedd
- Iechyd Galwedigaethol
- Y Cyfleusterau Chwaraeon ac Ymarfer
- Cynghori Personol i’r Staff
- Undeb y Myfyrwyr
- Y Ganolfan Les
Academi Llais Ryngwladol Caerdydd
Mae un o sêr mwyaf blaenllaw byd opera, Dennis O’Neill, wedi cydweithio â Phrifysgol Caerdydd i greu Academi ryngwladol newydd a fydd yn hyfforddi darpar sêr byd canu. Cartref Academi Caerdydd yw Tŷ Birchwood yn Neuadd y Brifysgol yng Nghyncoed, a bydd hi’n llwyfannu amryw o berfformiadau cyhoeddus yn ystod y tymhorau. Gall aelodau o’r staff brynu tocynnau ar ddisgownt i fynd iddynt. Ewch i wefan yr Academi i gael gwybod rhagor.
Caplaniaid Prifysgol Caerdydd
Tîm eciwmenaidd o dri enwad – yr Anglicaniaid, y Catholigion a’r Methodistiaid – yw Caplaniaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’n gaplaniaeth ar y campws ac yn gweithio gyda holl aelodau’r Brifysgol, pa enwad crefyddol bynnag y maen nhw’n perthyn iddo. I gael gwybod rhagor am Gaplaniaeth y Brifysgol, ac i weld cysylltau i’r mannau o addoliad sydd gan grefyddau eraill, ewch i wefan y Gaplaniaeth.
Y Cyfleusterau Arlwyo
Mae gan y Brifysgol amryw o fwytai, siopau coffi a chaffes seibr, a chewch restr ohonyn nhw ar y wefan. Gan fod Prifysgol Caerdydd yn falch o’r ffaith iddi sicrhau statws Masnach Deg, mae cynhyrchion Masnach Deg ar gael ym mhob un o’r allfeydd arlwyo. Mae detholiad o ryseitiau gan gogyddion o fri i’w cael ar y wefan, a bydd y cogyddion wrth law’n aml i roi rhagor o fanylion am y dewisiadau sydd ar gael ac i helpu i fodloni unrhyw ofynion dietegol. Efallai y gallan nhw hefyd fod ar gael i gynnig cyngor i chi ynghylch pob mater sy’n ymwneud â choginio. Cysylltwch â Catering@Caerdydd.ac.uk.
Gofal Plant
Mae gan y Brifysgol ganolfan gofal dydd sy’n cynnig gofal i 64 o blant rhwng 10 wythnos oed a 5 oed sydd gan staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. I gael gwybod rhagor, ewch i’r Ganolfan Gofal Dydd yn 43-45 Plas y Parc, neu i’r wefan.
Mae’r Brifysgol yn rhedeg cynllun talebau gofal plant sy’n fodd i chi gyfnewid rhan o’ch cyflog am dalebau gofal plant. Mae cost y talebau’n rhydd rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Gallwch chi ddefnyddio talebau gofal plant i dalu am amrywiaeth mawr o ddarpariaeth gofal i blant hyd at un ar bymtheg oed. Gall yr holl drefniadau gofal-plant presennol aros yr un fath; dim ond y dull o dalu sy’n newid o ganlyniad i’r cynllun hwn. I gael gwybodaeth fwy cynhwysfawr, cysylltwch â BusyBees ar Radffon 08000 430860.
Y Cyfleusterau Cyfrifiadurol
Mae rhwydwaith cyflymder-uchel y Brifysgol yn sicrhau mynediad bob awr o’r dydd a’r nos i’r feddalwedd ddiweddaraf o unrhyw gyfrifiadur rhwydwaith ar y campws, neu o unman yn y byd drwy’n gwasanaeth mynediad o bell. P’un a oes arnoch chi eisiau cael cymorth gyda thechnoleg gwybodaeth, cyrchu’ch e-byst, rhentu gliniadur neu wella’ch sgiliau drwy logi lle ar gwrs hyfforddi, cewch y wybodaeth angenrheidiol ar wefan INSRV.
Y Clinig Llygaid
Os bydd staff yn defnyddio offer sgrin arddangos am fwy na 21 awr yr wythnos, mae ganddyn nhw hawl i TRF (ffurflen trosglwyddo arian rhwng adrannau). Rhaid iddyn nhw ofyn i’w hadran am TRF i dalu cost yr archwiliad o’u llygaid. Mewn rhai achosion, mae hi hefyd yn bosibl cael cymorth i dalu am sbectol.
Os nad ydyn nhw’n gymwys i gael TRF, gall y staff gael eu gweld gan ein Hoptometrydd preswyl. Mae ganddyn nhw’r hawl i dalu pris gostyngol am Archwiliad o’u Llygaid a chael 10% o ostyngiad ar gost sbectol.
Os byddan nhw’n ddigon caredig i roi ychydig yn rhagor o’u hamser i ddod i’r clinig i fyfyrwyr yn ystod y tymor, bydd ganddyn nhw hawl i gael archwiliad am ddim o’u llygaid a gostyngiad o 20% ar gost sbectol. Yng nghlinig y myfyrwyr, byddwn ni hefyd yn cynnig ffitio lensys cyffwrdd am ddim, eu gwisgo am gyfnod arbrofol, ac apwyntiadau ôl-ofal. Byddwn ni’n cystadlu’n frwd ag arweinwyr y farchnad hon.
Mae gennym ni amrywiaeth helaeth o fframiau a lensys dylunydd i ateb pob angen a phoced. Bydd gennym gynigion ar fframiau ar hyd y flwyddyn.
Sylwch y byddwn ni hefyd yn rhedeg clinigau dyslecsia, clinigau golwg gwan, clinigau asesiad arbennig a llu o rai eraill. Bydd croeso mawr hefyd i gyfeillion a theuluoedd y staff gan ein bod ni’n agored i’r cyhoedd.
Canolfan y Graddedigion
Bydd croeso i aelodau’r staff ddefnyddio cyfleusterau Canolfan y Graddedigion. Ymhlith y rheiny mae Bar Caffe a Lolfa, ynghyd â mynediad diwifr i rwydwaith y Brifysgol. Mae’r Ganolfan ar drydydd llawr adeilad yr Undeb ym Mhlas y Parc ac ar agor Llun-Sadwrn 08:00 – 24:00 a 12:00 – 24:00 ar y Sul. Gan mai’r ôl-raddedigion sy’n cael y flaenoriaeth o ran defnyddio’r ystafelloedd cyfarfod, sylwch nad yw’r ystafelloedd hynny fel arfer ar gael i’r staff.
Y Llyfrgelloedd
Fel aelod o’r staff, cewch ddefnyddio’r llyfrgelloedd sydd gennym ar 18 safle. Maen nhw’n gyfleus o agos i’r ysgolion academaidd y maen nhw’n eu cynorthwyo, ac yn cynnig amrywiaeth mawr o adnoddau gwybodaeth yn ogystal â mynediad i gyfleusterau llungopïo a TG.
Iechyd Galwedigaethol
Diben yr Uned Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd ac Amgylchedd (OSHEU) yw darparu canolfan ragoriaeth i hybu iechyd a diogelwch staff, myfyrwyr ac ymwelwyr â Phrifysgol Caerdydd, a chreu a chynnal man gweithio diogel ac amgylchedd gweithio diogel. Gwnaiff hi hynny drwy ledaenu gwybodaeth, cyfarwyddiadau a hyfforddiant a thrwy archwilio a monitro’n rheolaidd.
Gall yr uned roi cyngor ac arweiniad ynghylch polisïau a gweithdrefnau, a gwybodaeth am faterion iechyd. I gael gwybod rhagor, ewch i wefan yr uned. Os hoffech chi gysylltu â Nyrs Iechyd Galwedigaethol, ffoniwch x74810 neu e-bostiwch occupationalhealth@Caerdydd.ac.uk.
Y Cyfleusterau Chwaraeon ac Ymarfer
Mae amryw o gyfleusterau chwaraeon ac ymarfer, ac amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd sy’n cynnig cyfraddau gostyngol i staff, ar gael ar gampws y Brifysgol. Felly, os yw sialens rhedeg, cyfuniad bale neu yoga’n apelio atoch, mae yma rywbeth i bawb.
Ym Mhlas y Parc y mae Canolfan Ffitrwydd a Sboncen y Brifysgol (ffoniwch 02920 876706). Cynigir ffioedd gostyngol i staff ar gyfer sesiynau cychwynnol yn y gampfa, yn ogystal â ffioedd gostyngol am asesiadau o ffitrwydd, cynllunio rhaglenni, sesiynau hyfforddiant personol, arweiniad ynghylch maeth, ac ymgynghori ynghylch ffitrwydd. Ymhlith y cyfleusterau chwaraeon eraill mae Canolfan Chwaraeon y Brifysgol yn Nhal-y-bont (ffoniwch 02920 874675) a Chaeau Chwarae’r Brifysgol yn Llanrhymni (ffoniwch 02920 777377). I gael gwybod rhagor am y cyfleusterau, ewch i’r wefan chwaraeon ac ymarfer.
Cynghori Personol i’r Staff
Mae gwasanaeth Cynghori Personol i’r Staff ar gael i gynnig cymorth ynghylch materion fel pryder, pwysau (‘stress’), iselder, diffyg hyder, trafferthion perthynas â phobl eraill, pyliau o banig, trafferthion rhywioldeb, cam-drin, dicter, profedigaeth, problemau ynghylch defnyddio cyffuriau neu alcohol, problemau iechyd, trawma ar ôl digwyddiad anodd, pwysau yn y gwaith, a bwlio/aflonyddu. Gwasanaeth diplomatig a chyfrinachol yw hwn, a’r nod yw’ch helpu chi i ymdrin ag unrhyw drafferth a all eich wynebu. I gael gwybod rhagor am y gwasanaeth, ewch i’r Wefan Cynghori Personol i Staff, neu e-bostiwch staffcounselling@Caerdydd.ac.uk.
Undeb y Myfyrwyr
Mae croeso i bob aelod o’r holl staff ddefnyddio holl gyfleusterau Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys y bar Tafarn, Siop goffi CF10, siop ac Ystafell Chwaraeon yr Undeb, a’r siopau sydd yn adeilad yr Undeb. Gall y staff hefyd ddod i’r gigiau sy’n cael eu cynnal yno – mae’r tocynnau ar werth yn swyddfa docynnau adeilad yr Undeb (ffoniwch 02920 781458) neu ar-lein. Gall aelodau o’r staff hefyd elwa o ddisgowntiau yn siop Blackwells Books, Cardiff Student Letting a’r Siop TG – maen nhw i gyd ar lawr gwaelod adeilad Undeb y Myfyrwyr ar Blas y Parc.
Y Ganolfan Les
Hoffech chi gael sesiwn o dylino i’ch ymlacio? Neu a oes angen help arnoch chi i wella ar ôl cael anaf wrth chwarae gêm? Mae’r Ganolfan Les ar Blas y Parc yn cynnig therapi harddwch proffesiynol, tylino chwaraeon, aromatherapi a therapi llawdriniol. Cewch ragor o wybodaeth a manylion cysylltu ar wefan y Clinig Lles.



