Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Lles wrth Weithio

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau lles holl aelodau ei staff wrth iddyn nhw weithio. Yn yr adran hon cewch wybod sut y gallwch chi gynnal eich iechyd a’ch lles, ac i ble y gallwch chi fynd i gael help os bydd arnoch ei angen.

 

Urddas wrth Weithio
Gan mai’n gobaith ni yw y cewch chi amser cadarnhaol yma, nod y Brifysgol yw sefydlu diwylliant cynhwysol sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ac wedi’i seilio ar urddas, cwrteisi a pharch. Am fod gan bawb yr hawl i gael ei drin/ei thrin felly, ac i sicrhau y caiff y gwerthoedd hynny eu gweithredu, mae gan y Brifysgol Bolisi ar Urddas wrth Weithio ac Astudio. Mae ganddi hefyd rwydwaith o Ymgynghorwyr Urddas a all gynnig cyngor os cewch chi broblemau wrth i chi weithio. I gael gwybod rhagor, i lwytho’r polisi i lawr neu i gael eich rhoi mewn cysylltiad ag Ymgynghorydd Urddas, ewch i we-dudalen Urddas wrth Weithio ac Astudio.

Y Clinig Llygaid 
Os bydd staff yn defnyddio offer sgrin arddangos am fwy na 21 awr yr wythnos, mae ganddyn nhw hawl i TRF (ffurflen trosglwyddo arian rhwng adrannau). Rhaid iddyn nhw ofyn i’w hadran am TRF i dalu cost yr archwiliad o’u llygaid. Mewn rhai achosion, mae hi hefyd yn bosibl cael cymorth i dalu am sbectol.

Os nad ydyn nhw’n gymwys i gael TRF, gall y staff gael eu gweld gan ein Hoptometrydd preswyl. Mae ganddyn nhw’r hawl i dalu pris gostyngol am Archwiliad o’u Llygaid a chael 10% o ostyngiad ar gost sbectol.

Os byddan nhw’n ddigon caredig i roi ychydig yn rhagor o’u hamser i ddod i’r clinig i fyfyrwyr yn ystod y tymor, bydd ganddyn nhw hawl i gael archwiliad am ddim o’u llygaid a gostyngiad o 20% ar gost sbectol. Yng nghlinig y myfyrwyr, byddwn ni hefyd yn cynnig ffitio lensys cyffwrdd am ddim, eu gwisgo am gyfnod arbrofol, ac apwyntiadau ôl-ofal. Byddwn ni’n cystadlu’n frwd ag arweinwyr y farchnad hon.

Mae gennym ni amrywiaeth helaeth o fframiau a lensys dylunydd i ateb pob angen a phoced. Bydd gennym gynigion ar fframiau ar hyd y flwyddyn.

Sylwch y byddwn ni hefyd yn rhedeg clinigau dyslecsia, clinigau golwg gwan, clinigau asesiad arbennig a llu o rai eraill. Bydd croeso mawr hefyd i gyfeillion a theuluoedd y staff gan ein bod ni’n agored i’r cyhoedd.

Y Cynllun Mentora 
Gan fod pobl weithiau’n gallu teimlo braidd yn betrus wrth ymuno â sefydliad newydd, mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau y caiff staff newydd eu helpu i ymgyfarwyddo â’u rôl, y tîm a’r Brifysgol. Pan ymunwch chi â’r Brifysgol, cewch gyfle i droi at fentor a all roi cymorth annibynnol i chi. I gael gwybod rhagor, siaradwch â’ch rheolwr(aig) llinell, ewch i wefan Adnoddau Dynol neu ffoniwch Adnoddau Dynol ar x74897.

Iechyd Galwedigaethol 
Gall yr Uned Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd ac Amgylchedd (OSHEU) roi cyngor ac arweiniad ynghylch polisïau a gweithdrefnau, a gwybodaeth am faterion iechyd. Gall Iechyd Galwedigaethol gynnig cyngor ynghylch materion fel sefydlu’ch gweithfan, pwysau gwaith, neu hyd yn oed ymarferion y gallwch chi eu gwneud yn ystod cyfnodau maith o weithio wrth sgrin cyfrifiadur.

I gael gwybod rhagor, ewch i wefan yr uned. Os hoffech chi gysylltu â Nyrs Iechyd Galwedigaethol, ffoniwch x74810 neu e-bostiwch occupationalhealth@caerdydd.ac.uk.

Chwaraeon ac Ymarfer 
Mae amryw o gyfleusterau chwaraeon ac ymarfer, ac amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd sy’n cynnig cyfraddau gostyngol i staff, ar gael ar gampws y Brifysgol. Felly, os yw sialens rhedeg, cyfuniad bale neu yoga’n apelio atoch, mae yma rywbeth i bawb.

Ym Mhlas y Parc y mae Canolfan Ffitrwydd a Sboncen y Brifysgol (ffoniwch 02920 876706). Cynigir ffioedd gostyngol i staff ar gyfer sesiynau cychwynnol yn y gampfa, yn ogystal â ffioedd gostyngol am asesiadau o ffitrwydd, cynllunio rhaglenni, sesiynau hyfforddiant personol, arweiniad ynghylch maeth, ac ymgynghori ynghylch ffitrwydd. Ymhlith y cyfleusterau chwaraeon eraill mae Canolfan Chwaraeon y Brifysgol yn Nhal-y-bont (ffoniwch 02920 874675) a Chaeau Chwarae’r Brifysgol yn Llanrhymni (ffoniwch 02920 777377). I gael gwybod rhagor am y cyfleusterau, ewch i’r wefan chwaraeon ac ymarfer.

Cynghori Personol i’r Staff 
Mae gwasanaeth Cynghori Personol i’r Staff ar gael i gynnig cymorth ynghylch materion fel pryder, pwysau (‘stress’), iselder, diffyg hyder, trafferthion perthynas â phobl eraill, pyliau o banig, trafferthion rhywioldeb, cam-drin, dicter, profedigaeth, problemau ynghylch defnyddio cyffuriau neu alcohol, problemau iechyd, trawma ar ôl digwyddiad anodd, pwysau yn y gwaith, a bwlio/aflonyddu. Gwasanaeth diplomatig a chyfrinachol yw hwn, a’r nod yw’ch helpu chi i ymdrin ag unrhyw drafferth a all eich wynebu. I gael gwybod rhagor am y gwasanaeth, ewch i’r Wefan Cynghori Personol i Staff, neu e-bostiwch staffcounselling@caerdydd.ac.uk.

Caplaniaid y Brifysgol 
Tîm eciwmenaidd o dri enwad – yr Anglicaniaid, y Catholigion a’r Methodistiaid – yw Caplaniaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’n gaplaniaeth ar y campws ac yn gweithio gyda holl aelodau’r Brifysgol, pa enwad crefyddol bynnag y maen nhw’n perthyn iddo. I gael gwybod rhagor am Gaplaniaeth y Brifysgol, ac i weld cysylltau i’r mannau o addoliad sydd gan grefyddau eraill, ewch i wefan y Gaplaniaeth.

Y Ganolfan Les 
Hoffech chi gael sesiwn o dylino i’ch ymlacio? Neu a oes angen help arnoch chi i wella ar ôl cael anaf wrth chwarae gêm? Mae’r Ganolfan Les ar Blas y Parc yn cynnig therapi harddwch proffesiynol, tylino chwaraeon, aromatherapi a therapi llawdriniol. Cewch ragor o wybodaeth a manylion cysylltu ar wefan y Clinig Lles.

Cydbwysedd rhwng Gwaith a Bywyd 
Mae amrywiaeth o bolisïau a chanllawiau ar gael i helpu’r staff i ymdopi ag ymrwymiadau teuluol ac allanol a sicrhau’r cydbwysedd hollbwysig hwnnw rhwng gwaith a bywyd. Mae’r polisïau’n trafod absenoldeb mabwysiadu, absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb rhiant, absenoldeb dibynyddion, gweithio hyblyg, absenoldeb arbennig, egwyliau gyrfa a dyletswyddau dinesig a chyhoeddus. Mae’r holl bolisïau ar gael i’w llwytho i lawr, neu fe allwch chi gael cyngor ac arweiniad drwy ffonio Adnoddau Dynol ar 02920 874897.