Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Preview Cardiff University’s special Founders’ Day supplement here

Your computer cannot play the video in your browser. To fix this, you need to make sure both Javascript and Adobe Flash are available.

Get the Adobe Flash plug-in by clicking here

To find out how to enable JavaScript, check the Help option for your browser.


Cardiff University campus users

If you are on the Cardiff University campus and have problems with plug-ins or browsers, you can contact the INSRV Helpdesk on extension 74487 or visit the INSRV webpages


Egwyddorion Sefydlu Cryf

Croesawyd y newyddion bod Caerdydd wedi’i dethol i fod yn gartref i goleg prifysgol newydd yng Nghymru fel newyddion bod dinas gyfoes wedi ennill y Gemau Olympaidd.

 

Sefydlwyd y coleg newydd ar y sail y dylai addysg uwch fod ar gael i bawb, beth bynnag fo’u hoed, rhyw neu gefndir – egwyddorion sydd wedi bod yn fuddiol i’r Brifysgol am 125 o flynyddoedd.

 

Gosodwyd llawer o’r egwyddorion cyntaf hyn gan Brifathro cyntaf y Brifysgol, yr Athro John Viriamu Jones. Roedd yn ffisegydd penigamp a benodwyd i’r swydd yn 27 oed.

 

Rhagor

Gwyneth Lewis

Addysg

I ddathlu Pen-blwydd Prifysgol Caerdydd yn 125 oed

 

Beiddia feiddio,
gwellha dy wneud.
Mynna geisio,
parcha ddweud.


Trawsnewidiad
fydd dy glod.
Dy ddyfodol:
mentro bod.

 

Learning’s a passport that returns you home
a better person. It permits you to dare
being daring. Makes you secure
with not knowing everything. Helps you welcome

 

some failure. Forges an alloy
with others’ thinking. It is simple delight
in mind and its motions. Scintillates
but isn’t deceptive. Admits the joy

 

of institutes, is the open road
to everywhere but bigotry.
It’s the shortest distance between you and me
and, if you’re lucky, it never ends.

 

Gwyneth Lewis

 

Gwrando ar Addysg (Cymraeg)

Gwrando ar Addysg (Saesneg)

 

Dysgu rhagor am Gwyneth Lewis

Cymerwch olwg y tu mewn i weld sut mae Prifysgol Caerdydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 125 oed, a chymerwch gipolwg ar yr eitemau newyddion llawn o’r erthyglau ar y we.

Prifysgol i fod yn falch ohoni

Mae ymchwil ragorol, addysgu o safon uchel ac ymagwedd arloesol tuag at ddatrys problemau wedi arwain at Brifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel un o brifysgolion gorau’r DU. Mae cydnabyddiaeth felly’n dod â buddion yn ei sgil, nid yn unig i’r brifysgol, ond hefyd i’n llu o bartneriaid a chydweithwyr ar hyd a lled Cymru ac yn rhyngwladol.

Ymestyn ffiniau gwybodaeth

Mae ymchwil Prifysgol yn chwarae rhan hanfodol i ymestyn ffiniau gwybodaeth a dealltwriaeth. Mae’n cyflawni buddion i iechyd, ffyniant a datblygiad cymdeithas. Mae ein hymchwil yn ymestyn i ddyfnderoedd cefnforoedd, pellafion eithaf y gofod, ar draws canrifoedd o hanes, ac at agweddau ar gymdeithas.

Buddsoddi yn ein dyfodol

Cynwysoldeb yw un o’n gwerthoedd a goleddir fwyaf, a gellir ei olrhain yn ôl i’r cyfnod cyntaf pan sefydlwyd y Brifysgol, pan oedd dynion a menywod yn cael eu derbyn ar delerau cyfartal. Heddiw, mae cynwysoldeb yn parhau’n amlwg ar draws y Brifysgol gyfan.