Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Llywodraethu a Chydymffurfio

Mae’r Adran Llywodraethu a Chydymffurfio yn darparu cyngor proffesiynol i’r Brifysgol wrth iddi geisio sicrhau rhagoriaeth yn ei haddysgu a’i hymchwil. Cyfarwyddwr yr Adran yw Mrs Carole Evans a’r Dirprwy Gyfarwyddwr yw Mrs Ruth Robertson.

Ar ran Cyfarwyddwr y Gofrestrfa, Llywodraethu a Myfyrwyr, yr Adran sy’n gyfrifol am gynorthwyo strwythurau llywodraethu’r Brifysgol (y Cyngor, y Llys, y Senedd) ac am gydlynu busnes, aelodaeth a threfniadau gweinyddol y prif bwyllgorau; cynorthwyo amryw o weithdrefnau sy’n ymwneud â chwynion/uniondeb (gan gynnwys proses gwyno y myfyrwyr); cydlynu parhad y busnes a rheoli cofnodion; cydlynu’r Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg a helpu i ddatblygu’r ddarpariaeth academaidd Cyfrwng Cymraeg.

Yn ogystal, mae’n gyfrifol am gynghori’r Brifysgol ac arwain ynghylch datblygu polisi a gweithdrefnau ynglŷn â’r arferion gorau, mewn perthynas â chydymffurfio â rhwymedigaethau statudol a gorfodol ganddi ym meysydd: cydraddoldeb ac amrywiaeth; hawliau i wybodaeth, mynediad a chadw cofnodion; defnyddio meinweoedd dynol; yr iaith Gymraeg.

Cewch wybod rhagor am y materion hynny a’r cysylltiadau perthnasol drwy ddilyn y cysylltau hyn:

(mae’r cysylltau glas uchod yn gysylltau i we-dudalennau eraill).

Dyma’r cyfeiriad post:
GOVRN, 4ydd Llawr
Tŷ McKenzie
30-36 Newport Road
Caerdydd
CF24 0DE

Gellir anfon ymholiadau cyffredinol i:
Governance@Caerdydd.ac.uk
Ffôn: 029 208 79351