Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Llywodraethiant

Mae’r fframwaith cyfansoddiadol y mae Prifysgol Caerdydd yn gweithredu o’i fewn wedi’i seilio ar ei Siarter, ei Statudau a’i Hordiniannau. Y Siarter sy’n diffinio amcanion, pwerau a swyddogion y Brifysgol, ac mae egwyddorion mor sylfaenol â phŵer y Brifysgol i addysgu, arholi, gwneud ymchwil a dyfarnu graddau wedi’u hymgorffori ynddi. Yn y Statudau manylir ynghylch aelodau’r Brifysgol, ei swyddogion, a’r rheolau ynglŷn â chyrff statudol, ac yn yr Ordiniannau ceir manylion ymarferol am y ffordd y llywodraethir y Brifysgol o fewn fframwaith cyffredinol y Siarter a’r Statudau, yn enwedig o ran cylch gorchwyl ei phwyllgorau.

Y Cyngor

Cyngor y Brifysgol yw awdurdod gweithredol y Brifysgol, ac ef sy’n gyfrifol am reoli a gweinyddu cyllid ac eiddo’r Brifysgol. Y Cyngor sydd â’r grym i benderfynu’n derfynol ar bob mater sy’n effeithio ar y Brifysgol. Cyhoeddir Llawlyfr i’r aelodau ac ynddo fe nodir eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau fel aelodau o’r Cyngor. Mae’r Llawlyfr ar gael fel adnodd ar ochr dde’r we-dudalen hon. Y Cyngor sy’n gyfrifol am benodi Penaethiaid yr Ysgolion Academaidd.
Bydd y Cyngor yn adolygu ei effeithiolrwydd yn rheolaidd. Mae’r cynllun gweithredu cyfredol sy’n deillio o’i adolygiad diweddaraf ar gael fel adnodd ar y tudalen hwn.
Cadeirydd y Cyngor yw Syr Keith Peters; yr Is-Gadeirydd yw Mr R N Roberts.

Y Senedd

Senedd y Brifysgol yw prif awdurdod academaidd y Brifysgol a hi sy’n gyfrifol am bennu polisi addysgol y Brifysgol. Yr Is-Ganghellor yw Cadeirydd y Senedd.

Y Llys

Yn ei gyfarfod ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn caiff llys y Brifysgol Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol y Brifysgol. Cadeirydd y Llys yw Llywydd y Brifysgol, yr Athro Syr Martin Evans.

Y Pwyllgor Archwilio

Un o is-bwyllgorau’r Cyngor yw’r Pwyllgor Archwilio. Bydd yn monitro ac yn adolygu systemau rheoli mewnol eraill y Brifysgol, gan gynnwys gwaith yr uned archwilio mewnol, i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â gofynion gorfodol Cod Ymarfer Archwilio CCAUC; yn cynghori’r Cyngor ynghylch a yw systemau a gweithdrefnau’r Brifysgol yn hyrwyddo darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, yn diogelu asedau’r Brifysgol ac yn rhwystro ac yn canfod twyll ac unrhyw afreoleidd-dra arall. Bydd yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol ar ei weithgareddau, ynghyd ag Adroddiad blynyddol y Gyd-Uned Archwilio Mewnol, i’r Cyngor. Mae fersiynau cyfredol y dogfennau hynny ar gael fel adnodd ar y tudalen hwn.
Cadeirydd y Pwyllgor yw Mr Alex Embiricos.

Datgan Budd

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i’r safonau uchaf o ran bod yn agored, yn unplyg ac yn atebol. Cais gyflawni ei materion yn gyfrifol gan roi sylw i’r egwyddorion a sefydlwyd gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (a elwid yn Bwyllgor Nolan gynt). Disgwylir i’r staff ar bob lefel gydymffurfio â’r egwyddorion hynny. Mae gofyn i’r Adran Adnoddau Dynol, ar ran y Brifysgol, gasglu a dilysu gwybodaeth oddi wrth bob aelod o’r staff. I gael gwybod rhagor, ewch i wefan yr Adran Adnoddau Dynol.

Yn ogystal, mae gofyn i’r aelodau o’r Cyngor, o’r Pwyllgor Strategaeth ac Adnoddau ac o’r Pwyllgor Archwilio a’r uwch-reolwyr (Penaethiaid yr Ysgolion a’r Cyfarwyddiaethau Gweinyddol) ddatgelu unrhyw fudd sydd ganddynt, a hynny yn y gofrestr o fuddiannau sydd gan y Brifysgol. Cedwir y gofrestr honno gan yr Adran Llywodraethu a Chydymffurfio. Mae’r Cofrestri cyfredol ar gael fel adnodd ar y we-dudalen hon.