Croeso i Ganolfan y Graddedigion
Ynghylch
Swyddogaeth Canolfan y Graddedigion, ein Horiau Agor, Lleoliad a Mynediad, Manylion Cyswllt Staff, Strwythur a Pholisïau, a chyfleoedd i ddarparu Adborth.
Cyfleusterau a Gwasanaethau
Darperir ystod o gyfleusterau cymdeithasol ac astudio i ôl-raddedigion, gan gynnwys Gofod Cymdeithasu, Ystafelloedd Cyfarfod ac Adnoddau Cyfrifiadurol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys y newyddion diweddaraf ar ffurf Bwletinau E-bost.
Canolfan y Graddedigion Parc y Mynydd Bychan
Rydym yn falch cyhoeddi bod Canolfan y Graddedigion Parc y Mynydd Bychan ar agor. Mae gan ôl-raddedigion fynediad at leoliad astudio a chymdeithasol dynodedig wedi’i leoli ym Mhrif Adeilad yr Ysbyty, a gellir cael mynediad ato trwy fynedfa’r Ysgol
Feddygol
Digwyddiadau
Gallwch weld ein calendar o Ddigwyddiadau Cymdeithasol, ar gyfer y flwyddyn, yn ogystal â’n hamserlen flynyddol o Deithiau Bwsi leoedd gwych ar hyd a lled y DU.
Parti Haf y Graddedigion, nos Wener 14 Mehefin rhwng 8pm a 2am
Bar a phabell fawr, The Vanilla Rooms, The Park House Club
Tocynnau ar werth nawr - £15 ymlaen llaw (ar gael yn Nerbynfa Canolfan y Graddedigion)
Mynnwch eich tocyn nawr ar gyfer yr unig barti haf eleni ar gyfer myfyrwyr gradd. Mae croeso i raddedigion brynu tocynnau i westeion. Mae nifer cyfyngedig o docynnau ar gael, felly prynwch yn fuan i osgoi cael eich siomi! Rhagor o wybodaeth (testun ar gael yn Saesneg yn unig).


