Polisïau'r Ganolfan y Graddedigion
Oni nodir fel arall, mae’r polisïau hyn yr un mor gymwys i’r Ganolfan i Raddedigion ar gampws Parc Cathays (Adeilad yr Undeb, Llawr 3) a’r Ganolfan i Raddedigion ar gampws Mynydd Bychan (Prif Adeilad yr Ysbyty, Ystafell 2TB233.). Os oes yna bolisïau gwahanol i leoliadau gwahanol, bydd hyn yn cael ei nodi.
1. Llywodraethiant y Canolfannau i Raddedigion
2. Defnyddwyr Cymwys
3. Plant
4. Oriau Agor a Staffio
5. Polisïau’r Mannau Unigol
6. Yr Ystafell Gyfrifiaduron
7. Yr Ystafell Ddarllen
8. Y Lolfa
9. Y Bar Caffi
10. Man Cymdeithasu (Parc Mynydd Bychan)
11. Man Astudio (Parc Mynydd Bychan)
12. Polisi Llogi Ystafelloedd
12.1. Defnyddio Offer a Gwasanaethau Eraill
12.2. Ystafelloedd Cyfarfod: Eu Defnyddio at Astudio gan Grwpiau
12.3. Ystafelloedd Cyfarfod: Eu Defnyddio at Astudio gan Unigolion
12.4. Ystafelloedd Cyfarfod: Cyrraedd yn Hwyr, Canslo a Methu Cyrraedd
12.5. Yr Ystafell Gyfarfod: Canolfan Graddedigion Parc Mynydd Bychan
13. Loceri
14. Peiriannau Gwerthu
15. Cyrchu Rhwydwaith y Brifysgol yn Ddiwifr
16. Hysbysfyrddau
17. Eiddo Coll
18. Adborth ac Awgrymiadau
19. Cwynion
20. Diogelwch
21. Gwagio’r Adeilad mewn Tân neu Argyfwng
22. Ysmygu
23. Gweithdrefnau Disgyblu
1. Llywodraethiant y Canolfannau i Raddedigion
Mae polisïau’r Canolfannau i Raddedigion yn cael eu goruchwylio gan Dîm y Rhaglen Cyfleusterau Graddedigion yng Ngholeg Graddedigion y Brifysgol. Mae Tîm y Rhaglen yn cael ei gynghori gan Grwpiau Defnyddwyr sy’n cyfarfod yn achlysurol.
2. Defnyddwyr Cymwys
a. Mae’r Ganolfan i Raddedigion yn agored i bob myfyriwr ôl-raddedig sydd wedi ymrestru ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Caerdydd; mae hyn yn cynnwys myfyrwyr ar dystysgrif neu ddiploma ôl-raddedig yn ogystal â myfyrwyr ar gyrsiau Meistr a graddau ymchwil.
Does dim proses ymaelodi ychwanegol ond mae’n rhaid ichi gario cerdyn adnabod Prifysgol Caerdydd sy’n ddilys ar hyn o bryd drwy’r amser a rhaid ichi ddangos eich cerdyn wrth ddod i’r Ganolfan a/neu pan fydd aelod o’r staff yn gofyn amdano. Mae gan y Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Mynydd Bychan system reoli mynediad lle mae’n rhaid cael cerdyn adnabod Prifysgol Caerdydd sy’n ddilys.
b. Mae gan staff presennol Prifysgol Caerdydd a chyn-fyfyrwyr cofrestredig Prifysgol Caerdydd hawl hefyd i ddefnyddio’n cyfleusterau a dod i’n digwyddiadau, ond mae blaenoriaeth bob amser yn cael ei rhoi i fyfyrwyr cyfredol os yw’r lle yn gyfyngedig, er enghraifft ar deithiau bws. Am fod y lle yno’n gyfyngedig, mae blaenoriaeth yn cael ei rhoi i fyfyrwyr yng Nghanolfan y Graddedigion ym Mharc Mynydd Bychan.
c. Caiff myfyrwyr sydd wedi ymrestru ar gyrsiau gradd israddedig nei gyrsiau LEARN ym Mhrifysgol Caerdydd ac sydd eisoes wedi ennill gradd gyntaf (BA, BSc) wneud cais am fynediad i’r Canolfannau i Raddedigion. Bydd y defnyddwyr hyn yn cael cerdyn sy’n gorfod cael ei ddangos yn ychwanegol at gerdyn adnabod y Brifysgol wrth ddod i’r Ganolfan (Parc Cathays). Bydd mynediad i Ganolfan y Graddedigion ym Mharc Mynydd Bychan yn cael ei ychwanegu at gerdyn adnabod y myfyriwr ond ichi ofyn amdano.
d. Mae croeso i’r defnyddwyr cymwys ddod â hyd at ddau o westeion dros 18 oed i ddigwyddiadau cymdeithasol yn y Bar Caffi ym Mharc Cathays, ond ni chaniateir gwesteion yn y mannau astudio. Rhaid llofnodi gwesteion i mewn yn y Dderbynfa. [Gweler y nodiadau ychwanegol am blant isod.]
3. Plant
a. Dim ond yng nghwmni defnyddiwr cymwys y caniateir plant yn y Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Cathays. Mae’r oedolyn sydd gyda’r plant yn gyfrifol am eu hymddygiad drwy’r amser, gan gynnwys sicrhau nad ydyn nhw’n tarfu ar ddefnyddwyr eraill y Ganolfan i Raddedigion. Ni chaniateir plant yn ardal y Bar Caffi pan fo diodydd alcohol ar werth yno a fydd plant byth yn cael eu caniatáu ar y balconi. Os byddan nhw’n tarfu ar ddefnyddwyr eraill, mae staff y Ganolfan i Raddedigion yn cadw’r hawl i wrthod mynediad iddyn nhw.
b. Ni chaniateir i blant fynd i Ganolfan y Graddedigion ym Mharc Mynydd Bychan.
4. Oriau Agor a Staffio
a. Mae’r Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Cathays yn agor am 8.00 am ar ddyddiau’r wythnos ac am hanner dydd ar y penwythnos ac mae’n cau am ganol nos o ganol mis Medi tan ganol mis Gorffennaf ac am 10.00 pm o ganol mis Gorffennaf tan ganol mis Medi. Rhaid i’r defnyddwyr ymadael a’r Ganolfan erbyn yr amser cau dynodedig ac fe gân nhw eu hatgoffa 15 munud cyn iddi gau er mwyn cael gorffen eu gwaith a chadw eu heiddo. Rhaid i unrhyw offer sydd wedi’i gymryd ar fenthyg gan y Ganolfan gael ei ddychwelyd o leiaf 15 munud cyn iddi gau.
b. Ym Mharc Cathays, mae staff ar gael o 8.30 am tan amser cau ar ddyddiau’r wythnos a thrwy’r oriau agor i gyd ar y penwythnos. Mae’r staff wedi’u lleoli yn y Dderbynfa yng nghyntedd y Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Cathays a gallwch eu ffonio ar 029 2087 4748. Mae staff ychwanegol yn cael eu darparu ym Mharc Cathays gan staff diogelwch Undeb y Myfyrwyr, a gellir cysylltu â nhw drwy Dderbynfa’r Undeb ar ail lawr yr adeilad neu drwy ffonio 029 2078 1412.
c. Mae’r Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Mynydd Bychan ar agor 24/7 at astudio a dibenion cymdeithasol, ac eir i mewn drwy ddefnyddio system cerdyn.
d. Does dim staff na goruchwyliaeth gan y Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Mynydd Bychan; gellir cysylltu â staff y Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Cathays drwy eu ffonio yn ystod yr oriau agor uchod.
5. Polisïau’r Mannau Unigol
a. Mae’r Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Cathays wedi’i rhannau’n “barthau” er mwyn cynnig amryw o fannau i ateb anghenion myfyrwyr ôl-raddedig – o fannau tawel i astudio’n unigol i fannau i astudio mewn grŵp, o fannau cymdeithasu i ystafelloedd cyfarfod i’w llogi. Yn yr un modd, mae’r Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Mynydd Bychan wedi’i rhannu’n fan astudio/cyfarfod a man cymdeithasu.
b. Disgwylir i’r ôl-raddedigion barchu’r rheolau y cytunwyd arnyn nhw i bob man penodol ac na fydd angen i’r staff gadw llygad arnyn nhw. Os byddwch yn dod ar draws problemau na allwch eu datrys gyda defnyddwyr eraill, rhowch wybod i aelod o staff y Ganolfan i Raddedigion.
6. Yr Ystafell Gyfrifiaduron (Parc Cathays)
a. Lle i weithio’n dawel ac yn unigol ar gyfrifiaduron y rhwydwaith neu ar eich gliniadur chi’ch hun yw’r Ystafell Gyfrifiaduron. Gwaherddir gwaith grŵp, sgwrsio, trafod a defnyddio ffôn symudol yn yr Ystafell Gyfrifiaduron. Ni chaniateir bwyd na diod, heblaw dŵr mewn potel, ar y byrddau wrth gyfrifiaduron y rhwydwaith. Dylech fod yn ymwybodol fod yr Ystafell Gyfrifiaduron yn union uwchben clwb nos Solus Undeb y Myfyrwyr ac felly fod sŵn o ddigwyddiadau’r Undeb yn effeithio arni ar nosweithiau penodol, yn enwedig yn nhymor yr hydref.
b. Os rhowch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair i rywun arall, neu ganiatáu i rywun arall ddefnyddio’ch cyfrif, byddwch yn torri Rheoliadau’r Brifysgol ar Gyfrifiaduron.
c. Caniateir i’r cyfrifiaduron gael eu cloi am 20 munud fan bellaf; bydd y staff yn datgloi ac yn ailddechrau unrhyw beiriant sydd wedi’i gloi am gyfnod hirach. Dydyn ni ddim yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw waith sy’n cael ei golli os byddwn yn ailddechrau peiriant am eich bod chi wedi’i gloi am fwy na’r cyfnod a ganiateir.
d. Mae modd argraffu a llungopïo ond ichi dalu. Rhaid ichi ddefnyddio’ch cyfrif rhwydwaith i dalu a chewch ychwanegu credyd at eich cyfrif drwy ddefnyddio arian parod a/neu gerdyn credyd/debyd. Gweler y manylion yma
e. Mae’r gwasanaethau argraffu a llungopïo’n cael eu rheoli gan y Gwasanaethau Gwybodaeth (INSRV), felly dim ond staff INSRV a all roi ad-daliad am broblemau wrth lungopïo neu argraffu. Cysylltwch â nhw drwy gyfrwng Cyswllt INSRV ar estyniad 74487, gan ddefnyddio ffôn y Brifysgol yn yr ystafell, neu ar 029 2087 4487.
7. Yr Ystafell Ddarllen (Parc Cathays)
a. Lle i weithio’n dawel ac yn unigol yw’r Ystafell Ddarllen. Gwaherddir gwaith grŵp, sgwrsio, trafod a defnyddio ffon symudol yn yr Ystafell Ddarllen.
b. Caniateir gliniaduron, ond rhaid diffodd y sain ac ni chaniateir defnyddio ffonau clust. Chewch chi ddim gwrando ar gerddoriaeth na fideos yn yr Ystafell Ddarllen.
c. Cewch fwyta a/neu yfed ond mae’n rhaid ichi glirio popeth wedyn a pheidio â gwneud gormod o sŵn.
d. Dylech fod yn ymwybodol fod yr Ystafell Ddarllen yn union uwchben clwb nos Solus Undeb y Myfyrwyr ac felly fod sŵn o ddigwyddiadau’r Undeb yn effeithio arni ar nosweithiau penodol, yn enwedig yn nhymor yr hydref.
e. Bydd y Ganolfan i Raddedigion yn ceisio darparu lle ychwanegol ar gyfer darllen ar yr adegau prysuraf drwy agor yr ystafelloedd cyfarfod at y diben hwnnw. Pan fydd ystafelloedd cyfarfod wedi’u dynodi’n Ystafelloedd Darllen, bydd rheolau’r Ystafell Ddarllen yn gymwys.
8. Y Lolfa (Parc Cathays)
a. Gall y Lolfa gael ei defnyddio at waith grŵp, i syrffio’r we ac i e-bostio, neu i ddarllen ac ymlacio. Cewch fwyta a/neu yfed i ffwrdd o’r byrddau i gyfrifiaduron a rhaid ichi glirio popeth ar eich ôl. Dŵr mewn potel yn unig sy’n cael ei ganiatáu wrth y byrddau i gyfrifiaduron.
b. Caniateir i’r cyfrifiaduron gael eu cloi am 20 munud fan bellaf; bydd y staff yn datgloi ac yn ailddechrau unrhyw beiriant sydd wedi’i gloi am gyfnod hirach. Dydyn ni ddim yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw waith sy’n cae ei golli os byddwn yn ailddechrau peiriant am eich bod chi wedi’i gloi am fwy na’r cyfnod a ganiateir.
9. Y Bar Caffi (Parc Cathays)
a. Mae gwasanaeth bwyd a diod y Bar Caffi’n cael ei redeg a’i staffio’n uniongyrchol gan Undeb y Myfyrwyr, sy’n meddu ar y drwydded i weini diodydd alcohol. I gael yr oriau agor, gweler ein tudalen Oriau Agor.
b. Fel yn achos mangreoedd trwyddedig eraill, chewch chi ddim mynd â diodydd alcohol i’r Bar Caffi nac oddi yno. Caniateir ichi ddod â’ch bwyd eich hun i’r Bar Caffi, ond rhaid ichi ddod â’ch cyllyll a’ch ffyrc a’ch confennau eich hun a chlirio popeth ar eich ôl.
c. Mae yna gysylltiad diwifr â rhwydwaith y Brifysgol ac mae allfeydd pŵer ychwanegol wedi’u darparu er mwyn i liniaduron gael eu defnyddio. Man cymdeithasu yn bennaf yw’r Bar Caffi, felly yn gyffredinol bydd cerddoriaeth gefndir yn chwarae a fyddwn ni ddim fel rheol yn newid yr awyrgylch i greu lle at astudio yn unig.
d. Mae’r teledu ymlaen ar gyfer y newyddion amser cinio fel arfer ac ar gyfer rhaglenni eraill y bydd y defnyddwyr yn gofyn amdanyn nhw. Mae gan y Bar Caffi gonsol Wii - a chewch fenthyg y rheolaeth iddo o’r dderbynfa, yn ogystal â nifer o gemau bwrdd fel gwyddbwyll, tabler, cardiau chwarae a Jenga. Gofynnwch i Staff y dderbynfa am restr lawn.
e. Rhaid ichi adael cerdyn adnabod Prifysgol Caerdydd yn gyfnewid am unrhyw eitem y byddwch yn cymryd ei benthyg, ac fe gewch eich cerdyn yn ôl wrth ddychwelyd yr eitem.
f. Ni chaniateir plant yn y Bar Caffi o gwbl yn ystod oriau gweini alcohol.
I gael rhagor o wybodaeth am logi ystafelloedd a chyfyngiadau ar ddefnyddio’r Bar Caffi, darllenwch y polisïau ynglŷn â’r 'Ystafelloedd Cyfarfod’.
10. Man Cymdeithasu (Parc Mynydd Bychan)
a. Mae yna chwaraeydd BluRay, cysylltiad ar gyfer chwaraeydd mp3, a Nintendo Wii ichi eu defnyddio. Mae’r cyfarwyddiadau ar ddefnyddio’r rhain i’w gweld yng nghwpwrdd yr offer clyweledol. Cewch edrych ar eich disgiau DVD/BluRay eich hun a chwarae’ch cerddoriaeth eich hun. Rhaid i’r holl offer clyweledol (rheolaeth Wii, gemau, etc.) yn y man cymdeithasu aros yn y Ganolfan. Os cewch unrhyw broblemau neu os bydd unrhyw ddifrod yn digwydd cysylltwch â’r Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Cathays ar 01798 74748 gan ddefnyddio’r llinell fewnol yn y man cymdeithasu.
b. Mae yna gysylltiad diwifr â rhwydwaith y Brifysgol ac mae allfeydd pŵer ychwanegol wedi’u darparu er mwyn i liniaduron gael eu defnyddio.
c. Caniateir ichi ddod â’ch bwyd eich hun i’r Man Cymdeithasu, ond rhaid ichi ddod â’ch cyllyll a’ch ffyrc a’ch confennau eich hun a chlirio popeth ar eich ôl.
11. Man Astudio (Parc Mynydd Bychan)
a. Gall y man astudio gael ei ddefnyddio i astudio’n unigol ac at waith grŵp hefyd. Os oes angen ichi logi’r lle, gweler eitem 12.5 isod i weld y polisi ynglŷn â llogi ystafelloedd ym Mharc Mynydd Bychan.
b. Cewch fwyta a/neu yfed ond mae’n rhaid ichi glirio popeth wedyn a pheidio â gwneud gormod o sŵn.
c. Mae un cyfrifiadur yn y ganolfan i’w ddefnyddio wrth astudio. Caniateir iddo gael ei gloi gan ddefnyddiwr am 20 munud fan bellaf. Caiff y staff neu fyfyrwyr ddatgloi ac ailddechrau unrhyw beiriant sydd wedi’i gloi am gyfnod hirach. Dydyn ni ddim yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw waith sy’n cael ei golli os byddwn yn ailddechrau peiriant am eich bod chi wedi’i gloi am fwy na’r cyfnod a ganiateir.
12. Polisi Llogi Ystafelloedd
a. Nid yw ystafelloedd y Ganolfan i Raddedigion yn rhan o system Rhannu Ystafelloedd y Brifysgol, ond yn cael eu llogi’n uniongyrchol gan y Ganolfan i Raddedigion.
b. Gall yr ystafelloedd cyfarfod a’r Bar Caffi gael eu llogi gan fyfyrwyr ôl-raddedig sydd wedi’i hymrestru ar hyn o bryd a chan gymdeithasau ôl-raddedigion ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau i ôl-raddedigion.
c. Mae’r Ysgolion Academaidd a’r Cyfarwyddiaethau hefyd yn cael llogi’r ystafelloedd neu’r Bar Caffi at ddigwyddiadau sydd wedi’u hanelu’n bennaf at ôl-raddedigion neu at gyfarfodydd i hybu buddiannau ôl-raddedigion.
d. Rhaid llenwi Ffurflen Archebu er mwyn cadw ystafell. Gallwch lawrlwytho ffurflen oddi ar yr Adnoddau Perthynol ar ein tudalen Llogi Ystafell a chewch ei llenwi ymlaen llaw os ydych yn dymuno.
e. Gall ystafelloedd cyfarfod gael eu defnyddio hefyd ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau cymdeithasol bach i ôl-raddedigion. Yn yr achosion hyn, nid yw’r rheol pedair awr yn gymwys. Rhaid ichi drafod pob cais o’r fath gyda staff parhaol y Ganolfan i Raddedigion.
f. Gellir trefnu bod ystafelloedd cyfarfod ar gael i’w llogi gan Ysgolion, Colegau neu Gyfarwyddiaethau Prifysgol Caerdydd at ddigwyddiadau sy’n anelu’n unswydd at ôl-raddedigion, ac at ddigwyddiadau eraill sy’n hybu buddiannau ôl-raddedigion. Am fod yna alw mawr ymhlith ôl-raddedigion, mae’r Ganolfan i Raddedigion fel arfer yn methu derbyn archebion ymlaen llaw ar gyfer cyfarfodydd neu ddigwyddiadau nad ydyn nhw’n cynnwys y gymuned ôl-raddedig. Caniateir eithriadau ar gyfer digwyddiadau i’r Brifysgol gyfan megis Diwrnodau Agored neu Raddio. Yn achlysurol rydyn ni’n caniatáu digwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan swyddogion Undeb y Myfyrwyr ar sail quid pro quo, ond nid yw ystafelloedd y Ganolfan i Raddedigion ar gael i’w defnyddio gan gymdeithasau Undeb y Myfyrwyr oni bai mai ôl-raddedigion yn bennaf yw’r aelodau.
g. Mae’n anghyffredin bod ystafelloedd cyfarfod yn y Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Cathays ar gael i gyrff allanol, mae angen cymeradwyaeth unigol fesul achos a bydd rhaid talu bob tro i logi’r ystafell ac i ddefnyddio offer; gall fod rhaid talu taliadau ychwanegol – megis amser staff.
12.1. Defnyddio Offer a Gwasanaethau Eraill
a. Mae defnyddwyr sy’n llogi ystafell hefyd yn cael trefnu taflunydd LCD, gliniadur, siaradwyr, papur a phennau ar gyfer siart troi i’w defnyddio yn yr ystafelloedd cyfarfod yn unig. Ni chaniateir defnyddio’r offer hy y tu allan i ystafelloedd cyfarfod y Ganolfan i Raddedigion. Rhaid i’r offer gael ei ddychwelyd 15 munud cyn amser cau’r Ganolfan, er mwyn i’r Ganolfan gau’n brydlon.
b. Gall ceblau ymestyn, plygiau addasu ar gyfer plygiau o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig a ffonau clust gael eu benthyca hefyd, i’w defnyddio yn y Ganolfan.
c. Rhaid i’r myfyrwyr adael cerdyn adnabod Prifysgol (neu gerdyn adnabod arall os nad yw hwn ar gael, er enghraifft cerdyn banc, trwydded yrru) yn y Dderbynfa wrth gymryd benthyg unrhyw offer a chaiff y cerdyn ei gadw trwy gydol y cyfnod benthyca, ond fydd dim rhaid ichi dalu.
d. Bydd taliadau i ddefnyddwyr heblaw ôl-raddedigion yn cael eu trafod pan fydd yr offer yn cael ei logi.
e. Mae’r Ganolfan i Raddedigion hefyd yn gallu darparu coffi, te a bisgedi am bris gosod y pen ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau a rhaid ichi archebu’r rhain o leiaf ddau ddiwrnod ymlaen llaw.
f. Gall y Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr ddarparu bwyd i ginio, derbyniad, etc. Fel rheol, rhaid i’r gofynion hyn gael eu trefnu o leiaf ddeg diwrnod ymlaen llaw.
g. Gall y Bar Caffi gael ei logi at bartïon neu ddigwyddiadau ond does dim modd ei logi at eich defnydd chi yn unig yn ystod yr oriau agor arferol; mae’n rhaid i’r bar aros ar agor i’r cyhoedd. Gallwch gadw mannau penodol neu grwpiau penodol o fyrddau. Rhaid i’r digwyddiad fod yn gydnaws â dibenion eraill y Ganolfan i Raddedigion ac mae pennaeth y Ganolfan neu rywun a ddynodir gan y Pennaeth yn cadw’r hawl i wrthod digwyddiadau y bernir eu bod yn anghydnaws.
12.2. Ystafelloedd Cyfarfod: Eu Defnyddio at Astudio gan Grwpiau
a. Gall yr ystafelloedd gael eu llogi gan grwpiau o fyfyrwyr ôl-raddedig (sef dau neu fwy o unigolion) at weithgareddau fel seminarau, adolygu, cyfarfodydd, prosiectau grŵp, cyfweliadau ymchwil, neu i ymarfer cyflwyniadau.
b. Cynghorir grwpiau o fyfyrwyr y dylid archebu ymlaen llaw er mwyn sicrhau eu cyfnod amser dewisol. Cyfyngir pob archeb grŵp i uchafswm o bedair awr y dydd i unrhyw grŵp.
c. Mae’n bosibl ymestyn y cyfnod o bedair awr ar y diwrnod, ond nid ymlaen llaw, a hynny os na fydd ceisiadau eraill wedi dod i law erbyn diwedd y cyfnod llogi gwreiddiol. Er hynny, bydd yn ofynnol i’r grwpiau ildio’r ystafell os cymerir archeb gan grŵp arall. Os felly, byddwn yn rhoi 15 munud o rybudd i’r grŵp bod rhaid gorffen ac ymadael.
d. Os bydd aelod unigol o grŵp yn cyrraedd ar gyfer archeb grŵp a’i fod yno ar ei ben ei hun, caniateir iddo aros am weddill aelodau’r grŵp yn yr ystafell am hyd at 15 munud fan bellaf. Ar ôl hynny, bernir mai ‘Archeb Unigol’ yw’r trefniant a bydd y polisi isod ynglŷn ag archebion unigol yn gymwys.
e. Os cawn wybod bod aelodau gwahanol o’r un grŵp wedi archebu ar wahân er mwyn osgoi’r rheol pedair awr, bydd y grŵp a’i aelodau i gyd yn colli eu breintiau archebu am gyfnod a bennir gan Bennaeth y Ganolfan i Raddedigion.
f. Rhaid i un o aelodau’r grŵp adael cerdyn adnabod Prifysgol ar ddechrau cyfnod defnyddio’r ystafell, a bydd y cerdyn yn cael ei roi nôl ar ôl ichi wagio’r ystafell.
12.3. Ystafelloedd Cyfarfod: Eu Defnyddio at Astudio gan Unigolion
a. Ac eithrio pan fydd ar fyfyriwr unigol angen defnyddio ystafell o ran cyfrinachedd, e.e. cyfweliadau ffôn, mae archebion grŵp yn cael y flaenoriaeth dros archebion unigol. Y rheswm am hyn yw bod yna ddarpariaeth eisoes ar gyfer astudio unigol yn yr Ystafell Gyfrifiaduron a’r Ystafell Ddarllen. Oherwydd hyn, chaiff unigolyn ddim llogi ystafell gyfarfod ymlaen llaw.
b. Caniateir i unigolyn logi ystafell ar yr adeg y mae angen ystafell, os oes un ar gael, am awr ar y mwyaf. Ar ôl y cyfnod hwnnw, gall yr archeb gael ei hadolygu awr ar y tro ond dim ond os nad oes grŵp eisoes wedi gofyn am gael defnyddio’r lle.
c. Rhaid i unigolion adael cerdyn adnabod Prifysgol ar ddechrau cyfnod defnyddio’r ystafell, a bydd y cerdyn yn cael ei roi nôl ar ôl ichi wagio’r ystafell.
d. Gall cyfyngiadau eraill gael eu gosod o dro i dro er mwyn caniatáu i’r lle gael ei ddyrannu mewn modd teg i grwpiau adolygu a grwpiau prosiect.
12.4. Ystafelloedd Cyfarfod: Cyrraedd yn Hwyr, Canslo a Methu Cyrraedd
a. Dim ond am 15 munud ar ôl amser dechrau’r archeb y bydd yr ystafell yn cael ei chadw ichi. Os na fyddwch yn cyrraedd erbyn hynny, caiff yr ystafell ei rhyddhau i bobl eraill y mae arni ei hangen.
b. Rhowch wybod i’r Ganolfan i Raddedigion yn bersonol neu dros y ffôn os byddwch am ganslo’ch archeb. Os na fyddwch yn cyrraedd ar ôl ichi logi ystafell ac os na fyddwch yn rhoi gwybod eich bod yn canslo, fe allech chi golli’ch breintiau llogi at y dyfodol.
12.5. Yr Ystafell Gyfarfod: Canolfan Graddedigion Parc Mynydd Bychan
a. Mae’r Ystafell Gyfarfod yn y Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Mynydd Bychan ar gael at ddau beth, sef astudio a chyfarfodydd. Er mwyn darparu digon o le astudio, dim ond hyd at un diwrnod neu ddau hanner diwrnod yr wythnos a all gael ei logi.
b. Bydd y flaenoriaeth ar gyfer archebion o’r fath yn cael ei rhoi i raglen gweithdai Coleg Graddedigion y Brifysgol ac i grwpiau ôl-raddedig sydd wedi’u lleoli ym Mharc Mynydd Bychan (megis cyfarfod o grŵp ymchwil).
c. Archebion ar gyfer gweithgareddau grŵp yn unig a dderbynnir; chaiff unigolyn ddim archebu’r ystafell i’w defnyddio ei hun.
d. Rhaid llenwi Ffurflen Archebu er mwyn cadw ystafell. Gallwch lawrlwytho ffurflen oddi ar yr Adnoddau Perthynol ar ein tudalen Llogi Ystafell a chewch ei llenwi ymlaen llaw os ydych yn dymuno.
13. Loceri (Parc Cathays)
Mae 24 o loceri ar gael i’w defnyddio gan fyfyrwyr ôl-raddedig. Mae polisi ar wahân ar gael ar gyfer defnyddio loceri, yn unol â’r manylion isod.
a Mae loceri ar gael i unrhyw un sy’n defnyddio’r Ganolfan i Raddedigion ac sydd â mynediad llawn; yn ymarferol mae hyn yn golygu na chaniateir i westeion, cynfyfyrwyr a staff ddefnyddio locer fel rheol. Mae angen cerdyn adnabod dilys Prifysgol Caerdydd wrth ichi archebu.
b ‘Y cyntaf i’r felin’ yw hi ynglŷn â’r loceri. Os nad oes loceri ar gael, gall enwau’r myfyrwyr gael eu hychwanegu at restr aros a bydd y Ganolfan i Raddedigion yn cysylltu â nhw pan fydd locer ar gael. Os na chaiff y cynnig locer ei dderbyn o fewn saith diwrnod calendr, tynnir enw’r myfyriwr oddi ar y rhestr.
c Saith diwrnod calendr yw’r cyfnod archebu cychwynnol. Ar ddiwedd y saith diwrnod, cewch adnewyddu’r locer yn bersonol, dros y ffôn neu drwy’r e-bost os nad oes rhestr aros.
d Dim ond yn ystod oriau agor y Ganolfan y cewch fynd i’r locer.
e Ni chaniateir i loceri gael eu defnyddio i storio bwyd nag eitemau eraill sy’n pydru.
e Cyfrifoldeb y perchennog yw pob eitem sy’n cael ei gadael.
f Os na ddychwelir allwedd y locer, codir ffi o £10.
g Mae staff y Ganolfan i Raddedigion yn cadw’r hawl i fynd i locer os bernir bod y defnyddiwr wedi torri’r polisi ynghylch defnyddio loceri. Fel rheol, bydd y loceri’n cael eu hagor yng ngŵydd y defnyddiwr ond os nad oes modd cysylltu â’r defnyddiwr o fewn 24 awr, mae’r staff yn cadw’r hawl i fynd i’r locer yn absenoldeb y defnyddiwr. Bydd hyn bob amser yn cael ei wneud yng ngŵydd tyst.
h Rhaid i’r loceri gael eu gwagio yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd y Ganolfan ar gau (e.e. gwyliau’r Nadolig). Os na chaiff y locer ei wagio gan y defnyddiwr, bydd staff y Ganolfan i Raddedigion yn ei wagio. Bydd nwyddau’n cael eu cadw yn yr un modd ag o dan y polisi ynghylch eiddo coll.
i Gall myfyrwyr sy’n dysgu o hirbell gysylltu â’r Ganolfan i Raddedigion drwy ffonio neu drwy’r e-bost i gadw locer ymlaen llaw.
14. Peiriannau Gwerthu (Parc Cathays)
a. Siop Undeb y Myfyrwyr sy’n gweithredu’r peiriannau byrbrydau a diodydd. Yn anffodus, all y Ganolfan i Raddedigion ddim rhoi newid ar gyfer y peiriannau ond mae gan yr Undeb beiriant newid ar y ciosg ar yr ail lawr yn ymyl y brif fynedfa.
b. Rhowch wybod am unrhyw broblemau ynglŷn â’r peiriannau i’r staff yn nerbynfa’r Ganolfan i Raddedigion. Byddwn yn trefnu bod staff y siop yn datrys y broblem yn ystod oriau agor y siop. Gall staff y Ganolfan i Raddedigion roi ad-daliad os oes angen un y tu allan i oriau agor y siop.
15. Cyrchu Rhwydwaith y Brifysgol yn Ddiwifr
a. Gall holl aelodau’r Brifysgol gyrchu rhwydwaith y Brifysgol drwy wasanaeth diwifr yn y Canolfannau i Raddedigion; ond rhaid ichi gofrestru’ch gliniadur ymlaen llaw. Mae’r manylion ar gael yma.
b. Mae modd trefnu mynediad fel gwesteion ar ran cynadleddwyr ond nid ar ran cyn-fyfyrwyr, ymwelwyr achlysurol a myfyrwyr sydd wedi ymrestru yng Nghaerdydd.
16. Hysbysfyrddau
a. Mae gan rai o’r hysbysfyrddau yn y Ganolfan i Raddedigion ddibenion dynodedig a chewch chi ddim gosod hysbysiadau eraill ar y rhain. Mae yna hysbysfyrddau dynodedig ar gyfer llety ac eitemau ar werth. Rhaid ichi ddangos eich hysbysiad i gael ei gymeradwyo a’r dyddiad arno yn nerbynfa'r Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Cathays cyn ichi ei godi. Bydd hysbysiadau awdurdodedig yn cael eu tynnu ymhen y mis a bydd rhai diawdurdod yn cael eu tynnu yn y fan a’r lle.
b. Rhaid cael cyfieithiad Saesneg i gyd-fynd â phob hysbysiad nad yw yn Saesneg yn bennaf.
c. Rhaid i bob hysbysiad a godir gan Brifysgol Caerdydd fod ar gael yn Gymraeg a Saesneg, naill ai fel un ddogfen ddwyieithog neu fel un ddogfen yn y naill iaith a’r llall.
17. Eiddo Coll
Mae unrhyw eiddo coll sy’n cael ei gyflwyno i staff y Ganolfan i Raddedigion yn cael ei gofnodi a’i gadw, fel rheol am dri mis ar y mwyaf. Gofynnir i’r perchennog lofnodi am unrhyw eiddo sy’n cael ei hawlio. Ymhen tri mis, mae’r eitemau’n cael ei rhoi i siop elusen neu eu taflu, gan ddibynnu ar eu cyflwr. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sydd wedi colli eiddo am holi hefyd yn nerbynfa Undeb y Myfyrwyr ar yr ail lawr (y Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Cathays).
18. Adborth ac Awgrymiadau
Mae croeso i adborth gan y myfyrwyr am unrhyw agwedd ar gyfleusterau, gweithgareddau neu bolisïau’r Ganolfan i Raddedigion. Mae sawl opsiwn o ran rhoi adborth: gallwch ddefnyddio’r cerdyn sylwadau sydd ar gael yn y Ganolfan a’i adael yn y blwch post yn y coridor ger yr Ystafell Ddarllen; gallwch anfon neges at grad-centre@caerdydd.ac.uk, neu ddefnyddio’r ffurflen sylwadau ar y wefan hon. Os hoffech gael ymateb i’ch sylw, cofiwch gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad e-bost.
19. Cwynion
Yn y lle cyntaf, cyfeiriwch eich cwyn at yr aelod o’r staff sydd ar ddyletswydd yn y Dderbynfa. Os nad oes modd datrys eich cwyn er boddhad ichi ac os hoffech fynd â’r mater ymhellach, dylech wneud cwyn mewn ysgrifen i Bennaeth y Ganolfan i Raddedigion.
Gallwch weld gweithdrefn y Brifysgol ar gyfer datrys pryderon/materion myfyrwyr yn y Llawlyfr Rheoliadau Academaidd.
20. Diogelwch
a. Mae defnyddwyr y Ganolfan i Raddedigion yn gyfrifol am ofalu’n rhesymol am eu hiechyd a’u diogelwch nhw eu hunain, cydweithredu â’r staff ar faterion iechyd a diogelwch a pheidio ag ymyrryd â dim sydd wedi’i ddarparu er mwyn diogelu ei hiechyd a’u diogelwch. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd a diogelwch yn y Canolfannau i Raddedigion, rhowch wybod i aelod o’r staff yn bersonol yn y Dderbynfa neu drwy ffonio 029 2087 4748.
b. Er bod gan y Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Cathays deledu cylch cyfyng (CCTV), does neb wrthi’n cadw llygad ar y camerâu ac ni ddylid dibynnu arnyn nhw i atal eiddo rhag cael ei ddwyn. Fe’ch cynghorir i beidio â gadael pethau gwerthfawr heb neb i ofalu amdanyn nhw ar unrhyw adeg.
21. Gwagio’r Adeilad mewn Tân neu Argyfwng
Os bydd y larwm dân yn canu, dylech ymadael â’r adeilad drwy ddefnyddio’r allanfa dân agosaf, y mae arwyddion yn eu dangos yn y Canolfannau i Raddedigion, ac ymgynnull y tu allan yn unol â’r cyfarwyddiadau. Peidiwch â defnyddio’r lifftiau os bydd tân.
22. Ysmygu
Ni chaniateir ysmygu yn unman yn y Canolfannau i Raddedigion. Mae ysmygu wedi’i wahardd hefyd ar y rhan fwyaf o’r balconi yn y Ganolfan i Raddedigion ym Mharc Cathays, er bod ardal ysmygu ddynodedig yn y pen deheuol.
23. Gweithdrefnau Disgyblu
a. Mae’r Gweithdrefnau Disgyblu Myfyrwyr, fel y maen nhw wedi’u hamlinellu yn y Llawlyfr Rheoliadau Academaidd yn gymwys yn y Ganolfan i Raddedigion.
b. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cadw’r hawl i ymdrin â materion disgyblu sy’n codi yn y Bar Caffi o dan Atodiad 1 o Is-ddeddfau Undeb y Myfyrwyr.


