Skip to content
Skip to navigation menu

Ynghylch y Ganolfan

grad centre cafe bar image 01

 

Mae Prifysgol Caerdydd ymhlith yr ychydig brifysgolion ym Mhrydain sy’n cynnig cyfleuster pwrpasol ar gyfer ei myfyrwyr ôl-raddedig. Agorwyd Canolfan y Graddedigion ym mis Medi 1999 i ddarparu cyfleusterau cymdeithasol ac astudio mewn man canolog ar hyd y flwyddyn i fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir a myfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ychwanegol at y cyfleusterau a ddarperir gan ysgolion academaidd unigol. Heddiw, mae’r Ganolfan yn fan canolog ar gyfer ôl-raddedigion o bob disgyblaeth ledled y brifysgol, sy’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr gyfarfod a chymdeithasu yn y gymuned ôl-raddedigion ehangach, ac sy’n ychwanegu dimensiwn arall i fywyd fel myfyriwr ôl-raddedig yng Nghaerdydd.

I lawrlwytho copi Cymraeg neu Saesneg o lyfryn Canolfan y Graddedigion, cliciwch ar ‘Adnoddau Cysylltiedig’ yn y rhestr ar yr ochr dde.

 

Rheoli a Goruchwylio 

Mae Canolfan y Graddedigion yn fenter gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae Pwyllgor Llywio sy’n cynnwys myfyrwyr ôl-raddedig, staff y Brifysgol a chynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr yn goruchwylio datblygiad y ganolfan, tra bod gweithrediad bob dydd cyfleusterau a gwasanaethau Canolfan y Graddedigion yn gyfrifoldeb staff Canolfan y Graddedigion, sy’n weithwyr y brifysgol yn Adran Cofrestru, Llywodraethu a Myfyrwyr (REGOS) y Brifysgol. Mae Rheolwr Canolfan y Graddedigion yn adrodd yn uniongyrchol i Gyfarwyddwr REGOS. Mae Undeb y Myfyrwyr yn rheoli’r gwasanaeth bwyd a diodydd yn uniongyrchol yn y Bar Caffi.

Mae staff yn y Ganolfan trwy gydol ein Oriau Agor, gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau – pan fydd Wardeniaid Myfyrwyr ôl-raddedig yn gweithio yno.

Rhestrir aelodau staff Canolfan y Graddedigion a Wardeniaid Myfyrwyr ôl-raddedig presennol gyda gwybodaeth gysylltu ar ein tudalen Cysylltiadau Staf