Lleoliad a Mynediad
Lleolir Canolfan y Graddedigion ar drydydd llawr Adeilad Undeb y Myfyrwyr ym Mhlas y Parc, yn union gyferbyn â phrif adeilad y Brifysgol. Oherwydd bod Adeilad yr Undeb yn pontio llinell reilffordd, gall fod yn anodd dod o hyd i’r mynediad.
O Blas y Parc:
Ewch i fyny’r prif risiau allanol i Adeilad yr Undeb, trowch i’r dde ac ewch i mewn trwy’r drws o dan arwydd ‘Canolfan y Graddedigion’. Mae rhes arall o risiau mewnol sy’n arwain at brif gyntedd y Ganolfan.
Mae lifft at ddefnydd pobl sydd ag anawsterau corfforol yn unig. Fe’i leolir o dan y prif risiau, i’r chwith i’r pwll grisiau. Mae’r lifft hwn yn mynd â chi at ben y grisiau allanol ar yr ail lawr. Ewch i mewn i’r Undeb trwy’r prif ddrysau, ewch heibio i’r dderbynfa at y prif bwll grisiau mewnol a chymerwch y lifft mewnol at y trydydd llawr. O’r lifft, trowch i’r chwith i fynd i Ganolfan y Graddedigion.
O Heol Senghennydd:
Ewch i mewn trwy un o’r ddwy fynedfa i’r Undeb ar y llawr gwaelod, ewch i fyny i’r trydydd llawr gan ddefnyddio’r grisiau mewnol a throwch i’r dde i mewn i Ganolfan y Graddedigion. Mae lifft yn gyfagos i’r pwll grisiau mewnol; trowch i’r chwith wrth adael y lifft i fynd i Ganolfan y Graddedigion.
Sylwch: Pan gynhelir gig yn Neuadd Fawr yr Undeb, weithiau caiff mynedfa Heol Senghennydd ei chau. Pan mae’r fynedfa hon ar gau, gellir cyrraedd Canolfan y Graddedigion trwy groesi pont y rheilffordd i Blas y Parc. Os oes angen mynediad i lifft arnoch chi bryd hynny, gofynnwch am gymorth gan y staff diogelwch sydd ar ddyletswydd.
Cyfeiriad post:
Canolfan y Graddedigion
3ydd Llawr Adeilad Undeb y Myfyrwyr
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3QN


