Ôl-raddedigion Newydd

P’un a ydych eisoes yn gyfarwydd â’r Brifysgol a Chaerdydd, neu’n wyneb newydd, bydd byw ac astudio fel myfyriwr ôl-raddedig yma yn brofiad cwbl unigryw a fydd yn cynnig heriau newydd, yn ogystal â gofynion newydd i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Dyma pam mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyfleuster penodedig ar gyfer astudio a chymdeithasu i’w hôl-raddedigion, ac mae hyn yn ogystal â’r hyn mae eich ysgol academaidd yn ei ddarparu.
Beth bynnag fo lefel eich gradd, yn y cyfleuster hwn byddwch yn gallu gweithio, cynnal a mynychu digwyddiadau, neu gael y cyfle i ymlacio a chael paned gydag ôl-raddedigion eraill o bob rhan o’r Brifysgol.
Nid oes angen cofrestru er mwyn defnyddio Canolfan y Graddedigion. Y cyfan fydd ei angen arnoch i ddefnyddio ein cyfleusterau fydd eich cerdyn adnabod i ddangos eich bod yn fyfyriwr. Cewch fwy o wybodaeth am sut i ddod o hyd i’r Ganolfan yn ein tudalennau am amserau agor a lleoliad a mynediad.
Yn ogystal â’r cyfleusterau a’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig drwy gydol y flwyddyn i ôl-raddedigion, mae Canolfan y Graddedigion yn cynnal nifer o ddigwyddiadau i ôl-raddedigion sy’n dod i astudio i Gaerdydd am y tro cyntaf – cliciwch y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth.
Canfod Llety i Ôl-raddedigion
Dydd Mercher 14 – Dydd Gwener 16 Awst 2013
Os ydych yn dechrau cwrs ôl-raddedig yng Nghaerdydd ym mis Medi 2012 ac am rannu llety a rentir, dyma’r digwyddiad i chi!
____________________________
Pythefnos Croesawu Ôl-raddedigion
Dydd Llun 23 Medi - Dydd Sul 6 Hydref 2013
Ymunwch â’n pythefnos o ddigwyddiadau cymdeithasol sydd wedi’u trefnu’n benodol ar gyfer ôl-raddedigion a manteisiwch ar y cyfle i gwrdd ag ôl-raddedigion eraill o bob rhan o’r Brifysgol. Mae pob digwyddiad yn agored i bob myfyriwr ôl-raddedig yng Nghaerdydd.


