Skip to content
Skip to navigation menu

Digwyddiadau Croesawu Ôl-raddedigion

 

24 Medi - 7 Hydref 2012

Canolfan y Graddedigion yw cartref myfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal â’r digwyddiadau isod, rydym hefyd yn trefnu teithiau a digwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn. Mae ein bar trwyddedig ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 17.00 i 23.00 ar gyfer cymdeithasu anffurfiol.


Mae mynediad am ddim i’r digwyddiadau oni bai y nodir i’r gwrthwyneb. Gallwch brynu tocynnau wrth Ddesg Derbynfa Canolfan y Graddedigion.

Dydd Llun 24 Medi        

Y Brifysgol yn Croesawu Myfyrwyr Ôl-raddedig


Fe’ch gwahoddir i fynychu’r anerchiad croesawu swyddogol a gaiff ei arwain gan yr Is-ganghellor newydd, yr Athro Colin Riordan. Mae’r siaradwyr ychwanegol yn cynnwys y Deon Astudiaethau Ôl-raddedig, Cyfarwyddwr y Gofrestrfa, Llywodraethu a Myfyrwyr, Llywydd Undeb y Myfyrwyr a Phennaeth Canolfan y Graddedigion.

Amser Cychwyn: 17.15
Lleoliad: Solus, Undeb y Myfyrwyr
Pris: Am ddim

 


Dydd Llun 24 Medi

Cwrdd a Chymysgu i Fyfyrwyr Ôl-raddedig


Peidiwch â cholli noson gyntaf ein rhaglen groesawu! Bydd llawer yn digwydd i helpu torri’r iâ a’ch helpu i gwrdd a dod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr ôl-raddedig.


Amser Cychwyn: 20.00
Lleoliad: Bar Caffi, Canolfan y Graddedigion, 3ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr
Pris: Am ddim

 


Dydd Mawrth 25 Medi        

Helfa Coffi Caerdydd


Newydd gyrraedd yng Nghaerdydd ac angen dod o hyd i’r mannau poeth cymdeithasol gorau ar gyfer eich joch o gaffein? Ymunwch â ni am daith o amgylch y tai coffi a chaffis lleol lle bydd amrywiaeth o ddiodydd sy’n seiliedig ar espresso a chacennau ar gael ym mhob un o’r pedwar lleoliad ar ein taith.

Amser Cychwyn: 15.00 hyd at tua 17.00
Lleoliad: Cwrdd yn y Bar Caffi, Canolfan y Graddedigion, 3ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr
Pris: £8.00 (y tocyn yn cynnwys diodydd)

 


Dydd Mercher 26 Medi

Ffair Chwaraeon


Caiff 59 o glybiau chwaraeon yr Undeb Athletaidd eu cynrychioli yn y Ffair Chwaraeon, felly os ydych chi eisiau cymryd rhan, dewch i weld yr hyn sydd ar gael. Ewch i wefan y Glas am ragor o fanylion ynghylch y Ffeiriau Chwaraeon a Chymdeithasau: www.cardiff-freshers.com.

Amser cychwyn: 10.00 i 17.00
Lleoliad: Y Neuadd Fawr, Llawr Cyntaf Undeb y Myfyrwyr
Pris: Am ddim

 


Dydd Mercher 26 Medi 

Noson Cwis a Phitsa


Cwis gwybodaeth gyffredinol hwyliog ar gyfer timau gyda phitsa wedi’i gynnwys (dewis o pepperoni neu gaws a thomato). Bydd cwestiynau ar ddiwylliant pop, hanes, daearyddiaeth ac ati, gyda digon o flas rhyngwladol i fodloni pawb. Dewch draw, gyda neu heb dîm – mae croeso i unigolion, a gallwn ddod o hyd i gyd-fyfyrwyr ôl-raddedig y gallwch ymuno â nhw! Cynhelir y digwyddiad bob nos Fercher trwy gydol Tymor yr Hydref.

Amser Cychwyn: 20.00
Lleoliad: Bar Caffi Canolfan y Graddedigion
Pris: £2.50 y person

 


Dydd Iau 27 Medi 

Ffair y Cymdeithasau Diwrnod 1


Mae Cymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd diddordeb. Maen nhw hefyd yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd. Ewch i’r ffair ac ymunwch ag unrhyw gymdeithas sy’n mynd â’ch bryd.

Amser: 10.00 i 17.00
Lleoliad: Y Neuadd Fawr, Llawr Cyntaf Undeb y Myfyrwyr
Pris: Am ddim

 


Dydd Iau 27 Medi       

Marchnad Fwyd a Hen Bethau


Dewch i gwrdd yng Nghanolfan y Graddedigion am farchnad stryd arbennig yn gwerthu bwyd a hen bethau. Ar y cyd â RCMA Market, sydd wedi ennill sawl gwobr, bydd mwy na 20 o gynhyrchwyr yn arddangos amrywiaeth o ddillad, bric-a-brac, llyfrau, a bwyd blasus o ffynonellau lleol! Gyda chymaint o ddewis, mae hwn yn ddigwyddiad anhepgor!

Amser Cychwyn: 15.00-18.30
Lleoliad: Bar Caffi Canolfan y Graddedigion
Pris: Am ddim (bydd eitemau ar werth o stondinau, e.e. prydau bwyd poeth - £2.50)

 


Dydd Gwener 28 Medi

Ffair y Cymdeithasau Diwrnod 2


Cyfle arall i archwilio’r hyn y mae’r holl gymdeithasau yn ei gynnig.

Amser: 10.00 i 17.00
Lleoliad: Y Neuadd Fawr, Llawr Cyntaf Undeb y Myfyrwyr
Pris: Am ddim

 


Dydd Gwener 28 Medi

Noson Helfa Tafarnau a Chlybiau


Gan ddechrau yn ein Bar Caffi ein hunain - sef y man gorau i gychwyn eich penwythnos gyda #FollowFriday. Bydd amrywiaeth o berfformiadau cerddorol byw wrth i chi sgwrsio â’ch ffrindiau newydd. Dyma’r ffordd i ddechrau’r noson! Wedyn bydd myfyrwyr presennol yn eich arwain o gwmpas lleoliadau poblogaidd ymhlith myfyrwyr ôl-raddedig Caerdydd, gan orffen y noson yng nghlwb nos mwyaf cyffrous Caerdydd, sef Buffalo.


Amser Cychwyn: 19.00 tan yr hwyr
Lleoliad: Cwrdd ym Mar Caffi Canolfan y Graddedigion
Pris: Am ddim i ymuno (bydd disgwyl i chi dalu am eich diodydd a mynediad i glybiau)

 


Dydd Sadwrn 29 Medi

Noson Ffilm: The Muppets


Pan ddaw tri o gefnogwyr y Muppets i wybod bod Tex Richman eisiau drilio am olew o dan Theatr y Muppets, mae Gary, Mary a Walter yn mynd ati i ddod o hyd i’r Muppets, sydd wedi eu gwasgaru ers blynyddoedd, fel y gallan nhw berfformio un sioe olaf ac achub Theatr y Muppets. Caiff cymysgedd o ffilmiau newydd, rhyngwladol a chlasurol eu dangos am ddim bob nos Sadwrn yn ystod y flwyddyn.


Amser Cychwyn: 19.00
Lleoliad: Bar Caffi Canolfan y Graddedigion
Pris: Am ddim (bydd disgwyl i chi dalu am fyrbrydau)

 


Dydd Sul 30 Medi  

Noson Gemau


Bydd gemau clasurol o KerPlunk i Risk ar gael i’w chwarae drwy gydol y noson. Cyflwynir gwobrau i enillwyr y noson gemau. Felly dewch a rhowch gais ar ffordd newydd o dreulio nos Sul.


Amser Cychwyn: 18.00
Lleoliad: Bar Caffi Canolfan y Graddedigion
Pris: Am ddim 

 


Dydd Llun 1 Hydref   

Cwrdd a Chymysgu Eto i Fyfyrwyr Ôl-raddedig


Os methoch chi’r digwyddiad Cwrdd a Chymysgu cyntaf, neu os ydych eisiau cyfle arall i dreulio amser yng nghwmni eich cyd-fyfyrwyr ôl-raddedig, dewch draw! Dyma gyfle arall i dorri’r iâ a dod i adnabod pobl.


Amser Cychwyn: 20.00
Lleoliad: Bar Caffi Canolfan y Graddedigion
Pris: Am ddim

 


Dydd Mercher 3 Hydref

Pam Ddim... Dydd Mercher! The Doctor Who Experience


Bob wythnos byddwn yn gwneud y gorau o brynhawniau Mercher segur a rhoi cyfle i fyfyrwyr ôl-raddedig flasu pethau newydd. Yr wythnos hon, bydd Pam Ddim... yn ymweld â The Doctor Who Experience! Camwch drwy fwlch mewn amser a helpwch y Doctor i hedfan y TARDIS, dewch wyneb-i-wyneb â rhai o angenfilod mwyaf brawychus y sgrin. Gyda llu o effeithiau arbennig rhyfeddol, mae’r profiad amlsynhwyraidd hwn yn rhy dda i’w golli!


Amser Cychwyn: 13.00 – 16.00
Lleoliad: Cwrdd ym Mar Caffi Canolfan y Graddedigion
Yn agored i: Fyfyrwyr ôl-raddedig a’u gwesteion
Pris: £6 y tocyn (a thâl ychwanegol am docyn trên). Mae archebu o flaen llaw yn hanfodol.

 


Dydd Mercher 3 Hydref    

Noson Cwis a Phitsa


Yr un fath â’r wythnos ddiwethaf, ymunwch â’n cwis wythnosol gyda phitsa wedi’i gynnwys hefyd (dewis o pepperoni neu gaws a thomato). Dewch fel tîm, neu ar eich pen eich hun a gallwn ni ddod o hyd i dîm i chi! Cynhelir y digwyddiad hwn bob nos Fercher trwy gydol yr hydref.


Amser Cychwyn: 20.00
Lleoliad: Bar Caffi Canolfan y Graddedigion
Pris: £2.50 y person

 


Dydd Iau 4 Hydref

Tro a Taith ar Gwch ym Mae Caerdydd


Cewch eich tywys drwy Barc Bute, gan stopio ar hyd y ffordd i ddysgu am Gastell Caerdydd a’i barciau. Wedyn byddwch yn mynd ar yr Aquabus - sef tacsis dŵr Caerdydd – i’r bae, gan stopio i archwilio Morglawdd Bae Caerdydd. Oddi yno, byddwch yn mynd i Lolfa Ffresh yng Nghanolfan Mileniwm Cymru am luniaeth Cymreig traddodiadol, a dilynir hyn gydag awr o daith dywysedig o gwmpas Cynulliad Cenedlaethol Cymru – sef ein hadeilad dinesig pwysicaf sydd hefyd o bwys pensaernïol mawr.
Wedyn, gallwch barhau i archwilio Bae Caerdydd yn hamddenol a chewch eich hysbysu ynghylch lle i ddal y bws / trên i ddychwelyd i’r brifysgol, neu gallwch fynd gyda’r tywyswyr yn ôl i’r ddinas ar y trên. Sylwch nad yw cost y daith yn ôl wedi’i chynnwys yn y pris.


Amser Cychwyn: 13.00 i tua 17.00
Lleoliad: Cwrdd yn y Bar Caffi, Canolfan y Graddedigion, 3ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr
Pris: £10 yn daladwy o flaen llaw (yn cynnwys lluniaeth)

 


Dydd Gwener 5 Hydref       

#FollowFriday


‘Does dim ffordd well o ddathlu diwedd yr wythnos, gyda cherddoriaeth fyw a chynigion arbennig ar ddiodydd wrth y bar. Dyma ddechrau eich dathliad diwedd-yr-wythnos rheolaidd!


Amser Cychwyn: 17.30
Lleoliad: Bar Caffi Canolfan y Graddedigion
Pris: Am ddim

 


Dydd Sadwrn 6 Hydref

Noson Ffilm: The Avengers (Assembled)


Nick Fury yw cyfarwyddwr S.H.I.E.L.D., sef asiantaeth heddwch rhyngwladol. Mae’r asiantaeth yn llawn Arwyr Arbennig Marvel, gan gynnwys Iron Man, The Incredible Hulk, Thor, Captain America, Hawkeye a Black Widow. Pan mae Loki a’i garfan yn bygwth diogelwch y byd, bydd Nick Fury a’i dîm angen eu holl bwerau i achub y byd rhag trychineb.


Amser Cychwyn: 19.00
Lleoliad: Bar Caffi Canolfan y Graddedigion
Pris: Am ddim

 


Dydd Sul 7 Hydref   

Ymlacio ar Nos Sul: Noson Meic Agored


Dyma’ch cyfle i arddangos eich doniau. Efallai eich bod yn gweld eich hun fel y canwr a chyfansoddwr nesaf i fwrw’r siartiau, neu hoffech rannu eich barddoniaeth â’r byd, neu efallai bod gennych dalent gudd arall a fyddai’n diddanu eich cyd-fyfyrwyr. Byddem wrth ein bodd i chi fod yn rhan o gyfle da i ddod draw a chael eich diddanu neu i gefnogi eich cyfeillion. Os ydych chi eisiau cymryd rhan yn y perfformiadau, anfonwch neges e-bost at Ganolfan y Graddedigion a rhowch wybod i ni!


Amser Cychwyn: 19.00
Lleoliad: Bar Caffi Canolfan y Graddedigion
Pris: Am ddim

 

 

 

Adnoddau Cysylltiedig