Skip to content
Skip to navigation menu

Y Bar Caffi

Cafe bar small image

 

Lle cysurus a chroesawgar ar gyfer ôl-raddedigion sydd wedi cofrestru a staff Prifysgol Caerdydd (a’u gwesteion). Ymlaciwch yn yr amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol, dewch i gyfarfod â ffrindiau a chydweithwyr am ginio, cydiwch mewn coffi ar gerdded neu anghofiwch bob dim gyda diod ar ôl gwaith..

Lleoliad cyfoes yw’r Bar Caffi, gyda digon o seddau cysurus a lle i hyd at 130 o bobl i fwyta (Yn ogystal â balconi y tu allan gyda seddu ychwanegol), ac sy'n cynnig lle da i ddianc rhag anhrefn bywyd israddedigion. Yn ogystal, gellir llogi’r lle yn rhad ac am ddim ar gyfer achlysuron fel cynadleddau a seminarau, digwyddiadau ‘cyfarfod a chyfarch’ a phartïon ysgolion academaidd.

Mae rhwydwaith di-wifr Prifysgol Caerdydd ar gael ledled y safle a gosodwyd digon o bwyntiau trydan i’ch galluogi i blygio gliniadur i mewn ac astudio mewn amgylchedd anffurfiol a rhwydd.

Mae’r Bar Caffi ar agor pan fydd Canolfan y Graddedigion ar agor, dydd Llun i ddydd Gwener: 8.00 tan ganol nos; a dydd Sadwrn a dydd Sul: canol dydd i ganol nos (nodir yr amseroedd gweini bwyd a diod isod).

Bwyd a diod... 

Mae’r gwasanaeth bwyd a bar yn y Bar Caffi yn cael ei weithredu gan Undeb y Myfyrwyr. Mae amrywiaeth eang o gynnyrch ffres ar gael:

Mae’r dewis ar y fwydlen yn newid o ddydd i ddydd, ond mae dewis da ar gael sy’n cynnwys dewis llysieuol.

Mae gwasanaeth bwyd a bar ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener: 11.00am – 2.00pm ac eto am 5.00pm – 11.00pm.  Yn ystod tymor yr hydref mae’r Bar ar agor yn ogystal ar nosweithiau Sadwrn, 5.00pm – 11.00pm

Gellir trefnu oriau agor ychwanegol ar gyfer digwyddiadau a drefnwyd, gyda chytundeb o flaen llaw oddi wrth Undeb y Myfyrwyr (mae angen o leiaf 14 diwrnod o rybudd).

Adloniant

Mae gan y Bar Caffi ddau daflunydd a sgriniau â mynediad at sianeli teledu freeview a Sky Sports. Gellir gweld sianeli teledu penodol ar gais yn ein Derbynfa, lle mae ein staff cynorthwyol yn barod i  hwyluso eich cais.

Mae Nintendo Wii wedi ei chysylltu â’n taflunydd mwyaf a gallwch ei chwarae am ddim gyda dewis arbennig o gemau gan gynnwys Wii Sports a Mariokart - ffordd ddelfrydol i ymlacio a chymryd seibiant wrth astudio. Unwaith eto, gofynnwch yn ein Derbynfa am yr offer i’w llogi - nodwch fod angen cerdyn adnabod ar gyfer pob chwaraewr.

Mae chwaraewr DVD wedi ei gysylltuâi ’n system AV. Rydym yn dangos y DVDau diweddaraf bob Sadwrn, fodd bynnag, os ydych am gynnig awgrymiadau neu gynnal eich digwyddiad ffilm eich hun, yna cysylltwch â ni.  
Yn ystod y nosweithiau mae’r Bar Caffi yn croesawu amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol gydol y flwyddyn ar gyfer ôl-raddedigion a’u gwesteion. Ymhlith ein digwyddiadau wythnosol rheolaidd mae – Noson Cwis (dydd Mercher) a Nosweithiau Ffilm (nos Sadwrn a nos Sul). Hysbysebir digwyddiadau ychwanegol trwy'r flwyddyn ar ein tudalen gwe Digwyddiadau.

Bwyd a diod y tu allan i oriau

Yn ogystal â’r Bar Caffi, mae peiriannau byrbrydau a pheiriannau diodydd poeth ac oer yng nghyntedd y Ganolfan, a gellir eu defnyddio yn ystod oriau agor y Ganolfan. Mae’r rhain yn cael eu cynnal gan Undeb y Myfyrwyr. Os oes angen ad-daliad, gellir ei gael gan aelod o staff yn ein Derbynfa.

Darparwyd  microdon yn ogystal yn y cyntedd, a gellir ei defnyddio i gynhesu bwyd addas i’w goginio mewn microdon. Rhaid i ddefnyddwyr ddod â’u cyllyll a’u ffyrc eu hun a dim ond llestri a phecynnu diogel i’w defnyddio mewn microdon gellir eu rhoi yn y ficrodon (e.e. dim ffoil arian).

Balconi

Mae balconi i’w gael sy’n rhedeg ar hyd un ochr allanol o Ganolfan y Graddedigion, ac mae croeso i chi ei ddefnyddio pan fo’r tywydd yn caniatáu!. Fodd bynnag, peidiwch â symud dodrefn y Ganolfan allan i’r balconi o’r lolfa neu’r ystafelloedd cyfarfod. Ni chaniateir plant ar y balconi. Caniateir ysmygu ar ben deheuol y balconi.