Gwasanaethau Ereill
Peiriannau Byrbrydau a Diodydd
Yn ogystal â’r Bar Caffi, mae peiriannau gwerthu byrbrydau a diodydd poeth ac oer yng nghyntedd y Ganolfan. Caiff y rhain eu gweithredu gan Undeb y Myfyrwyr ar gyfer Canolfan y Graddedigion. Gallwch gael ad-daliadau, os oes angen, o Fwth Diogelwch Undeb y Myfyrwyr ar ail lawr adeilad yr Undeb.
Dŵr Yfed
Mae peiriant oeri dŵr yng nghyntedd y Ganolfan. Er ein bod yn darparu conau papur ailgylchadwy, rydym yn eich annog yn gryf i ddefnyddio potel ddŵr y gellir ei hail-lenwi i arbed papur ac arian.
Llungopïo
Mae llungopïwr amlbwrpas (lliw a du a gwyn) yn Ystafell Gyfrifiadurol Canolfan y Graddedigion, sydd ar gael drwy gydol oriau agor y Ganolfan. Caiff ei weithredu gan ddefnyddio’r un System Taliadau Rhwydwaith â’r gwasanaeth argraffu.
Loceri
Mae 24 locer ar gael i ddefnyddwyr llawn Canolfan y Graddedigion eu harchebu ar sail tymor byr. Gallwch ddarllen y telerau ar gyfer eu defnyddio yn adran 12 Polisïau Canolfan y Graddedigion. Ar gais dros y ffôn neu drwy e-bost, gall dysgwyr o bell archebu loceri cyn eu harhosiad yng Nghaerdydd.


