Skip to content
Skip to navigation menu

Cyfleusterau a Gwasanaethau

Mae Canolfan y Graddedigion yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau cymdeithasol ac astudio a gwasanaethau i fyfyrwyr ôl-raddedig sydd wedi cofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â staff.  

 

Rydym yma ar gyfer eich dibenion astudio...

Mae ein cyfleusterau astudio’n cynnwys pum ystafell gyfarfod, ystafell ddarllen lle gallwch astudio’n dawel, ystafell gyfrifiaduron ac ystafell lle gall grŵp ohonoch astudio’n anffurfiol. Mae cysylltiad di-wifr â’r rhyngrwyd hefyd ar gael ym mhob rhan o’r ganolfan.

Rydym yma ar gyfer eich bywyd cymdeithasol...

Mae bar caffi mawr yng Nghanolfan y Graddedigion sy’n cynnwys seddi cyfforddus, sgriniau teledu mawr a gwasanaeth gwerthu bwyd a diod.

 

 

Cliciwch y dolenni ar y chwith i gael gwybod mwy am bob cyfleuster yng Nghanolfan y Graddedigion.

 

Mae staff ar gael wrth Ddesg y Dderbynfa yn ystod oriau agor y ganolfan i roi gwybodaeth a chymorth ychwanegol. Ni chaniateir ysmygu yng Nghanolfan y Graddedigion, ond mae man ysmygu dynodedig ym mhen gogleddol y balconi.

Mae nifer o finiau casglu deunyddiau ailgylchu yng Nghanolfan y Graddedigion (gan gynnwys papur, cwpanau papur, caniau alwminiwm a dur, poteli plastig a gwydr, cynwysyddion plastig ar gyfer bwyd e.e. pecynnau brechdanau). Rydym yn eich argymhell i ddefnyddio’r biniau hyn, os gwelwch yn dda, ac i beidio â rhoi bwyd neu bethau na ellir eu hailgylchu ynddynt.