Skip to content
Skip to navigation menu

Ystafell Cyfrifiadurol

Mae ein Hystafell Gyfrifiaduron wedi’i chynllunio’n arbennig ar gyfer y gymuned myfyrwyr ôl-raddedig. Gan ddefnyddio unrhyw un o’r 35 o gyfrifiaduron, gallwch gael mynediad at y rhan fwyaf o’r feddalwedd sydd ar gael ar rwydwaith y Brifysgol. Mae peiriannau argraffu du a gwyn a lliw wedi’u rhwydweithio, yn ogystal â sganiwr a llungopïwr du a gwyn.

Mae’r Ystafell Gyfrifiaduron ar gyfer gwaith unigol tawel a ni chaniateir gwaith grŵp. Am y rheswm hwn, gofynnir i chi ddiffodd eich ffôn symudol yn yr ystafell ac i gadw sgwrsio i’r lleiaf posibl. Ni chaniateir bwyd neu ddiod yn yr ystafell, heblaw am ddŵr potel.

Mae wyth cyfrifiadur ychwanegol wedi’u rhwydweithio yn y Lolfa, os oes angen casglu negeseuon e-bost arnoch, neu bori’r we. Mae’r rhain hefyd yn addas ar gyfer gwaith grŵp pan fydd angen mynediad at gyfrifiadur arnoch. Gallwch hefyd ddewis cadw ystafell gyfarfod ar gyfer gwaith grŵp, gan fod cyfrifiadur wedi’i rwydweithio ym mhob ystafell gyfarfod, yn ogystal â mynediad di-wifr at rwydwaith y Brifysgol.

Cymorth Staff

Nid oes staff yn gweithio yn Ystafell Gyfrifiaduron y Ganolfan i Raddedigion, fodd bynnag os oes arnoch angen cymorth, mae llinell gymorth yn yr Ystafell Gyfrifiaduron a fydd yn eich cysylltu â Desg Gymorth y Gwasanaethau Gwybodaeth. Os ydych yn deialu’n fewnol, y rhif ffôn yw 74487. Os ydych yn deialu’n allanol, y rhif yw 029 20874 487.

Os hoffech weithio ar ôl canol nos, mae’r ystafelloedd cyfrifiaduron yn Adeiladau Julian Hodge a Trevithick ar agor 24 awr. Mae’n hawdd dod o hyd i’r rhain ac ystafelloedd TG eraill ar draws y campws, gan ddefnyddio mapiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.


Gwasanaethau Argraffu

Mae’r argraffydd Dyfais Aml-swyddogaeth (MFD) yn rhan o system argraffu rhwydwaith y Brifysgol. I ddefnyddio’r argraffydd MFD, bydd angen credyd arnoch yn eich cyfrif argraffu. Mae eich cyfrif i’w weld yma – fy nhudalen Argraffu . Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd i’w gweld. Gallwch ddefnyddio’r argraffydd MFD i sganio a gwneud copïau lliw hefyd.