Ystafelloedd Cyfarfod
Beth sydd ar gael?
Mae gennym ni bump ystafell gyfarfod (ystafelloedd 3.03, 3.04, 3.08, 3.10 a 3.19) gyda lle i rhwng 4 a 40 o bobl eistedd. Mae’r uchafswm yn amrywio yn dibynnu ar osodiad yr ystafell. Yn ogystal, mae modd archebu gliniaduron, taflunwyr data, siartiau troi a theledu/fideo i’w defnyddio yn yr ystafelloedd cyfarfod. Cyfeiriwch at dudalen polisïau Canolfan y Graddedigion am fwy o fanylion ynghylch defnyddio offer.
Mae’r Bar Caffi’n gallu derbyn 130 o bobl (eistedd) a 200 o bobl (sefyll); ac mae modd ei archebu ar gyfer partïon, nosweithiau cwis neu ffilm, trafodaethau a digwyddiadau eraill. Mae’r Bar Caffi’n gallu cynnal nosweithiau DJ neu gerddoriaeth fyw, er y cyfyngir y nifer o ddigwyddiadau o’r fath i un noson yr wythnos. Mae dau deledu sgrin mawr yno gyda thaflunwyr LCD, felly mae’n bosibl defnyddio PowerPoint a gellir defnyddio DVDs a Nintendo Wii hefyd.
Gallwch brynu coffi a the yn uniongyrchol o Ganolfan y Graddedigion; cysylltwch â ni i gael y prisiau presennol. Mae Arlwyaeth Prifysgol Caerdydd neu Undeb y Myfyrwyr yn gallu darparu ystod o fwydlenni cynnes ac oer ar gyfer cinio, swper neu dderbyniadau. Mae croesi i’r rheiny sy’n mynychu cyfarfodydd ddefnyddio’r Bar Caffi, sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11.00am a 2.00pm; a dydd Llun i ddydd Gwener (a dydd Sadwrn yn ystod tymor yr hydref yn unig) rhwng 5.00pm ac 11.00pm.
Pwy sy’n gallu defnyddio’r ystafelloedd?
Defnydd gan Fyfyrwyr:
Mae croeso i fyfyrwyr ôl-raddedig cofrestredig cyfredol Prifysgol Caerdydd ddefnyddio Canolfan y Graddedigion at ddiben gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’u cyrsiau, er enghraifft grwpiau astudio, cyfarfodydd syndicet, seminarau, cyflwyniadau neu dderbyniadau. Nid ydynt ar gael at ddefnydd personol neu gan gymdeithasau. Fel arfer, cyfyngir y cyfnod mae modd archebu’r ystafelloedd cyfarfod i bedair awr ar gyfer archebion o flaen llaw. Ond mae modd ymestyn yr amser ar y diwrnod os nad oes unrhyw un arall wedi gwneud cais i ddefnyddio’r ystafell.
Mae modd archebu’r Bar Caffi am ddigwyddiadau cymdeithasol gan ôl-raddedigion Prifysgol Caerdydd, ond bydd y Bar Caffi ar agor i eraill yn ogystal â’r grŵp sydd wedi’i archebu.
Defnydd Arall:
Mae Canolfan y Graddedigion yn bennaf ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd, felly nid yw’n bosibl ei neilltuo ar gyfer defnydd gan rai nad ydynt yn fyfyrwyr yn aml.
Mae croeso i Ysgolion ac Adrannau Academaidd y Brifysgol ddefnyddio ein hystafelloedd; fodd bynnag, rydym yn codi ffi os nad yw’r gynulleidfa yn cynnwys myfyrwyr ôl-raddedig yn bennaf ac, fel y nodwyd uchod, rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr.
Mae sefydliadau allanol yn gallu archebu ystafell yn ystod cyfnodau heb fod yn gyfnod brig; fodd bynnag, byddwn yn codi ffi ar bob achlysur. Ffoniwch 029 2087 4748 am y prisiau cyfredol.
Rydym yn cadw’r hawl i wrthod caniatâd i ddefnyddio ystafelloedd Canolfan y Graddedigion. Fel arfer, mae sefyllfa o’r fath yn codi oherwydd nad yw’r defnydd bwriadol yn cydymffurfio â gweithgareddau eraill yn y Ganolfan.
Archebu
Mae modd gwneud archeb o flaen llaw trwy ffonio 029 2087 4748 neu yn bersonol yn nerbynfa Canolfan y Graddedigion. Mae myfyrwyr ôl-raddedig yn gallu gwirio argaeledd ar y dydd a gwneud cais i ddefnyddio ystafell os yw ar gael.
Ym mhob achos, rhaid llenwi ffurflen archebu ystafell. Mae modd lawrlwytho’r ffurflen o’r adnoddau (dewislen dde) a’i chyflwyno i Ganolfan y Graddedigion. Bydd angen i fyfyrwyr sy’n archebu dros y ffôn ddangos cerdyn adnabod wrth y dderbynfa cyn cael defnyddio’r ystafell.
Rhaid i sefydliadau allanol ddarparu cyfeiriad bilio ac, o bosibl, byddwn yn gofyn i chi dalu blaendal.
Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig neu os rydych yn cynllunio ar gyfer digwyddiadau mwy cymhleth, megis cynhadledd, mae’n bosibl i chi drefnu cyfarfod gydag aelod staff i drafod y sefyllfa.


