Skip to content
Skip to navigation menu

Ystafell Darllen

readingroom

Mae’r Ystafell Ddarllen yn cynnig dewis amgen i astudio yn y llyfrgell neu adref yn eich fflat neu’ch tŷ.

Mae 33 o seddi cyfforddus mewn unedau astudio unigol. Mantais ychwanegol yw’r agosatrwydd at yr Ystafell Gyfrifiaduron, os oes angen defnyddio cyfrifiadur wedi’i rwydweithio arnoch, ac i’r Bar Caffi os oes angen rhywbeth i fwyta arnoch. Mae croeso i chi ddod â’ch bwyd neu’ch diod eich hun i’r Ystafell Ddarllen, ond tacluswch ar eich hôl os gwelwch yn dda.

Mae’r Ystafell Ddarllen yn fan astudio unigol; ni chaniateir gwaith grŵp na sgwrsio yno. Rhaid diffodd pob ffôn symudol yn yr Ystafell Ddarllen ac ni chaniateir gwrando ar gerddoriaeth na gwylio fideos - ddim hyd yn oed trwy glustffonau.  

Mae hawl gennych ddefnyddio gliniaduron yn yr Ystafell Ddarllen, ond rhaid diffodd y sŵn ac ni chaniateir defnyddio clustffonau.

Rhaid nodi bod yr Ystafell Ddarllen yn uniongyrchol uwchben Solus, clwb nos yr Undeb, felly nid oes llawer o dawelwch yno pan mae’r clwb ar agor gyda’r nos; sef o 10.00pm ar nos Lun, nos Fercher, nos Wener a nos Sadwrn yn ystod y tymor. Os rydych yn gwneud taith arbennig i’r Ganolfan, mae’n werth gwirio o flaen llaw os oes adloniant wedi’i drefnu yn Solus.