Skip to content
Skip to navigation menu

Gwibdeithiau

Os hoffech lawrlwytho ffurflen cadw lle ar gyfer un o’n teithiau, mae adnodd ar gyfer gwneud hynny ar ochr dde’r dudalen hon. Dylech ddod â’r ffurflen wedi’i llenwi ynghyd â’r tâl i dderbynfa Canolfan y Graddedigion.

Gair o gyngor ar gyfer cadw lle ar gyfer eich taith: Os ydych yn dod i Ganolfan y Graddedigion yn arbennig ar gyfer cadw eich lle ac eisiau gwybod faint o docynnau sydd ar gael, gallwch ffonio 02920 874748 ymlaen llaw neu gallwch ein dilyn ar Twitter: @Grad_Centre.

Angen Pobl i Helpu ar y Bysiau
Rydym yn recriwtio pobl i’n helpu ni ar y bysiau ar rai o’r teithiau hyn. Mae’n rhaid i chi fod yn fyfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda Saesneg llafar da a phersonoliaeth glên. Byddai profiad blaenorol o fantais. Nid ydym yn gallu cynnig tâl am hyn, fodd bynnag, byddwch yn cael tocyn bws am ddim ar gyfer y daith. Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch neges e-bost at Myra Woods, woodsmj@caerdydd.ac.uk .

Date Destination Bookings Open Price
04 Hydref Tro a Thaith ar Gwch ym Mae Caerdydd 24 Medi £10.00
20 Hydref Rhydychen 01 Hydref £13.00
03 Tachwedd Cambridge 15 Hydref £18.00
17 Tachwedd Llundain 29 Hydref £16.00
01 Rhagfyr Marchnad Nadolig “Frankfurt” Birmingham 12 Tachwedd £12.00
26 Ionawr Côr y Cewri a Chaersallog 07 Ionawr £18.00
09 Chwefror Caerfaddon 21 Ionawr £10.00
23 Chwefror Windsor 04 Chwefror £14.00
09 Mawrth Stratford-Upon-Avon 18 Chwefror £12.00
24 Mawrth Parc Saffari Longleat 04 Mawrth £25.00
04 Mai Rhydychen 15 Ebrill £13.00
25 Mai Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol a Rhosili

Dydd Mawrth 7 Mai

(o achos Gwyl y Bankc))

£18.00
08 Mehefin Y Gelli Gandryll 20 Mai £10.00
29 Mehefin Côr y Cewri a Chaersallog 10 Mehefin £18.00
14 Gorffennaf Parc Thema Alton Towers 24 Mehefi £39.00
27 Gorffennaf Castell Warwig 08 Gorffennaf £25.00
10 Awst Caerfaddon 22 Gorffennaf £10.00
24 Awst Bannau Brycheiniog 05 Awst £8.00

 

Tro a Thaith ar Gwch ym Mae Caerdydd (gallwch gadw lle o 24 Medi)
Dydd Iau 04 Hydref 2012
£10.00 yr un (gan gynnwys lluniaeth) – Sylwch: nid yw cost y daith yn ôl wedi’i chynnwys yn y pris.

Cewch eich tywys drwy Barc Bute, gan stopio ar hyd y ffordd i ddysgu am Gastell Caerdydd a’i barciau. Wedyn byddwch yn mynd ar yr Aquabus (sef tacsis dŵr Caerdydd) i’r bae, gan archwilio Morglawdd Bae Caerdydd ar y ffordd. Oddi yno, byddwch yn mynd i Lolfa Ffresh yng Nghanolfan Mileniwm Cymru am luniaeth Cymreig blasus, a dilynir hyn gyda thaith dywysedig o gwmpas y Senedd, sef cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac adeilad o bwys pensaernïol mawr. Wedyn, gallwch barhau i archwilio Bae Caerdydd yn hamddenol a chewch eich hysbysu ynghylch lle i ddal y bws/trên i ddychwelyd i’r campws, neu gallwch ddychwelyd gyda’r tywyswyr. Bydd y daith yn gadael am 13:00 o flaen Mynedfa Prif Faes Parcio’r Brifysgol, Plas y Parc. Byddwch yno tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Bydd y daith yn gorffen tua 17:00. Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.welsh.visitcardiff.com/.

 

Rhydychen (gallwch gadw lle o 01 Hydref)
Dydd Sadwrn 20 Hydref 2012 WEDI GWERTHU ALLAN
£13.00 yr un

Rhydychen yw man geni Alice in Wonderland a’r lleoliad ar gyfer “Neuadd Hogwarts” yn y ffilmiau Harry Potter, ac mae Christ Church yn lle sy’n rhaid ei weld. Mae amgueddfeydd sy’n enwog ledled y byd megis Amgueddfa Ashmole a’r Amgueddfa Celf Fodern yn darparu rhywbeth i bobl o bob oedran. Bydd y daith yn gadael am 08:00 o flaen Adeilad Undeb y Myfyrwyr ym Mhlas y Parc. Byddwch yno tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Byddwn yn gadael Rhydychen am 18:00, gan ddychwelyd i Gaerdydd tua 20:00. Mae’r holl amseroedd yn rhai bras a gallant amrywio. Gallai’r gwefannau canlynol eich cynorthwyo wrth gynllunio eich diwrnod:  www.ox.ac.uk/museums a www.visitoxford.org.

Cergrawnt (gallwch gadw lle o 15 Hydref)
Dydd Sadwrn 03 Tachwedd 2012 WEDI GWERTHU ALLAN
£18.00 yr un
Mae dinas prifysgol unigryw Caergrawnt wedi denu myfyrwyr am bron i 800 mlynedd. Mae’r Afon Cam yn llifo drwy ganol Caergrawnt ac mae’n fan poblogaidd ar gyfer pyntio traddodiadol. Prif nodwedd canol Caergrawnt yw holl adeiladau a cholegau’r brifysgol, ac mae’n hawdd teithio o gwmpas naill ai ar droed neu ar feic. Lleolir yr ardal a adwaenir fel y Backs ar lan yr Afon Cam a cheir golygfeydd o adeiladau hardd nifer o golegau, megis Capel Coleg y Brenin. Caiff teithiau cerdded yn y ddinas eu trefnu’n rheolaidd gan Ganolfan Groeso Caergrawnt ar Wheeler Street o dan arweiniad tywyswyr lleol sy’n aml yn gwisgo mewn gwisgoedd Tuduraidd; mae’r teithiau cerdded hyn yn gallu bod yn boblogaidd, felly dylech archebu tocynnau o flaen llaw i sicrhau eich lle. Gallai’r gwefannau canlynol eich cynorthwyo wrth gynllunio eich diwrnod: http://www.cambridge.world-guides.com a http://www.visitcambridge.org. Bydd y daith yn gadael Caerdydd am 06:00. Byddwn yn gadael Caergrawnt am 18.00 gan ddychwelyd i Gaerdydd tua 22.30. Mae’r holl amseroedd yn rhai bras a gallant amrywio. Nid taith dywysedig mo hon, felly dylech wneud rhywfaint o waith ymchwil cyn eich ymweliad.

 

Llundain (gallwch gadw lle o 29 Hydref)
Dydd Sadwrn 17 Tachwedd 2012
£16.00 yr un

Mae Llundain yn gartref i lu o atyniadau hanesyddol a modern, o’r London Eye i’r Oriel Genedlaethol a Thŵr Llundain, neu gallech ganolbwyntio ar siopa! Bydd y daith yn gadael am 07.30 o flaen Adeilad Undeb y Myfyrwyr ym Mhlas y Parc. Byddwch yno tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Byddwn yn gadael Llundain am 18:30, gan ddychwelyd i Gaerdydd tua 21:30. Mae’r holl amseroedd yn rhai bras a gallant amrywio. Gallai’r gwefannau canlynol eich cynorthwyo wrth gynllunio eich diwrnod: http://uk.visitlondon.com/ neu  http://www.londontown.com/.

 

Marchnad Nadolig “Frankfurt” Birmingham (gallwch gadw lle o 12 Tachwedd)
Dydd Sadwrn 01 Rhagfyr 2012 WEDI GWERTHU ALLAN
£12.00 yr un

Mae Marchnad Nadolig Frankfurt yn Birmingham yn ffefryn mawr gydag ymwelwyr i’r ddinas o bob cwr o’r DU ac Ewrop. Ynghyd â Ffair Grefftau Nadolig y ddinas ei hun gyda masnachwyr lleol, mae’n cynnig cyfanswm o dros 180 o stondinau i’w pori a mwynhau. Dyma’r farchnad Almaenig go iawn fwyaf y tu allan i’r Almaen ac Awstria. Mwynhewch y teimlad o bentref bach yng nghanol y ddinas brysur, gyda chalets pren prydferth yn cynnig anrhegion traddodiadol wedi’u gwneud â llaw, gan gynnwys gemwaith, teganau pren, doliau a chanhwyllau. Caiff awyrgylch wirioneddol gyfandirol ei chreu gan oleuadau, synau ac arogleuon y digwyddiad unigryw hwn sy’n cael ei fewnforio yn ei gyfanrwydd a’i osod mewn lleoliad hyfryd yn Victoria Square yn Birmingham. I wneud yr holl brofiad hyd yn oed yn well, bydd cerddoriaeth fyw bob amser cinio a gyda’r nos o safle seindorf traddodiadol. Bydd croeso gwirioneddol ryngwladol a phrofiad siopa unigryw yn disgwyl pob ymwelydd i ganol Birmingham y Nadolig hwn. Bydd y daith yn gadael Caerdydd am 09:00 gan gyrraedd tua 11:00. Byddwch yn barod tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Byddwn yn gadael Birmingham am 18.00.
Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.visitbirmingham.com, http://www.christmasmarkets.com.uk/frankfurtmarket  a http://www.birmingham.gov.uk/christmascraftfair.

 

Côr y Cewri a Chaersallog (gallwch gadw lle o 07 Ionawr 2013)
Dydd Sadwrn 26 Ionawr 2013 WEDI GWERTHU ALLAN
£18.00 yr un (yn cynnwys tâl mynediad i Gôr y Cewri)

Mae Côr y Cewri’n heneb gynhanesyddol fyd-enwog sy’n dyddio’n ôl miloedd o flynyddoedd. Wedi’i lleoli ar Wastadedd Caersallog, 10 milltir i’r gogledd o Gaersallog, mae’n gyfres o gylchoedd consentrig o feini hirion yn amgylchynu carreg allor yn y canol. Mae Caersallog yn ddinas gadeiriol hynafol sy’n enwog am ei heglwys gadeiriol hardd. Bob blwyddyn mae dros 600,000 o ymwelwyr o bob cwr o’r byd yn ymweld â’r eglwys gadeiriol a’r cowrt. Bydd y daith yn gadael Caerdydd am 08:00. Byddwch yn barod tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Byddwn yn treulio rhyw 1 awr a 30 munud yng Nghôr y Cewri cyn teithio ymlaen i Gaersallog. Byddwn yn gadael Caersallog am 17:00. Am wybodaeth bellach, ewch i http://www.stonehenge.co.uk/ a http://www.salisburycathedral.org.uk/

 

Caerfaddon (gallwch gadw lle o 21 Ionawr 2013)
Dydd Sadwrn 09 Chwefror 2013 
£10.00 yr un

Datblygwyd Caerfaddon o amgylch safle ffynhonnau thermol hynafol, sydd erbyn hyn yn rhan o un o bum atyniad mwyaf poblogaidd y DU, ac mae wedi’i ddynodi’n Safle Treftadaeth y Byd. Mae Caerfaddon yn enwog am ei Baddonau Rhufeinig (mae tâl mynediad), y Pump Room, Abaty Caerfaddon, Pont Pulteney, a’r Circus. Gallai’r gwefannau canlynol eich cynorthwyo wrth gynllunio eich diwrnod: www.visitbath.co.uk a www.romanbaths.co.uk. Bydd y daith yn gadael Caerdydd am 08:30 gan gyrraedd tua 10:00. Byddwch yn barod tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Byddwn yn gadael Caerfaddon am 18:00 gan ddychwelyd i Gaerdydd tua 19:30. Mae’r holl amseroedd yn rhai bras a gallant amrywio. Nid taith dywysedig mo hon, felly dylech wneud rhywfaint o waith ymchwil cyn eich ymweliad.

 

Windsor (gallwch gadw lle o 04 Chwefror 2013) 
Dydd Sadwrn 23 Chwefror 2013 WEDI GWERTHU ALLAN 
£14.00 yr un

Mae’r daith hon yn mynd â chi i Fwrdeistref Frenhinol Windsor. Mae Windsor yn fwyaf enwog am y castell a Legoland. Mae’r castell yn gartref swyddogol i’r Frenhines a hwn yw castell cyfannedd mwyaf y byd. Gallwch ymweld â’r castell neu fynd ar drip i Legoland, cymryd taith mewn cwch i fyny’r afon Tafwys, neu ymweld â Choleg Eton neu Frogmore House. Lleolir llawer o atyniadau Windsor yng nghanol y dref neu gellir eu cyrraedd ar fws lleol. Gallwch ddal trên o Windsor i Paddington neu Waterloo hefyd, felly gallwch hyd yn oed ymweld â Llundain am y diwrnod. Am fanylion llawn am holl atyniadau Windsor er mwyn cynllunio eich diwrnod, ewch i www.windsor.gov.uk/attractions/attract. Bydd y daith yn gadael am 08:00 o flaen Adeilad Undeb y Myfyrwyr ym Mhlas y Parc. Byddwch yno tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Byddwn yn gadael Windsor tua 17.30 gan ddychwelyd i Gaerdydd am 20.00. Mae’r holl amseroedd yn rhai bras a gallant amrywio.

 

Stratford-upon-Avon (gallwch gadw lle o 18 Chwefror 2013)
Dydd Sadwrn 09 Mawrth 2013
£12.00 yr un

Dewch i ymweld â Stratford-upon-Avon, man geni byd-enwog William Shakespeare a chartref theatr Cymdeithas Frenhinol Shakespeare. Neu efallai y byddai’n well gennych amgylchedd hardd Bwthyn Ann Hathaway yng nghefn gwlad Swydd Warwig? Neu ewch ar daith cwch ar hyd yr Afon Avon a mwynhau’r perfformwyr stryd amrywiol ar ei glannau. Bydd y daith yn gadael Caerdydd am 08:30 gan gyrraedd tua 11:00. Byddwch yn barod tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Byddwn yn gadael Stratford am 18:00 gan ddychwelyd i Gaerdydd tua 20:30. Mae’r holl amseroedd yn rhai bras a gallant amrywio. Nid taith dywysedig mo hon, felly dylech wneud rhywfaint o waith ymchwil cyn eich ymweliad. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn http://www.stratford-upon-avon.co.uk.  

Parc Saffari Longleat (gallwch gadw lle o 04 Mawrth 2013)
Dydd Sul 24 Mawrth 2013
£25.00 yr un (yn cynnwys mynediad i’r holl atyniadau yn Longleat)

Mae Longleat yn cynnig llu o atyniadau beth bynnag yw eich diddordeb! Ystyrir Longleat House yn un o’r plastai mwyaf prydferth sydd ar agor i’r cyhoedd. Gallwch fod yn agos at lewod, teigrod a jiraffod yn y Parc Saffari cyn gadael eich bws a mynd ar Gwch Saffari neu Reilffordd Longleat. Gydag 11 o atyniadau i’w harchwilio, mae rhywbeth yma i bawb! Ewch i’r wefan, www.longleat.co.uk, i gael gwybod mwy. Mae’r daith yn gadael Caerdydd am 08:00 gan gyrraedd Longleat am 10:30. Byddwn yn gadael Longleat am 17:30 gan ddychwelyd i Gaerdydd tua 20:00. Mae’r holl amseroedd yn rhai bras a gallant amrywio.

 

Rhydychen (gallwch gadw lle o15 Ebrilll 2013)
Dydd Sadwrn 04 Mai 2013
£13.00 yr un
Rhydychen yw man geni Alice in Wonderland a’r lleoliad ar gyfer “Neuadd Hogwarts” yn y ffilmiau Harry Potter, ac mae Christ Church yn lle sy’n rhaid ei weld. Mae amgueddfeydd sy’n enwog ledled y byd megis Amgueddfa Ashmole a’r Amgueddfa Celf Fodern yn darparu rhywbeth i bobl o bob oedran. Bydd y daith yn gadael am 08:00 o flaen Adeilad Undeb y Myfyrwyr ym Mhlas y Parc. Byddwch yno tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Byddwn yn gadael Rhydychen am 18:00, gan ddychwelyd i Gaerdydd tua 20:00. Mae’r holl amseroedd yn rhai bras a gallant amrywio. Gallai’r gwefannau canlynol eich cynorthwyo wrth gynllunio eich diwrnod:  www.ox.ac.uk/museums a www.visitoxford.org.

 

Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol a Rhosili (gallwch gadw lle o ddydd Mawrth 7 Mai 2013, oherwydd Gŵyl y Banc)
Dydd Sul 25 Mai 2013
£18.00 yr un 

Yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, mae amrywiaeth anhygoel o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt i’w gweld – gyda rhai ohonynt yn gyfarwydd a rhai yn brin iawn. Mae’r brithwaith o lynnoedd, nentydd, corsydd, coetir lled-naturiol, dolydd a gerddi ffurfiol yn gartref i dros 1,000 o rywogaethau. Cafodd rhaglen deledu’r BBC Doctor Who - Waters o Mars ei ffilmio yn y Tŷ Gwydr Mawr. Lleolir Rhosili ym mhen mwyaf gorllewinol Penrhyn Gŵyr, ac yma y mae Pen Pyrod sy’n ymestyn allan i’r môr ac yn dod yn ynys pan fydd y llanw’n dod i mewn. Mae’r olygfa’n syfrdanol gyda thraeth tywod hir a chlogwyni uchel . Cafodd Bae Rhosili ei ddewis fel man picnic gorau a thraeth gorau’r DU ym mis Mehefin 2010. Bydd y daith yn gadael Caerdydd am 08:30 a bydd yn gadael Rhosili am 18:00 gan ddychwelyd i Gaerdydd tua 19:30. Mae’r holl amseroedd yn rhai bras a gallant amrywio. Nid taith dywysedig mo hon, felly dylech wneud rhywfaint o waith ymchwil cyn eich ymweliad. Gweler http://www.gardenofwales.org.uk/cy/ a http://www.the-gower.com/villages/Rhossili/rhossili.htm.


Y Gelli Gandryll (gallwch gadw lle o 20 Mai 2013)
Dydd Sadwrn 08 Mehefin 2013
£10.00 yr un

Mae’r Gelli Gandryll yn dref farchnad fechan sydd wedi’i lleoli ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae’r dref yn enwog am fod ag oddeutu 34 siop lyfrau ail-law. Byddwn yn ymweld adeg Gŵyl y Gelli. Bydd y daith yn gadael am 09:30 o flaen Adeilad Undeb y Myfyrwyr ym Mhlas y Parc. Byddwch yno tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Byddwn yn gadael y Gelli Gandryll am 18:00, gan ddychwelyd i Gaerdydd tua 19:15. Mae’r holl amseroedd yn rhai bras a gallant amrywio. Gallai’r gwefannau canlynol eich cynorthwyo wrth gynllunio eich diwrnod: http://www.hay-on-wye.co.uk/ neu http://www.hay-on-wye.co.uk/bookshops/body.htm.

 

Côr y Cewri a Chaersallog (gallwch gadw lle o10 Mehefin 2013)
Dydd Sadwrn 29 Mehefin 2013 WEDI GWERTHU ALLAN
£18.00 yr un (yn cynnwys tâl mynediad i Gôr y Cewri)

Mae Côr y Cewri’n heneb gynhanesyddol fyd-enwog sy’n dyddio’n ôl miloedd o flynyddoedd. Wedi’i lleoli ar Wastadedd Caersallog, 10 milltir i’r gogledd o Gaersallog, mae’n gyfres o gylchoedd consentrig o feini hirion yn amgylchynu carreg allor yn y canol. Mae Caersallog yn ddinas gadeiriol hynafol sy’n enwog am ei heglwys gadeiriol hardd. Bob blwyddyn mae dros 600,000 o ymwelwyr o bob cwr o’r byd yn ymweld â’r eglwys gadeiriol a’r cowrt. Bydd y daith yn gadael Caerdydd am 08:00. Byddwch yn barod tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Byddwn yn treulio rhyw 1 awr a 30 munud yng Nghôr y Cewri cyn teithio ymlaen i Gaersallog. Byddwn yn gadael Caersallog am 18:00. Am wybodaeth bellach, ewch i http://www.stonehenge.co.uk/ a http://www.salisburycathedral.org.uk

 

Parc Thema Alton Towers (gallwch gadw lle o 24 Mehefin 2013)
Dydd Sul 14 Gorffennaf 2013
£39.00 yr un (yn cynnwys mynediad i’r parc a’r holl reidiau)

Alton Towers yw un o brif barciau thema’r byd! Mae yma lu o reidiau ac atyniadau yn ymestyn dros 500 erw o gefn gwlad. Mae’n adnabyddus fel cartref reidiau unigryw, arloesol megis Nemesis, sef y reid ffigar-êt grog “coesau’n rhydd” gyntaf erioed; Oblivion, sef y reid ddisgyn yn fertigol “wyneb yn gyntaf” gyntaf erioed; a Th13teen, sef y daith frawychus eithaf - pob reid rydych erioed wedi breuddwydio amdanynt mewn un! Mae rhywbeth yno ar gyfer yr holl deulu. Bydd y daith yn gadael am 06:00 o flaen Adeilad Undeb y Myfyrwyr ym Mhlas y Parc. Byddwch yno tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Byddwn yn gadael Alton Towers am 18:30, gan ddychwelyd i Gaerdydd tua 22:30. Mae’r holl amseroedd yn rhai bras a gallant amrywio. Ceir rhagor o wybodaeth am Alton Towers ar wefan y parc: http://www.altontowers.com/resort.


Castell Warwig (gallwch gadw lle o 8 Gorffennaf 2013)
Dydd Sul 27 Gorffennaf 2013
£25.00 yr un (yn cynnwys mynediad i’r castell)

Dewch i ymweld â Chastell Warwig a darganfod 1,000 o flynyddoedd o hanes. Dyma gastell Canoloesol gorau Lloegr ac mae’n darparu’r profiad Canoloesol gorau, o gartref Canoloesol yn arddangosfa Kingmaker i ‘Barti Penwythnos Brenhinol’ Fictoraidd. Bydd y daith yn gadael am 09:00 o flaen Adeilad Undeb y Myfyrwyr ym Mhlas y Parc. Byddwch yno tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Byddwn yn gadael Castell Warwig am 18:00, gan ddychwelyd i Gaerdydd tua 20:00. Mae’r holl amseroedd yn rhai bras a gallant amrywio. Am wybodaeth bellach, ewch i http://www.warwick-castle.co.uk/

 

Caerfaddon (gallwch gadw lle o 10 Gorffennaf 2013)
Dydd Sadwrn 10 Awst 2013
£10.00 yr un

Datblygwyd Caerfaddon o amgylch safle ffynhonnau thermol hynafol, sydd erbyn hyn yn rhan o un o bum atyniad mwyaf poblogaidd y DU, ac mae wedi’i ddynodi’n Safle Treftadaeth y Byd. Mae Caerfaddon yn enwog am ei Baddonau Rhufeinig (mae tâl mynediad), y Pump Room, Abaty Caerfaddon, Pont Pulteney, a’r Circus. Gallai’r gwefannau canlynol eich cynorthwyo wrth gynllunio eich diwrnod: www.visitbath.co.uk a www.romanbaths.co.uk. Bydd y daith yn gadael Caerdydd am 08:00 gan gyrraedd tua 09:30. Byddwch yn barod tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Byddwn yn gadael Caerfaddon am 18:00 gan ddychwelyd i Gaerdydd tua 19:30. Mae’r holl amseroedd yn rhai bras a gallant amrywio. Nid taith dywysedig mo hon, felly dylech wneud rhywfaint o waith ymchwil cyn eich ymweliad.

 

Bannau Brycheiniog (gallwch gadw lle o 5 Awst 2013)
Dydd Sadwrn 24 Awst 2013
£8.00 yr un

Yn gyntaf byddwn yn ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Garwnant sydd wedi’i lleoli ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac sy’n cael ei rhedeg gan y Comisiwn Coedwigaeth. Mae’n cynnig  400 erw o goetir hardd lle gallwch gerdded ar hyd un o nifer o lwybrau natur. Awn ymlaen i Aberhonddu, sef y dref fwyaf o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n dref lle byddwch yn mwynhau colli’ch hun… nid yn unig yn y strydoedd a thramwyfeydd cul gyda’u blaenau siopau Sioraidd a Jacobeaidd, ond hefyd yn natur ddigyfnewid y dref. Byddwn yn gorffen y diwrnod yng Nghanolfan Fynydd Bannau Brycheiniog sy’n cael ei rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol. Saif y Ganolfan Fynydd 1,100 troedfedd / 335m uwchben lefel y môr ac mae’r lleoliad yn cynnig golygfeydd trawiadol o Ben y Fan, sef y mynydd uchaf yn Ne Cymru. Mae crib rhostir gyfagos a elwir yn Fynydd Illtyd yn cynnig llwybrau cerdded braf, o lwybrau sydd wedi’u graddio’n rhai hawdd i rai cymedrol. Bydd y daith yn gadael am 09.00 o flaen Adeilad Undeb y Myfyrwyr ym Mhlas y Parc. Byddwch yno tua 15 munud cyn yr amser ymadael i gael eich cofrestru ar gyfer y daith. Rydym yn bwriadu treulio 2 awr a 30 munud yn Aberhonddu cyn mynd ymlaen i’r Ganolfan Fynydd. Byddwn yn gadael y Ganolfan Fynydd am 17.00. Mae’r holl amseroedd yn rhai bras a gallant amrywio. Gallai’r gwefannau canlynol eich cynorthwyo wrth gynllunio eich diwrnod:  http://www.brecontown.co.uk/, http://www.brecon-beacons.com/mountain-centre.htm

 




Adnoddau Cysylltiedig