Skip to content
Skip to navigation menu

Digwyddiadau

Digwyddiadau Cymdeithasol

Mae Canolfan y Graddedigion yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn – gan gynnwys nosweithiau ffilm wythnosol am ddim – sy’n agored i holl fyfyrwyr ôl-raddedig Caerdydd. Hefyd, gallwch ddod â gwesteion i’r digwyddiadau cymdeithasol.

Os oes gennych syniad ar gyfer digwyddiad neu os hoffech wybod rhagor am ein lleoliad am ddim ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol ac academaidd i ôl-raddedigion, anfonwch neges e-bost atom ni yng Nghanolfan y Graddedigion: grad-centre@caerdydd.ac.uk

Ewch i’n tudalen we Events Saesneg i weld amserlen o ddigwyddiadau sydd ar ddod yng Nghanolfan y Graddedigion, neu os hoffech weld pa nosweithiau ffilm sydd ar ddod, ewch i’r adnoddau cysylltiedig ar ochr dde’r dudalen hon.

Gwibdeithiau

Mae Canolfan y Graddedigion yn cynnal teithiau bws bob pythefnos i gyrchfannau gwych yn y Deyrnas Unedig, sydd ar gael i ôl-raddedigion a’u gwesteion gwadd. Gallwch weld ein hamserlen a’r prisiau ar dudalen we Gwibdeithiau.

Adnoddau Cysylltiedig

Ioanawr - Mawrth Ffilmiau