Skip to content
Skip to navigation menu

Hybu Ymchwil Ryngddisgyblaethol a Darparu Cyfleoedd Hyfforddi a Datblygu i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig a Staff Ymchwil

Mae’r Ysgolion i Raddedigion yng Nghaerdydd yn bodoli er mwyn hybu amgylchedd sy’n cynnig ysgogiad deallusol a lle caiff myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a staff ymchwil eu hannog i rannu a datblygu diddordebau ymchwil gyda’u cymheiriaid o Ysgolion academaidd eraill, ac i deimlo eu bod yn rhan o gymuned ymchwil ehangach.

Research students enjoying one of Cardiff's many parks

Pedair Ysgol i Raddedigion sydd gan y Brifysgol:

Mae pob Ysgol academaidd yn aelod craidd o un o’r Ysgolion i Raddedigion ac mae’n cael bod yn aelod cyswllt o rai eraill. Byddwch yn aelod yn awtomatig o Ysgol i Raddedigion drwy gyfrwng eich Ysgol academaidd, ond cofiwch eich bod yn cael mynd i ddigwyddiadau sy’n cael eu darparu gan unrhyw un o’r Ysgolion i Raddedigion. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr Ysgolion i Raddedigion.

Y Newyddion Diweddaraf

Gweithdai yn yr Arfaeth
Mae nifer o weithdai wedi’u cynllunio ar gyfer 2010/11 gan gynnwys: Ystadegau i Ddechreuwyr, Archifau, Llawysgrifau a Llyfrau Cynnar ar gyfer Ymchwil, C++ Dechreuwyr/Uwch, Adnabod Cynadleddau a Gyrfaoedd yn y Dyniaethau. Gallwch archebu lle ar y cyrsiau drwy system archebu-dros-y-we y Rhaglen Datblygu Sgiliau i Fyfyrwyr Ôl-raddedig (RSSDP). Os nad ydych chi wedi cael copi o lyfryn newydd yr RSSDP, anfonwch neges e-bost at rssdp@cf.ac.uk

Partneriaeth Grant Bloc
Mae Partneriaeth Grant Bloc (BGP) wedi'i dyfarnu i Brifysgol Caerdydd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) i roi cyllid ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig dros y pum mlynedd nesaf (rhagor o wybodaeth...).

Postgraduate researchers discuss their work