Skip to content
Skip to navigation menu

Ynghylch yr Ysgolion i Ymchwilwyr a Graddedigion

Rhagymadrodd

Mae’r Ysgolion i Raddedigion yng Nghaerdydd yn bodoli er mwyn hybu amgylchedd sy’n cynnig ysgogiad deallusol a lle caiff myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a staff ymchwil eu hannog i rannu a datblygu diddordebau ymchwil gyda’u cymheiriaid o Ysgolion academaidd eraill, ac i deimlo eu bod yn rhan o gymuned ymchwil ehangach. Yn ychwanegol at drefnu digwyddiadau a gweithgareddau rhwng y disgyblaethau, mae’r Ysgolion i Raddedigion yn darparu hyfforddiant mewn medrau sy’n cydategu’r rhaglen generig sy’n cael ei chynnig gan y Ganolfan i Raddedigion, a’r hyfforddiant arbenigol, yn benodol i’r ddisgyblaeth, sy’n cael ei ddarparu gan yr Ysgolion academaidd.

Pedair Ysgol i Raddedigion sydd gan y Brifysgol:

Mae pob Ysgol academaidd yn aelod craidd o un o’r Ysgolion i Raddedigion ac mae’n cael bod yn aelod cyswllt o rai eraill. Byddwch yn aelod yn awtomatig o Ysgol i Raddedigion drwy gyfrwng eich Ysgol academaidd, ond cofiwch eich bod yn cael mynd i ddigwyddiadau sy’n cael eu darparu gan unrhyw un o’r Ysgolion i Raddedigion.

Mae manylion aelodaeth yr Ysgolion i Raddedigion i’w gweld ar dudalennau gwe’r Ysgolion Graddedigion unigol..

Mae’r Ysgolion i Raddedigion yn cael eu rhedeg gan staff academaidd a staff cymorth i chi. Eu nodau nhw yw:

Hyfforddi a Datblygu mewn Ymchwil

Un o brif amcanion yr Ysgolion i Raddedigion yw gwella hyfforddiant mewn sgiliau a chyfleoedd datblygu a hynny drwy gyrsiau a digwyddiadau sydd wedi’u seilio ar y disgyblaethau ac sydd wedi’u dylunio i fod o les i’ch astudiaethau academaidd a’ch rhagolygon ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. 

Mae manylion llawn y cyfleoedd hyfforddi i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a’r manylion ynghylch archebu lleoedd ar gael drwy wefan Rhaglen Datblygu Sgiliau Myfyrwyr Ymchwil (RSSDP).  Mae’r RSSDP yn cael ei chydlynu ar y cyd gan yr Ysgolion i Raddedigion a’r Ganolfan i Raddedigion.

Mae manylion llawn y cyfleoedd i staff ymchwil a’r manylion ynghylch archebu lleoedd ar gael drwy wefan Rhaglen Sgiliau Datblygu Gyrfa Staff Ymchwil.  Mae’r cynllun hwn yn cael ei gydlynu ar y cyd gan yr Ysgolion i Raddedigion a’r tîm datblygu staff ymchwil yn yr adran adnoddau dynol.

Mae’r Ysgol i Ymchwilwyr a Graddedigion yn y Gwyddorau Cymdeithasol hefyd yn cydlynu MSc/Diploma mewn Dulliau Ymchwil yn y Gwyddorau Cymdeithasol, sydd wedi’u cydnabod gan yr ESRC ac sydd fel arfer yn ofynnol er mwyn astudio ar gyfer PhD.

Gweithgareddau Cydweithredol a Rhyngddisgyblaethol

Mae’r Ysgolion i Raddedigion yn hwyluso deialog rhwng ymchwilwyr mewn pynciau gwahanol er mwyn rhoi hwb i gydweithredu rhwng y disgyblaetha. Maen nhw’n galluogi ymchwilwyr i fod yn fwy ymwybodol o’r amrediad o waith ymchwil sy’n cael ei wneud.

Mae enghreifftiau o weithgareddau’n cynnwys:

Mae’r Ysgolion i Raddedigion hefyd yn darparu cyllid ar gyfer gweithgareddau academaidd rhyngddisgyblaethol sy’n cael eu trefnu gan  fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a staff ymchwil megis fforymau ar themâu penodol, grwpiau darllen, seminarau, cynadleddau a gweithdai.