Yr Ysgol i Raddedigion yn y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
Croeso i’r Yr Ysgol i Raddedigion yn y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (PSE).
Bydd yr Ysgol i Raddedigion:
- yn cynyddu lefel y cymorth ar gyfer myfyrwyr yn y gwyddorau ffisegol a pheirianneg, i gydategu’r cymorth sy’n cael ei ddarparu eisoes gan yr Ysgolion Academaidd a’r Ganolfan i Raddedigion;
- yn darparu hyfforddiant ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig a staff yn y gwyddorau ffisegol a pheirianneg;
- yn hwyluso deialog rhwng ymchwilwyr yn y gwyddorau ffisegol a pheirianneg er mwyn rhoi hwb i ymchwil gydweithredol rhwng y disgyblaethau.

Y Newyddion Diweddaraf
Datblygu Gyrfa Academaidd yn y Gwyddorau ac mewn Peirianneg
Mae’r gweithdy hanner diwrnod hwn ar gyfer y rhai sy’n ystyried gyrfa academaidd, neu sydd am hyrwyddo’u gyrfa academaidd yn y gwyddorau biomeddygol a bywyd, neu’r gwyddorau ffisegol a pheirianneg. Mae’r gweithdy wedi ei anelu at fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ac ymchwilwyr newydd. Bydd sawl aelod o staff academaidd Caerdydd a sefydliadau eraill yno i rannu’u profiadau ar y diwrnod. Cliciwch yma.
Gweithdai yn yr Arfaeth
Mae nifer o gyrsiau wedi’u cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf gan gynnwys: LaTeX i ddechreuwyr, Cyflwyniad i Matlab a Pharatoi at y Viva. Gallwch archebu lle ar y cyrsiau (o 1 Medi ymlaen) drwy system archebu-dros-y-we y Rhaglen Datblygu Sgiliau i Fyfyrwyr Ôl-raddedig.
Digwyddiadau Diweddar
Sôn am Wyddoniaeth 2010
Bydd cynhadledd Sôn am Wyddoniaeth eleni yn cael ei chynnal ddydd Iau 6 Mai 2010. Bydd y digwyddiad unigryw a phoblogaidd hwn sy’n cael ei arwain gan fyfyrwyr i’r holl ymchwilwyr ôl-raddedig yn y gwyddorau ffisegol, biofeddygol a gwyddorau bwyd ym Mhrifysgol Caerdydd a’r sefydliadau cyfagos yn gyfle gwerthfawr i ddysgu am y gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud ac i greu cysylltiadau defnyddiol. Mae cynigion yn cael eu gwahodd ar hyn o bryd ar gyfer cyflwyniadau ar lafar neu boster am eich ymchwil. Cliciwch yma i weld yr Alwad am Bapurau. For further details, please click here.
Cynllunio Gyrfa i Ymchwilwyr yn y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg:
Ystyried eich Opsiynau y tu hwnt i Academia
Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a staff ymchwil yn y gwyddorau ffisegol a pheirianneg i edrych ar amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael y tu hwnt i’r byd academaidd. Bydd siaradwyr o amrywiaeth o gyflogwyr, yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, yn siarad am yrfaoedd yn eu meysydd. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma.
“Kit Parade”
Pa gyfarpar difyr sydd y tu cefn i ddrysau’n labordai ymchwil? Yn ystod yr wythnos yn dechrau 30 Tachwedd, agorodd sawl ysgol yn y gwyddorau ffisegol a pheirianneg eu drysau i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a staff, gan ddangos rhywfaint o’u hoffer mwyaf diddorol. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma.
Bloodhound 1000mya a Chenhedlaeth Newydd o Beirianwyr o Brydain
Richard Noble, Cyfarwyddwr Prosiect newydd Bloodhound SSC (SuperSonic Car) a draddododd Ddarlith Flynyddol yr Ysgol i Raddedigion yn y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma.
I weld digwyddiadau’r gorffennol, cliciwch yma.
Aelodaeth yr Ysgol i Raddedigion yn y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
Aelodaeth Graidd
- Ysgol Pensaernďaeth Cymru
- Ysgol Cemeg Caerdydd
- Ysgol Cyfrifiadureg Caerdydd
- Ysgol Gwyddorau Daear a'r Môr
- Ysgol Peirianneg Caerdydd
- Y Ganolfan Peirianneg Gweithgynhyrchu
- Ysgol Mathemateg Caerdydd
- Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Caerdydd
Aelodaeth Gyswllt
Rhagor o Wybodaeth
Mae’r Ysgol i Raddedigion yn y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd yn cael ei rhedeg gan y Dr Mike Fedeski (Cyfarwyddwr), Catrin Jones (Gweinyddydd), Rebecca Green (Uwch-swyddog Clerigol) a Peter Bell (Swyddog Clerigol). Rydyn ni wedi’n lleoli yn Swyddfa’r Ysgolion i Raddedigion (gweler 'Cysylltiadau’ yn y cwarel ar yr ochr chwith i gael rhagor o fanylion).
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Peter Bell neu Rebecca Green.


