Canllawiau
Defnyddwyr Windows – allanol (o’r tu allan i’r Brifysgol)
I chi weld y gwe-ddarllediadau, fe argymhellir bod eich system yn bodloni’r manylebau hyn:
Windows XP neu Windows Vista
Internet Explorer 6 (neu un diweddarach) Neu Firefox 1.5 (neu un diweddarach)
Windows Media Player 9 neu un diweddarach
I gael y canlyniadau gorau, defnyddiwch Windows Vista, Internet Explorer 8 a Windows Media Player 12.
Gallwch chi hefyd wylio’r gwe-ddarllediadau gyda Windows XP.
Defnyddwyr Windows – mewnol (o’r tu mewn i’r Brifysgol)
I weld y gwe-ddarllediadau ar y campws, bydd angen i chi fod wedi mewngofnodi i Weithfan Windows XP sydd â Windows Media Player 9 neu fersiwn diweddarach ohono.
Os na allwch chi gyrchu Gweithfan XP, cewch ymweld â Chanolfan Astudio Julian Hodge yn Rhodfa Colum.
Nodyn i ddefnyddwyr sydd â hen ddelweddau: Os ydych chi’n defnyddio Media Player 9 sydd â delwedd hŷn, a chithau heb ddefnyddio’r Media Player o’r blaen, efallai na welwch chi’r gwe-ddarllediad ar unwaith. Rhowch gynnig ar yr isod i’ch chwaraewr allu gweithio.
- Agorwch Media Player annibynnol. Gallwch chi wneud hynny drwy ddilyn y cyswllt "View in stand-alone player" ar frig tudalen y gwe-ddarllediad.
- O’r panel llywio ar y chwith, dewiswch Radio Tuner.
- Cliciwch ar y testun “connect the player” sydd wedi’i danlinellu.
- Dychwelwch i’ch porwr ac adnewyddwch y tudalen.
Nodyn i ddefnyddwyr Netscape / Mozilla: Bydd angen i chi wylio’r gwe-ddarllediadau yn y chwaraewr cyfryngau annibynnol. I wneud hynny, dilynwch y cyswllt ‘View in stand-alone player’ ar frig tudalen y gwe-ddarllediad.
Nodyn i ddefnyddwyr Opera: Nodwch na allwch chi ddim gweld y gwe-ddarllediadau drwy Opera.
Cyfrifiaduron Mac sydd â Phrosesydd IBM Power PC
I weld y gwe-ddarllediadau, yr argymhelliad yw eich bod chi’n defnyddio Windows Media Components for QuickTime gyda Mac OS 10.3.9 neu fersiwn cynharach a naill ai Safari 2 neu Firefox 2.
Os nad oes gennych chi’r Windows Media Components for Quiplug-in, gallwch chi eu llwytho i lawr drwy ddilyn y cyswllt isod.
Intel Macs
Yn achos cyfrifiaduron Mac sydd â Phrosesydd Intel sy’n rhedeg OS 10.4.X, defnyddiwch QuickTime 6.5 ynghyd â’r ategyn Flip4Mac WMV a’r Porwr Gwe Safari 2 neu Firefox 2.
Gallwch chi lwytho i lawr yr ategyn Flip4Mac drwy ddilyn y cyswllt isod.

