Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Croeso i wefan Prifysgol Caerdydd

Croeso i wefan Prifysgol Caerdydd.  Rydym yn gobeithio y bydd yn hawdd ei defnyddio, gyda llai o annibendod a llwybrau cyflymach at y cynnwys sydd ei angen arnoch.  Nod y dudalen gymorth hon yw rhoi cyngor i chi ar sut i fanteisio i’r eithaf ar y wefan ac esbonio sut y gallwch roi adborth neu gael help a chymorth wrth ddefnyddio’r wefan.

Prif ardaloedd y wefan

O hafan Prifysgol Caerdydd, gallwch gael mynediad at holl brif ardaloedd y wefan.  Un o ardaloedd mwyaf poblogaidd y wefan yw’r adran 'Ar Gyfer… '. Bwriad y tudalennau 'Ar Gyfer…' yw rhoi mynediad i chi at y tudalennau mwyaf perthnasol ar eich cyfer, p’un a ydych yn ddarpar fyfyriwr, yn fyfyriwr rhyngwladol neu’n fyfyriwr presennol, yn gyn-fyfyriwr neu’n aelod staff.

Prif ardaloedd eraill y wefan yw:

Ynglŷn ar Brifysgol – yma, gallwch gael llawer o wybodaeth am Brifysgol Caerdydd yn ogystal â mynediad at leoliadau a mapiau.

Addysg - mynediad un-clic at wefannau ein Hysgolion Academaidd.  Mae’r dudalen hefyd yn rhoi mynediad uniongyrchol i chi at gynnwys dysgu ac addysgu, gan gynnwys llyfrgelloedd, Blackboard, calendr academaidd a mwy.

Ymchwil - mynediad un-clic at dudalennau Ymchwil pob Ysgol Academaidd, A-Y Canolfannau Ymchwil a’r newyddion Ymchwil pwysicaf.

Newyddion – canolfan newyddion diweddar gyda phorthiannau RSS a sianeli newyddion, sy’n cynnwys holl storïau newyddion Prifysgol Caerdydd.

Digwyddiadau - gyda phorthiannau RSS, cyfleuster chwilio ar gyfer digwyddiadau a chalendr ar gyfer holl ddigwyddiadau’r Brifysgol sydd ar ddod.

Llywio’r wefan

Gallwch lywio’r wefan trwy glicio ar unrhyw rai o’r adrannau o’r hafan; mae’r holl brif adrannau wedi’u lleoli ar frig pob tudalen hefyd.  Mae hyn yn golygu, lle bynnag ydych chi ar y wefan, gallwch fynd yn ôl i unrhyw un o’r adrannau hynny.

Mae hefyd yn bosibl llywio’r wefan gan ddefnyddio’r A-Y sydd wedi’i leoli ar frig y dudalen, gan roi’r dewis i chi gael mynediad at y Prif A-Y, A-Y Ysgolion Academaidd neu’r A-Y Adrannau a Chyfarwyddiaethau.

Cwestiynau ac Adborth

Rydym yn croesawu adborth ar ein gwefan ac awgrymiadau ar gyfer newidiadau yn y dyfodol.  Gallwch anfon eich adborth atom trwy glicio ar 'Adborth ', sydd wedi’i leoli ar waelod pob tudalen.  Gallwch ddefnyddio’r un cyfleuster hefyd i anfon cwestiynau atom neu i ofyn am help a chymorth.

Fel arall, gallwch anfon e-bost atom yn feedback@caerdydd.ac.uk