Ewch i’r prif gynnwys

Datganiad hygyrchedd

Rydym yn ymrwymo i wneud ein gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.caerdydd.ac.uk.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau, oherwydd y diffygion cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rheswm/rhesymau canlynol.

(a) Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Nid yw agweddau penodol ar y wefan hon yn cydymffurfio â safon AA fersiwn 2.1 ar WCAG, fel a ddangosir yn y tabl isod. Wrth i’r wefan hon gydymffurfio fwyfwy gydag amser, caiff y tabl hwn ei ddiweddaru.

Meini Prawf Llwyddiant WCAG 2.1Disgrifiad Tudalennau nad ydynt yn cydymffurfio Cyfran o dudalennau sy’n cydymffurfio
1.1.1Delwedd heb ddewis testun999%
1.2.1Fideo gweledol yn unig heb ddewis arall hygyrch499%
1.3.1Rôl nad yw y tu mewn i'r cyd-destun gofynnol7,81462%
1.3.1Mae cynnwys â ffocws yn yr elfen gudd199%
1.3.1Nid yw penawdau tablau’n cael eu cyfeirio'n gywir3199%
1.3.1Dim celloedd data wedi’u neilltuo i penawdau tablau3099%
1.3.1Penawdau gwag10499%
1.4.3Nid yw’r cyferbyniad lliw yn ddigonol699%
1.4.4Nodwedd manylu ar dudalen wedi’i chyfyngu699%
1.4.4Testun yn cael ei glipio wrth gael ei ail-lunio999%
2.4.4.Dolen heb destun amgen1,27294%
2.4.4.Dolenni yn yr un cyd-destun â'r un testun amgen15399%
2.4.7Dangosydd ffocws bysellfwrdd ar goll399%
2.5.3Nid yw’r label gweladwy a’r enw hygyrch yn cyfateb20,630<1%
4.1.1Nid yw cyfeirnodau’r elfen yn unigryw64497%
4.1.2Nid yw maes y ffurflen wedi'i labelu30799%
4.1.2Botwm heb destun amgen1,96191%
4.1.2Ffrâm linell heb destun amgen10899%
Dogfennau

Nid yw’r rhan fwyaf o’r 2,095 o PDFs a’r 348 o ddogfennau Word ar www.caerdydd.ac.uk sydd wedi’u cyhoeddi ers 23 Medi 2018 yn cydymffurfio.

Mapiau

Efallai nad oes fersiwn hygyrch amgen i fapiau soffistigedig, rhyngweithiol.

Nodweddion eraill

Gwyddwn hefyd fod problemau hygyrchedd yn gysylltiedig ag agweddau canlynol y safle:

  • cyfleoedd ariannu ymchwil ôl-raddedig
  • sgwrsiwch â’n myfyrwyr
  • sgwrs fyw
  • taith rithwir i israddedigion
  • mae rhai cyfryngau wedi'u hymgorffori a gynhelir drwy ddefnyddio meddalwedd trydydd parti
  • ffurflenni ymholiad a chadw lle yn y diwrnod agored

(b) Baich anghymesur

Ar hyn o bryd, nid oes problemau hygyrchedd ar www.cardiff.ac.uk/cy yr ydym yn eu hystyried yn llwyth anghymesur i’w datrys.

(c) Cynnwys nad yw’n dod o dan y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF hŷn a rhai eraill

Mae dogfennau a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 nad ydynt yn hanfodol i’n gwasanaethau, wedi’u heithrio o’r rheoliadau.

Sain a fideo

Mae ffrydiau fideo byw, megis ein seremonïau graddio, wedi’u heithrio o’r rheoliadau hygyrchedd.

Casgliadau arbennig ac archifau

Mae ein casgliadau llyfrgell hanesyddol wedi’u heithrio o’r rheoliadau.

Mapiau

Mae mapiau rhyngweithiol wedi’u heithrio o’r rheoliadau, ond gofynnir am fersiwn hygyrch amgen.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 16 Medi 2019. Cafodd ei ddiweddaru ar 15 Medi 2022.

Mae Prifysgol Caerdydd yn profi’r wefan hon bob wythnos â meddalwedd o’r enw SiteImprove. Mae’r offeryn hwn yn adrodd am broblemau hygyrchedd, ac rydym yn mynd i’r afael â’r rhain yn nhrefn yr effaith fwyaf.

Cafodd y datganiad hwn ei adolygu ddiwethaf ar 15 Medi 2022.

Caiff y dudalen hon ei diweddaru wrth i welliannau pellach i hygyrchedd y wefan gael eu gwneud.

Adborth a manylion cyswllt

Beth i’w wneud os na fydd rhannau o’r wefan hon yn hygyrch i chi

Os oes angen gwybodaeth o’r wefan hon mewn fformat gwahanol arnoch (PDF hygyrch, testun mawr, darllen hawdd, recordiad sain neu ddeunydd Braille), ebostiwch web@caerdydd.ac.uk. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb iddo ymhen pum diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd wrth ddefnyddio’r wefan hon

Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau na restrir ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau Cydymffurfio a Risg.

Cydymffurfiaeth a Risg

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018 (‘y rheoliadau hygyrchedd’). Os na fyddwch yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Pa mor hygyrch yw ein gwefan

Gellir defnyddio’r wefan hon â darllenydd sgrîn, ac mae iddi’r nodweddion hygyrchedd canlynol:

  • y gallu i neidio i gynnwys pob tudalen
  • y gallu i’w llywio â bysellfwrdd neu orchmynion llais
  • y gallu i chwyddo mewn neu allan
  • dyluniad sy’n defnyddio cyferbyniad lliw uchel
  • dyluniad sy’n addasu i wahanol ddyfeisiau a meintiau sgrîn
  • dyluniad lle nad y defnydd o liw yw’r unig ffordd o amlygu rhywbeth
  • y gallu i stopio cynnwys sy’n symud
  • dyluniad neu gynnwys nad yw’n defnyddio delweddau o destun
  • tudalennau sy’n amlygu’r rhan ohoni a ddewiswyd
  • meysydd â labeli hygyrch wrth lenwi ffurflenni
  • tudalennau sydd wedi’u strwythuro â HTML cywir ac ystyrlon