Skip to content
Skip to navigation menu

Diwrnodau Agored HUMSS


Dyddiadau Diwrnodau Agored HUMSS i fyfyrwyr Cydanrhydedd rhyngysgol ar gyfer y sesiwn nesaf yw:

Dydd Mercher 20 Chwefror 2013 1.00 - 4pm

Dydd Mercher 13 Mawrth 2013 1.00 - 4pm

Fel arfer mae'r rhaglen i'r ymgeiswyr yn cychwyn yn Nharlithfa'r Gyfraith L0.22 a chynhelir rhaglen y rhieni yn Nharlithfa'r Gyfraith L2.27. Hefyd Cynhelir sesiwn gyflwyno yn Gymraeg i ymgeiswyr yn ystafell L1.30.

Gwybodaeth i Tiwtoriaid Mynediad HUMSS

Gwybodaeth i Ymgeiswyr Sy'n Mynychu Diwrnodau Agored HUMSS

Mae croeso i ymgeiswyr sy'n cyrraedd Caerdydd yn gynnar fynd ar daith byr o amgylch Campws Parc Cathays. Mae'r taith yn dangos lleoliad rhai o'r adeiladau academaidd, llyfrgelloedd, Undeb y Myfyrwyr a.y.y.b, am 11.30yb. Unrhyw ymgeisydd sydd â diddordeb ymuno ar y daith yma ebostio HUMSS@cf.ac.uk i fwcio ei lle. Mae taith byr y Campws, i rhieni yn unig, yn cael ei gynal yn ystod y prynhawn.

Mae'r rhaglen i ymgeiswyr yn cynnwys sgwrs ragarweiniol gan aelod o'r staff, gwylio dvd o'r Brifysgol, ymweliadau â'r ddwy ysgol y mae'r ymgeisydd yn dymuno astudio ynddynt, a chyflwyniad ar fywyd myfyrwyr gan Undeb y Myfyrwyr. Mae'r rhaglen i rieni hefyd yn cynnwys gwylio dvd y Brifysgol, ynghyd â sgwrs gan uwch-aelod o'r staff a sesiwn holi ac ateb am awr, pryd y daw cynrychiolwyr o Wasanaeth Cyngor Myfyrwyr, y Llyfrgell/Cyfrifiaduron, y Gwasanaeth Gyrfaoedd a'r Preswylfeydd a chynrychiolwyr y myfyrwyr, i ymuno â'r uwch-aelod o'r staff. Mae'r taith byr o amgylch Campws Parc Cathays yn dilyn. Yna cyflwynir te a choffi.