Gwefan Ann Griffiths
Ann Griffiths yw un o ffigurau pwysicaf ein bywyd diwylliannol. Er mai dim ond 29 mlwydd oed ydoedd pan fu farw yn Awst 1805, gadawodd ar ei hôl gerddi a llythyrau sy’n cael eu hystyried yn rhai o glasuron mawr llenyddiaeth Gymraeg. Dywed yr arbenigwyr hefyd fod ei cherddi i’w cyfrif ymhlith uchafbwyntiau barddoniaeth grefyddol Ewrop.
Yn 2003 creodd Llyfrgell Prifysgol Caerdydd wefan ddwyieithog ar gyfer astudio bywyd a gwaith yr emynyddes enwog hon, dan olygyddiaeth Dr E. Wyn James o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sy’n awdurdod cydnabyddedig ar ei bywyd a’i gwaith. Bu ymateb brwd i’r wefan, ac mae llawer yn troi ati’n gyson, nid yn unig o Gymru, ond o bedwar ban byd.
Mae’r wefan yn cynnwys cyflwyniad i fywyd a gwaith Ann Griffiths gan Dr E. Wyn James, testun emynau a llythyrau Ann, a mynediad ar-lein at luniau digidol o tua 2,500 o dudalennau o lyfrau, erthyglau a llawysgrifau amdani, gan gynnwys:
- yr unig lythyr sydd ar gael yn llaw Ann ei hun
- lluniau o dudalennau’r argraffiad cyntaf o’i hemynau yn 1806
- y cofiannau pwysig iddi gan John Hughes, Pontrobert a Morris Davies
- erthyglau ar Ann Griffiths a’i gwaith gan groestoriad eang o awduron, gan gynnwys Saunders Lewis, Bobi Jones, J. R. Jones, O. M. Edwards, A. M. Allchin, Elfed, Derec Llwyd Morgan, R. Geraint Gruffydd ac M. Wynn Thomas
Bydd y wefan hon o ddefnydd i bawb sy’n ymddiddori yn hanes, llên, iaith a chrefydd Cymru.
Dyma adnodd o’r radd flaenaf sydd ar gael i bawb dros y we fyd-eang.
Cyfeiriad y wefan yw: www.anngriffiths.caerdydd.ac.uk
Rhai o’r ymatebion i’r wefan:
‘It is fabulous. What a feast!’
‘Mae’n hawdd ei darllen ac yn werth troi ati’
‘Gwefan werthfawr, gynhwysfawr a hwylus . . . Cyhoeddiad o’r radd flaenaf’
