Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Baledi Cymru: Llyfryddiaethau a Mynegeion

Ceir dolenni yma i nifer o lyfryddiaethau a mynegeion electronig, ynghyd â dolenni i safleoedd sy’n cynnwys baledi wedi’u digido.

Llyfryddiaeth Baledi Cymru
Llyfryddiaeth o gyhoeddiadau yn ymwneud â baledi Cymru.

Mynegai Cyfrifiadurol i Faledi Argraffedig Cymraeg y Ddeunawfed Ganrif
Mynegai ar-lein i faledi argraffedig Cymraeg y ddeunawfed ganrif a baratowyd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn rhan o brosiect dan nawdd Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru.

Mynegai Cyfrifiadurol i Faledi Argraffedig Cymraeg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
Mynegai ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru i’r llyfryddiaeth o faledi argraffedig Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg a baratowyd gan Tegwyn Jones.

Maldwyn: Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau
Mae cronfa ddata Maldwyn yn fynegai i farddoniaeth Gymraeg y llawysgrifau a ysgrifennwyd cyn 1830. Ceir nifer o ddewisiadau chwilio, megis llinell gyntaf, llinell olaf, enw’r bardd, mesur, math a phwnc. Mae’n cynnwys manylion am lawer o faledi llawysgrif, ac am fersiynau llawysgrif cerddi a argraffwyd ar y taflenni baledi.

Early English Books Online (EEBO)
AR GAEL I DDEFNYDDWYR COFRESTREDIG YN UNIG

Llyfrgell electronig o dros 125,000 o gyhoeddiadau, gan gynnwys rhai baledi, o’r cyfnod 1473-1700. Mae modd chwilio yn ôl allweddair. Er gwaethaf y teitl, y mae’n cynnwys rhai cyhoeddiadau Cymraeg.

Eighteenth Century Collections Online (ECCO)
AR GAEL I DDEFNYDDWYR COFRESTREDIG YN UNIG

Llyfrgell electronig o dros 150,000 o gyhoeddiadau, gan gynnwys baledi, a argraffwyd rhwng 1701 ac 1800. Mae modd chwilio’r testunau am eiriau unigol. Nod y cynllun yw digido pob teitl arwyddocaol a argraffwyd yn y Deyrnas Gyfunol yn y cyfnod dan sylw, gan gynnwys rhai mewn ieithoedd ar wahân i’r Saesneg. Cynhwysir hefyd filoedd o gyhoeddiadau a argraffwyd yn America.

Corpws Hanesyddol yr Iaith Gymraeg 1500-1850  
Mae ‘Corpws Hanesyddol yr Iaith Gymraeg 1500-1850’ yn gasgliad electronig chwiliadwy o destunau Cymraeg o’r cyfnod 1500-1850, a grewyd gan Adran Ieithyddiaeth Prifysgol Caergrawnt. Ymhlith y testunau ceir nifer o anterliwtiau (dramâu gwerinol a gynhwysai ganeuon ar fesurau baledol) a rhai cerddi rhydd, yn eu plith sawl baled o waith Huw Jones, Llangwm ac Ellis Roberts (‘Elis y Cowper’).

Casglu’r Tlysau
Mae ‘Casglu’r Tlysau’ yn wefan sy’n cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o eitemau o amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai yng Nghymru. Mae yn eu plith ddelweddau digidol o nifer o faledi o wahanol lyfrgelloedd.