Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Gwefan Baledi Cymru

S. Nutry Hanes...y Negroes, ballad, c.1830
Baled yn cefnogi'r ymgyrch i ddileu caethwasiaeth, c. 1830

Dros y canrifoedd bu'r faled yn ffurf bwysig a dylanwadol ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Roedd cynhyrchu taflenni baledi yn ei anterth yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er nad ydynt gan amlaf yn farddoniaeth o’r radd flaenaf, y mae’r cerddi poblogaidd hyn yn faes astudio amhrisiadwy i unrhyw un sy'n ymddiddori yn iaith, llên, hanes, crefydd a cherddoriaeth y Gymru fodern. Maent hefyd yn ffynhonnell anhepgor i’r sawl sydd am astudio bywyd a byd-olwg pobl gyffredin Cymru yn y cyfnod modern.

Hwyluso astudio baledi Cymru yw diben y wefan hon, ac y mae'n cynnwys yr adrannau a ganlyn:

Golygydd: Dr E. Wyn James
Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd