Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Prosiect Digido Baledi Cymru

Partners in the Welsh Ballads Digitisation Project

 

Baledi oedd ‘papurau newydd’ y tlodion trwy gydol y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Fe’u cenid ymhob rhan o Gymru, mewn marchnad a ffair ac ar gornel y stryd, a’u gwerthu ar ffurf pamffledi bach rhad. Roeddent yn gyfrwng diddanwch poblogaidd ac yn fodd i ledaenu newyddion am ddigwyddiadau pell ac agos.

Mae tua 10,000 o’r taflenni hyn wedi goroesi mewn llyfrgelloedd ac archifdai yng Nghymru. Maent yn cwmpasu rhychwant eang o bynciau ac yn ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth ar gyfer y sawl sy’n ymddiddori yn iaith, llên, hanes, crefydd a cherddoriaeth Cymru. Maent yn arbennig o werthfawr ar gyfer y rheini sy’n astudio diwylliant poblogaidd a hanes lleol.

Cwblhau Rhwydwaith Baledi Prydain: Prosiect sy’n rhan o Raglen Ehangu Adnoddau Digidol JISC

Hydref 2008 - Medi 2009

Yn 2008 gwnaeth bartneriaeth o sefydliadau dan arweiniad Prifysgol Caerdydd gais llwydiannus i JISC – y corff a ariennir gan y Llywodraeth i ddatblygu gwasanaethau gwybodaeth mewn Addysg Uwch – am arian ar gyfer prosiect i ddigido tua hanner y taflenni baledi mewn llyfrgelloedd ac archifdai sydd yn y Gymraeg neu a argraffwyd yng Nghymru, ac i’w rhoi ar gael i’r cyhoedd trwy’r rhyngrwyd

Cwblhawyd y prosiect yn llwyddiannus yn hydref 2009. Mae iddo dair rhan:

1. Digido tua 5,000 o faledi – sef tua 20,000 tudalen o destun – o’r 18fed ganrif hyd at ddechrau’r 20fed ganrif. Mae’r rhain yn cynnwys yr holl faledi sydd yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau Llyfrgell Prifysgol Caerdydd (SCOLAR), ynghyd â chroestoriad da o’r taflenni baledi sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

2. Creu catalog ar-lein chwiliadwy i’r baledi hynny, a mynediad i’r fersiynau digidol, trwy wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

3. Darparu adnoddau academaidd i gyd-destunoli astudio baledi Cymru, ynghyd â dolenni i wefannau eraill ar gyfer baledi digidol, trwy Wefan Baledi Cymru Prifysgol Caerdydd

Partneriaid y Prosiect

Y sefydliad a arweiniodd y cais oedd Prifysgol Caerdydd. Staff Prifysgol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a oedd yn gyfrifol am y digido, y catalogio ac am greu’r wefan. Gweithredodd Dr A. Cynfael Lake (Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe), yr Athro Peredur Lynch (Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor) a’r Athro Andrew Prescott (Llyfrgellydd Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan) fel ymgynghorwyr academaidd i’r prosiect, ynghyd â Dr E. Wyn James (Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd), sydd hefyd yn Olygydd Gwefan Baledi Cymru.


Tîm y Prosiect – Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd

Cydlynydd y Prosiect: Peter Keelan, Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau (SCOLAR), Llyfrgell Prifysgol Caerdydd

Ffotograffydd Digidol: Mark Barrett

Catalogydd: Helen Price-Saunders

Dylunydd Gwe: Alison Harvey

Tîm Systemau: Catrin Jones

 

Tîm y Prosiect – Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cydlynydd y Prosiect: Lyn Lewis Dafis

Catalogydd: Wendy Morgan

Staff Eraill: Branwen Rhys

 

 

Seminar

Cynhaliwyd Seminar Digido Baledi Cymru ddydd Llun, 14 Medi 2009, yn Llyfrgell y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, lle y bu nifer o siaradwyr yn trafod materion yn ymwneud â baledi a digido.

Yn ogystal â hyrwyddo’r prosiect cyfredol ac archwilio posibiliadau ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol, un agwedd ar y seminar oedd gosod prosiect digido baledi Cymru yng nghyd-destun prosiectau tebyg, yn arbennig un Llyfrgell Genedlaethol yr Alban ac un Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen. Yn hynny o beth gellir ystyried y prosiect digido Cymreig hwn fel un sy’n cwblhau rhwydwaith o brosiectau digido baledi ar draws Prydain.