SCOLAR Cysylltiadau, Gwybodaeth a Newyddion
Mae SCOLAR yn arwain, cyd-lynu, a chynghori ar bob agwedd o waith Llyfrgell y Brifysgol ynghylch Casgliadau Arbennig ac Archifau.
Gwybodaeth Cyffredinol a Chysylltiadau
Prif leoliad SCOLAR yw Ystafell Ymchwil y Casgliadau Arbennig (YYCA), yn Llyfrgell y Dyniaethau ac Astudiaethau Cymdeithasol. Oriau agor YYCA yw 9am - 5pm, Llun - Gwener, er mwyn darllen gweithiau cyfyngedig yn YYCA. Mae hyn yn wir hefyd am gasgliadau arbennig mewn Llyfrgelloedd eraill ar gampws y Brifysgol.
Peter Keelan
Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau
keelanp@cardiff.ac.uk, 029
2087 5678
Alison Harvey
Archifydd, Casgliadau Arbennig ac Archifau
harveyae@cardiff.ac.uk 029
2087 7689
Beth all SCOLAR ei wneud i Chi?
Casgliadau Ymchwil
- Cynorthwyo datblygu casgliadau hanesyddol neu archifol yn gysylltiedig â meysydd ymchwil presennol a newydd Ysgolion academaidd, trwy dderbyn rhoddion, casgliadau ar adnau hirdymor, neu bryniadau perthnasol weithiau.
- Sicrhau cadwraeth hirdymor y casgliadau presennol a newydd a dderbynnir o’n staff presennol a blaenorol, er budd ymchwil myfyrwyr a chyd-weithwyr.
- Cynnig casgliadau o filoedd o lyfrau, cylchgronau, mapiau, a chyhoeddiadau hanesyddol eraill ar bob pwnc er lles ymchwil, o feddygaeth i’r celfyddydau, ac astudiaethau cymdeithasol i wyddoniaeth.
- Cynnig miloedd o archifau a llawysgrifau unigryw ar sawl pwnc.
- Cynnig miloedd o ficroffilmiau o ddogfennau ffacsimili o lyfrau, papurau newydd etc.
- Cynnig amrywiaeth cynyddol o adnoddau digidol o’n casgliadau ein hunain.
- Galluogi myfyrwyr ymchwil i drafod dogfennau o 100 gant i 600 chan mlwydd oed, i ehangu a chyfoethogi eu hastudiaethau ac ymchwil.
- Datblygu enw da i Brifysgol Caerdydd yn y byd academaidd fel cartref diogel i roddion a chasgliadau a dderbynnir o du allan i Gaerdydd sy’n cynorthwyo ein rhaglenni ymchwil.
- Cynghori ar roddion neu bryniadau o adnoddau hanesyddol, prin, neu archifau unigryw, er mwyn datblygu ein casgliadau arbennig yn Llyfrgell y Brifysgol. a hyrwyddo ymarfer da mewn storio, defnyddio a datblygu'r adnoddau hyn.
- Cynorthwyo staff academaidd i gael cip hanesyddol ar eu pwnc 50 mlynedd
yn ôl, erthyglau ar y pwnc 100 mlynedd yn ôl, straeon papurau newydd
o 200 mlynedd yn ôl, a llyfrau ar y pwnc o 300 - 400 mlynedd yn ôl.
Hyrwyddo SCOLAR
- Hyrwyddo casgliadau arbennig ac archifau SCOLAR i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ein staff ac ôl-raddedigion newydd am werth ymchwil yr adnoddau unigryw yn Llyfrgell y Brifysgol.
- Siarad â grwpiau seminar yn Ysgolion y Brifysgol am yr adnoddau ymchwil perthnasol i’w pynciau academaidd yn SCOLAR, yn benodol y posibiliadau iddynt gefnogi rhaglenni graddau Meistr.
- Cynnal seminarau Llythrennedd Gwybodaeth i ôl-raddedigion er mwyn iddynt ddeall yn well sut i ddefnyddio adnoddau archifol unigryw, ac i seilio eu hymchwil ar y dystiolaeth sy’n bodoli mewn llawysgrifau ac archifau craidd.
- Hyrwyddo casgliadau SCOLAR i ddenu ysgolheigion a myfyrwyr o du allan i Gaerdydd, felly yn lledaenu gwybodaeth am fri ymchwil y Brifysgol.
- Cynorthwyo Ysgolion a PRCOM i hysbysebu’r gwaith academaidd sy’n gysylltiedig â chasgliadau ymchwil SCOLAR.
- Cynnal gwefan llawn gwybodaeth a’r newyddion diweddaraf am holl waith a chasgliadau SCOLAR, sy’n cymharu’n ffafriol a gwefannau tebyg mewn prifysgolion Russell.
- Cynnal arddangosfeydd o archifau, llyfrau prin, a chasgliadau arbennig SCOLAR i gyd-ddigwydd a chynadleddau, cyfarfodydd, a digwyddiadau cyhoeddus y Brifysgol.
- Darparu rhestri arbennig o gasgliadau SCOLAR i ymchwilwyr y Brifysgol.
Grantiau Allanol
- Bydd SCOLAR yn cynnig am arian allanol i brynu, cadw yn hirdymor, catalogio, digido, a hyrwyddo'r holl adnoddau yn SCOLAR ar draws y campws, er budd ysgolheigion tu fewn a thu allan i’r Brifysgol.
- Gall SCOLAR gyd-weithio a chynorthwyo Ysgolion academaidd â’r gwaith
o ddenu grantiau allanol, sy’n gysylltiedig ag adnoddau ymchwil, a fydd
o gymorth i’w rhaglenni addysgu ac ymchwil.
Ymholiadau / Gwybodaeth
- Mae SCOLAR yn cynnig gwasanaeth ymholiadau i staff a myfyrwyr er mwyn arbed eu hamser wrth chwilio am wybodaeth yng nghasgliadau arbennig y Llyfrgell ar draws y campws.
- Bydd staff cymwysedig ar gael i ateb ymholiadau am ein casgliadau Llyfrgell ac Archifau, boed hynny dros y ffôn, trwy e-bost, post, neu ymholiadau personol yn SCOLAR.
- Cynorthwyo Ysgolion academaidd i chwilio am ddelweddau i’w digido mewn casgliadau SCOLAR, sydd allan-o-Halwfraint, at ddefnydd dysgu, ymchwil, neu gyhoeddi (am tua £1.70 pob delwedd ddigidol).
- Gweithredu fel man cyswllt yn Llyfrgell y Brifysgol am ymholiadau arbenigol hanesyddol ac archifol, a thynnu ar arbenigedd staff eraill yn Gwasanaethau Gwybodaeth i gynnig atebion i gynorthwyo staff a myfyrwyr i wneud y gorau o’n casgliadau yn SCOLAR.
- Cefnogi gwaith PRCOM, ALUMNI, ac eraill yn y Brifysgol gyda'u hymholiadau,
a darparu copïau o ddogfennau yng nghasgliadau SCOLAR.
Cyfleusterau SCOLAR
- Cynnig llefydd cyfforddus i astudio casgliadau SCOLAR, a chyfleusterau eraill sy’n cwrdd â safonau cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cadw a defnyddio'n casgliadau arbennig ac archifau.
- Cynnal catalogau ar-lein — Voyager - i’r holl adnoddau yn y Llyfrgell, â chynlluniau i lansio catalog ar-lein i’n casgliadau o archifau’r flwyddyn nesaf.
- Darparu siartiau a phosteri i’n casgliadau ymchwil, yn dangos posibiliadau astudio ar draws pynciau yn ein casgliadau arbennig ac archifau.
- Cynnig gwasanaeth cyfrifiaduro ar y rhwydwaith a thrwy ‘wifi’ (heb wifrau) â chyfleusterau argraffu yn yr Ystafell Ymchwil.
- Cynnig gwasanaeth darllen microffilmiau, a chyfleusterau i argraffu hefyd.
- Cynnig gwasanaeth digido a llungopïo mewn cydweithrediad ac uned Graffeg y Llyfrgell.
- Cynnig 50 o lefydd astudio yn ein Hystafell Ymchwil i staff ac ôl-raddedigion ymchwil, mewn awyrgylch academaidd tawel.
- Darparu ystafelloedd a lleoliad ar gyfer digwyddiadau ar y cyd rhwng SCOLAR/Ysgolion, er enghraifft lansio llyfrau newydd a chynnal seminarau academaidd.
- Cynnig ystafell ar gyfer ymchwil archifau, ac ystafell seminar i’w llogi gan staff/ôl-raddedigion yn yr Ystafell Ymchwil yn Llyfrgell y Dyniaethau.
Casgliadau Arbennig ac Archifau (SCOLAR); Datganiad Polisi Archifau 2005
1/ Enw
Gwasanaeth Llyfrgell Prifysgol Caerdydd, Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Caerdydd, Blwch S.P. 430, Caerdydd, CF10 3XQ.
2/ Statws SCOLAR
Mae SCOLAR yn uned swyddogol o fewn Gwasanaeth Llyfrgell Prifysgol Caerdydd, rhan o’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gwybodaeth, sy’n cael ei rheoli gan statudau a rheoliadau perthnasol y Brifysgol. Mae gan SCOLAR yr amcan hirdymor o gwrdd â safonau’r National Archives (Kew) i archifdai. Cafodd SCOLAR ei ddynodi yn adolygiad strategol Lyfrgell y Brifysgol fel gwasanaeth a phosibiliadau datblygu arwyddocaol i Gaerdydd, i gefnogi ymchwil ac ysgolheictod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
3/ Cwmpas y Polisi
Datganiad Cenhadaeth: mae cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd yn cynnig adnoddau a gwasanaethau gwybodaeth perthnasol i gefnogi rhaglenni dysgu ac ymchwil yr Ysgolion academaidd, a darperir a chedwir yn hirdymor archifau i hybu’r amcan hwn. Cedwir yn hirdymor hefyd archifau swyddogol, canolog y Brifysgol, fel rhan annatod o waith gwasanaeth Rheolaeth Cofnodion yn y Brifysgol. Bwriedir i’r canllawiau hyn gynnig cysondeb a pharhad yn rheolaeth archifau’r Llyfrgell, fel ffynhonnell wybodaeth i ddarllenwyr a darpar roddwyr casgliadau.
a/ Cwmpas Daearyddol
Mae gan fwyafrif Ysgolion academaidd diddordeb mewn astudiaethau Cymraeg, neu Brydeinig, neu Ewropeaidd, ac ystyrir darpar roddion os ydynt yn gysylltiedig â meysydd ymchwil canolog yr Ysgolion, neu os oes ganddynt gysylltiadau cryf â Chymru neu os ydynt o ddiddordeb cenedlaethol neu ryngwladol.
b/ Cwmpas Pwnc
Blaenoriaeth ein polisi casglu fydd meysydd ymchwil craidd ein Hysgolion academaidd, yn enwedig lle y bydd archifau yn caniatáu ymchwil annibynnol ar adnoddau unigryw yn y meysydd craidd. Bydd archifau personal aelodau mwyaf nodedig y Brifysgol o blith ein staff, presennol a blaenorol, o ddiddordeb arbennig ar gyfer cadwraeth hir-dymor gan SCOLAR.
The personal archives of recognised, distinguished members of the University’s current and former senior academic staff will be a specific priority area for long term preservation by SCOLAR.
c/ Cwmpas Cronolegol
Blaenoriaeth ein polisi casglu yw adnoddau o’r ddeunawfed ganrif ymlaen; fodd bynnag, ystyrir adnoddau cynharach os ydynt yn gysylltiedig â meysydd ymchwil craidd ein hysgolion. Bydd Prifysgol Caerdydd yn adeiladu ar gryfderau presennol ein casgliadau ond byddwn yn ymwybodol o ddatblygiadau a meysydd ymchwil newydd y Brifysgol.
d/ Math neu Genre
Derbynnir cofnodion o sawl math, ond cedwir rhai digidol mewn ffurf cyfateb analog weithiau am resymau cadwraeth hirdymor.
e/ Cydweithredu a Chyfyngiadau
Bydd SCOLAR yn datblygu partneriaethau cydweithio buddiol ag archifdai cyhoeddus perthnasol - yn cynnwys Archifdy Morgannwg a’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru - er mwyn osgoi dyblygu gwaith ac i gynnig y gwasanaeth gorau bosibl i ymchwil ac ysgolheictod.
4/ Proses Casglu
Bydd SCOLAR yn casglu adnoddau trwy roddion, derbyn casgliadau ar adnau hir-dymor, neu weithiau pryniadau. Mae SCOLAR yn derbyn yr egwyddor fod rhagdybiaeth na fydd dogfennau yn ein meddiant yn cael eu gwasgaru neu eu gwaredu.
5/ Mynediad
Mae SCOLAR yn anelu at gwrdd â safonau gorau’r National Archives (Kew)
o ran mynediad i’n casgliadau, trwy gatalogio, rhestru, a chadwraeth hirdymor.
Lle mae’n berthnasol bydd dogfennau’n cael eu digido i’w cyrchu dros y
we fyd eang, a byddwn yn hysbysebu’r adnoddau hyn fel y bo’n briodol.
Bydd mynediad i’n Hystafell Ymchwil Archifau, i’w defnyddio archifau dan
oruchwyliaeth, i staff, ôl-raddedigion, ymwelwyr ac ymchwilwyr bona fide.
Bydd staff archifol proffesiynol ar gael i gynorthwyo defnyddwyr adnoddau
SCOLAR.
Safonau
Bydd SCOLAR yn gweithio tuag at gwrdd â safonau cenedlaethol a rhyngwladol yn ein gwaith o gadw a rhoi mynediad i’n ein daliadau o archifau, yn cynnwys y canlynol o blith y ‘Framework of Standards’, gan y National Archives (Kew);
- Benchmarks for Collection Care for Libraries. British Library/NPO, 2000.
- National Archives Policy for Wales. ACW, 2000.
- Standard for Access to Archives. National Archives, 2003.
- Recommendations for the Storage and Exhibition of Archive Documents. BS5454, BSI, 2000.
- International Standard Archival Description. ISAD(G), ICA, 2000.
- Planning a New Record Repository. The National Archives, June 2004.
Ystafell Ymchwil y Casgliadau Arbennig (YYCA): Polisi a Chanllawiau
Mynediad
Caniateir mynediad i staff academaidd ac ymchwilwyr ôl-raddedig.
Gall is-raddedigion ac ôl-raddedigion ar gyrsiau ddefnyddio YYCA dim ond gyda chaniatâd eu Hysgol academaidd.
Gall ymchwilwyr allanol ddefnyddio’r YYCA ar gais i Staff y Llyfrgell, â phrawf o bwy ydych, wrth y Ddesg Ymholiadau ar Lefel 2 yn y Llyfrgell.
Mae ffurflenni mynediad ar gael ar-lein
Mae YYCA ar agor yr un oriau â Llyfrgell y Celfyddydau, ond mae adnoddau ar y silffoedd dan glo ar gael rhwng 9am — 5pm, Dydd Llun — Dydd Gwener yn unig.
Gwasanaethau
- Mae’n rhaid cwblhau ffurflenni cais i ddefnyddio’r adnoddau canlynol o’r silffoedd dan glo yn YYCA: Llyfrau, Archifau, Mapiau, Microffilmiau.
- Gellir defnyddio llyfrau ac adnoddau eraill ar y silffoedd agored yn YYCA dim ond yn YYCA. Gall adnoddau o gasgliadau eraill yn Llyfrgell y Celfyddydau gael eu defnyddio yn YYCA at ddibenion ymchwil.
- Gellir cael llungopïau neu gopïau digidol o adnoddau YYCA trwy gais i staff YYCA neu Llyfrgell y Celfyddydau, dan amodau hawlfraint. Mae’n rhaid i atgynhyrchiadau cyhoeddedig o’n adnoddau gael caniatâd Llyfrgell y Brifysgol, a rhaid iddynt ddangos cydnabyddiaeth gyhoeddedig briodol.
Defnyddio'r Casgliadau
- Mae’n rhaid i ddefnyddwyr y Casgliadau Arbennig drafod deunyddiau sydd ar fenthyg iddynt yn ofalus ar bob achlysur, nes eu dychwelyd i staff y Llyfrgell; mae cyngor ar gael oddi wrth staff y Llyfrgell.
- Mae’n rhaid defnyddio archifau dan oruchwyliaeth yn yr Ystafell Ymchwil Archifau. Gellir defnyddio papur a phensil i gymryd nodiadau, ond ni chaniateir ysgrifbinnau inc. Rhaid gadael bagiau a chotiau mawr yn y cistiau priodol.
Catalogau
- Rhestrir adnoddau’r Llyfrgell ar y catalog ar-lein ‘Voyager’.
- Rhestrir archifau ar wefan Casgliadau Arbennig, Llyfrgell y Brifysgol, neu yn y rhestrau printiedig yn YYCA: mae cyngor ar gael oddi wrth staff y Llyfrgell.
Cysylltiadau
E-bost: asslliby@cardiff.ac.uk
Ffôn: 029 20874818.
Newyddion a Gwybodaeth
Datblygiadau / Digwyddiadau
Hydref – Gaeaf 2009
Hyrwyddo Adnoddau Addysgol
Roedd rhagor o waith ar archif Edward Thomas yn ystod y flwyddyn, gyda dros 6,000 o ddogfennau nawr ar ein catalog ar-lein ‘CALM’. Mae’r archif yn cynnwys llythyron, llyfrau nodiadau, dogfennau ei deulu a ffrindiau, a nifer o wrthrychau personol.
Fe glywodd SCOLAR cyn y Nadolig bod y Wellcome Trust wedi dyfarni grant o £90,000 inni, er mwyn catalogio archifau nifer o wyddonwyr yn gweithio yn y maes genetig dynol.
Cytunodd INSRV i gefnogi cais SCOLAR i brynu cronfa ddigidol newydd, ‘Digitool’, i gadw ein casgliadau digidol i gyd. Cytunwyd hefyd i brynu’r catalog ar-lein newydd ar gyfer ein harchifau, ‘CALM’, er mwyn inni eu catalogio nhw i gyd. Bydd y ddwy gronfa newydd hyn ar gael dros y we tua diwedd 2010.
Cynhaliwyd gweithdai yn SCOLAR ar gyfer nifer o Ysgolion academaidd yn y Semester cyntaf, yn cynnwys ENCAP, WELSH, ARCHI, CPLAN, a GRASO - er mwyn i fyfyrwyr a staff newydd gael cyfle ymarferol i drafod a darganfod dogfennau hanesyddol yn ymwneud a’u meysydd ymchwil.
Casgliadau Newydd i Gefnogi Ymchwil
Derbyniodd SCOLAR oddi wrth deulu’r diweddar Syr Julian Hodge ( 19?? - 20??) archif sylweddol o bapurau personol ei fusnesau a’i fywyd gwaith. Syr Julian oedd sylfaenydd y ‘Commercial Bank of Wales’ ac un o’r dynion busnes Cymreig mwyaf dylanwadol ei oes.
Gosodwyd silffoedd symudol newydd yn SCOLAR, gyda lle i gynnwys hyd at 20,000 o gyfrolau ychwanegol o’n casgliadau o lyfrau prin, er mwyn ehangu'r meysydd ymchwil hanesyddol y mae SCOLAR yn gallu eu cefnogi.
Gwella proffil a chysylltiadau
Sgrifennwyd dau adroddiad gan staff SCOLAR a’r adran Gatalogio i ‘Cymal’, asiantaeth y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd, yn amlinellu cynnwys nifer o gasgliadau llyfrau prin Llyfrgell Dinas Caerdydd.
Cynhaliwyd arddangosfa ‘Darwin a Wallace’, er mwyn nodi rôl y ddau yn natblygiad y syniad o esblygiad, ar ben-blwydd 200 mlynedd geni Darwin.
Gwanwyn – Haf 2009
Hyrwyddo Adnoddau Addysgol
Arweiniodd SCOLAR brosiect cenedlaethol i ddigido
baled Cymru, a hefyd i greu catalog
ar-lein iddynt (prosiect a ariannwyd gan JISC a £66,000).
Mae’r prosiect yn cyfuno casgliadau o faledi yn y Llyfrgell Genedlaethol
a Llyfrgell Prifysgol Caerdydd. Cynhaliwyd ‘Seminar
Baledi’ yng Nghaerdydd ym Mis Medi, yn cynnwys cyfranwyr o Gymru,
Lloegr ac Iwerddon.
Dechreuwyd prosiect i gatalogio archif yr awdur Edward Thomas (1878-1917), ac i wneud gwaith cadwraeth ar ei lythyron a llyfrau lloffion (ariannwyd y prosiect gyda £10,000 gan y National Manuscripts Conservation Fund). Mae dros 1,000 o lythyron wedi’u diogelu ac mae dros 1,200 o dudalennau papurau newydd wedi’u digido, a chrëwyd copïau cadwraeth ar ficroffilm ohonynt hefyd.
Gwella proffil a chysylltiadau
Cynhyrchwyd casgliad o 10 cerdyn post i gyd-fynd ag arddangosfa i hyrwyddo 10 o gasgliadau ymchwil yn SCOLAR. Dosbarthwyd y cardiau post yng Nghynhadledd LILAC, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym Mis Ebrill; byddant ar werth am £3 am gasgliad o 10 cerdyn post.
Cyhoeddwyd erthygl gan Alison Harvey, Archifydd Cynorthwyol yn SCOLAR, dan y teitl, ‘Love Letters from the Western Front’, yng nghylchgrawn y Society of Archivists, ‘ARC’, yn gynharach eleni.
Roedd SCOLAR yn ganolog mewn trefnu arddangosfa gan yr Institute of Civil Engineers Wales yn Llyfrgell Trevithick – teitl yr arddangosfa oedd ‘Web of Iron’. Cynhyrchodd SCOLAR nifer o ddelweddau digidol i’r arddangosfa, a threfnwyd nifer o lyfrau hanesyddol yn seiliedig ar waith Thomas Telford a’r Gapten Samuel Brown fel rhan o’r arddangosfa – a oedd yn olrhain dylanwad celf a pheirianneg yng nghynllun y Bont Menai.
