Baledi hanesyddol Cymru ar-lein i gynulleidfa byd eang
6 August 2010

Mae adnodd newydd ar-lein yn dangos straeon newyddion a ganwyd ar gorneli strydoedd yng Nghymru.
Gwelir 4,000 o faledi o'r 18fed a'r 19eg ganrif ar wefan a grewyd gan Brifysgol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Adroddir straeon pwysig eu cyfnod yn y caneuon, megis hawliau gweithwyr, troseddau, gwyliau lleol a phynciau bod bydd.
Ariannwyd y prosiect gan £66,000 oddi wrth JISC, corff annibynnol y sector addysg uwch er hybu technoleg gwybodaeth. Mae'r prosiect wedi cwblhau'r rhwydwaith o wefannau baledi digidol syn rhoi mynediad i’r dogfennau hanesyddol hyn.
Dwedodd golygydd academaidd y prosiect, Dr Wyn James o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd "Baledi oedd 'papurau dyddiol' y tlodion yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif. Fe'u gwerthwyd yn rhad mewn marchnadoedd, ffeiriau a phentrefi, gan ledaenu newyddion am ddigwyddiadau lleol a thramor o bwys.
Detholwyd tua 15,000 o dudalennau baledi prin yn Saesneg a'r Gymraeg, ac maent nawr ar gael i gynulleidfaoedd dros y byd i’w hastudio a'u mwynhau".
Lansiwyd y prosiect yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Glyn Ebwy, gan Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mr Dafydd Wigley, Ddydd Iau, Awst 5.
Cwblhawyd y gwaith digido ar ddau gasgliad o'u baledi gan Wasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dwedodd Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd, Janet Peters "Mae’r arian oddi wrth JISC wedi ein galluogi i gefnogi gwaith academaidd ar faledi Cymru, a'i roi ar y we i’w cymharu â'r gorau yn y byd, o Brydain i America. Gellir darllen am faledi prin o ddau sefydliad ar un wefan yng Nghaerdydd, a chwilio catalog y Llyfrgell Genedlaethol am ddelweddau, digidol."
Bwriad Llyfrgell Prifysgol Caerdydd yw rhoi ar ei wefan detholiad o recordiadau rhai o’r baledi prin yn cael eu canu yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Casgliadau Arbennig ac Archifau (SCOLAR)
