Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Fframwaith llythrennedd gwybodaeth cenedlaethol er budd cymdeithas Cymru

8 September 2010

Information Literacy Logo
 

Lansiwyd prosiect llythrennedd gwybodaeth Cymru gyfan heddiw gyda'r nod o sicrhau bod Cymru'n elwa ar fanteision cymdeithasol, economaidd ac addysgol poblogaeth sydd â sgiliau llythrennedd gwybodaeth cynhwysfawr.

Ar ôl cael ei lansio ar Ddiwrnod Llythrennedd Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig, bydd Prosiect Llythrennedd Gwybodaeth Cymru yn datblygu fframwaith unedig a blaengar i gefnogi llythrennedd gwybodaeth mewn ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, y gweithle a’r gymuned ehangach. Y nod yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd llythrennedd gwybodaeth yn yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru.  

Man cychwyn y prosiect oedd lansio'r datganiad llythrennedd gwybodaeth ar gyfer Cymru, a ysbrydolwyd gan gynhadledd llythrennedd gwybodaeth a gynhaliwyd ym Mhlas Gregynog yn y canolbarth yn 2009, lle nodwyd yr angen am y prosiect a'i gwmpas. Dyma'r datganiad llawn:

"Mae pob un ohonom yn hoffi dysgu pethau, boed yn wybodaeth am leoliad ein gwyliau nesaf neu wybodaeth am gyflwr iechyd. Mae gallu defnyddio dulliau gwahanol o ganfod gwybodaeth a barnu pa mor ddibynadwy a chywir yw'r wybodaeth honno yn hollbwysig: mae'n cynnig mwy o ddewis i ni, yn ein grymuso ac yn rhoi mwy o hyder i ni. Dyma lythrennedd gwybodaeth.

"Mae grymuso unigolion i chwilio am, canfod a defnyddio'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni eu hamcanion yn meithrin poblogaeth sydd â sgiliau llythrennedd gwybodaeth. Gall hyn arwain at fanteision cymdeithasol ac economaidd i Gymru.

"Mae llyfrgellwyr yng Nghymru wedi dod ynghyd i ganolbwyntio ar lythrennedd gwybodaeth ac maent yn awyddus i weithio gyda phartneriaid eraill i gyflawni eu hamcan. Y datganiad hwn yw'r cam cyntaf tuag at lunio fframwaith llythrennedd gwybodaeth ar gyfer Cymru, ac yn y pen draw, tuag at wlad sydd â sgiliau llythrennedd gwybodaeth cynhwysfawr."

Mae llythrennedd gwybodaeth yn hollbwysig i ddysgu gydol oes ac mae'n grymuso diwylliant dysgu rhagweithiol sy'n hanfodol i gyrhaeddiad a chynnydd addysgiadol. Mae sgiliau llythrennedd gwybodaeth yn datblygu cynhwysiant cymdeithasol hefyd, gan fod mynediad i wybodaeth yn arwain at ddewisiadau a’r gallu i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Mae pobl sy'n cael eu heithrio o'r 'gymdeithas wybodaeth' fodern yn methu dylanwadu ar agweddau economaidd a chymdeithasol bywyd.

Lleolir Prosiect Llythrennedd Gwybodaeth Cymru yng Nghyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd ac fe'i hariennir gan adran CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r prosiect yn dod â llyfrgellwyr o bob sector ledled Cymru at ei gilydd ac mae'n gweithio gyda phartneriaid o Lywodraeth y Cynulliad ac eraill i ddatblygu a hyrwyddo fframwaith llythrennedd gwybodaeth, wedi'i fapio ar draws y cwricwlwm. Mae llyfrgellwyr hefyd yn ystyried sut i weithio gyda'r Cynllun Llythrennedd Cenedlaethol ar gyfer Cymru er mwyn sicrhau mwy o lwyddiant. Bydd Prosiect Llythrennedd Gwybodaeth Cymru yn cyflwyno tystiolaeth o arferion da ym maes llythrennedd gwybodaeth drwy astudiaethau achos, gan amlygu gwaith cyfredol ym mhob sector.

Meddai Hywel James, Cadeirydd grŵp llywio'r prosiect:

"Mae gan lyfrgelloedd hanes gwych o gydweithio, ac mae'n dda gweld holl wasanaethau llyfrgell Cymru yn cefnogi'r datblygiad hwn, a fydd yn sylfaen gadarn ar gyfer gweithredu. Mae gan lyfrgelloedd hanes da o weithio mewn partneriaeth gydag eraill hefyd ac rydym yn gobeithio y bydd y fframwaith hwn yn annog eraill i ymuno â ni i hybu'r amcan o helpu pobl i ganfod a defnyddio'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt."

Bydd dull gweithredu cyfannol y prosiect, sy'n gwneud hyfforddiant llythrennedd gwybodaeth yn rhan ganolog o'r meysydd addysg a chyflogaeth, yn galluogi Cymru i elwa'n llawn ar fanteision llythrennedd gwybodaeth. Mae’r rhain yn cynnwys cynyddu cynhwysiant cymdeithasol, gwella cyrhaeddiad academaidd a chefnogi mynediad dinasyddion i wybodaeth allweddol.

 

 


I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Prosiect Llythrennedd Gwybodaeth Cymru.