Neidio at y cynnwys Neidio at y fwydlen fordwyo
Hysbysiadau o'n swyddi yn uniongyrchol ar eich porthiant Twitter
Yn aml, caiff porthiadau, neu gyflenwadau newyddion, eu galw’n borthiadau RSS. Ystyr RSS yw Really Simple Syndication. Mae’r porthiadau’n fodd i chi ddarllen y newyddion ac eitemau cyhoeddedig eraill cyn gynted ag y cânt eu cyhoeddi, heb i chi orfod ymweld â’r gwefannau sy’n cyhoeddi’r eitemau.
Fel rheol, caiff cyflenwadau newyddion eu darllen drwy ddefnyddio darn o feddalwedd a elwir yn ddarllenydd newyddion. Bydd hwnnw’n gwirio pob un o’r porthiadau’n awtomatig, ac yn fodd i chi ddarllen yr eitemau sydd wedi’u cyhoeddi. Caiff rhai darllenwyr newyddion eu cyrchu drwy borwyr ac mae eraill yn gymwysiadau a all gael eu gosod ar eich cyfrifiadur.
Cewch borthiadau ar gyfer pob un o’r mathau o swyddi gwag (Swyddi Academaidd Gwag, Swyddi Rheoli Gwag, Swyddi Proffesiynol ac Arbenigol Gwag, ac ati) a phob un o’r Ysgolion a’r Adrannau.I danysgrifio i borthiad, cliciwch ar yr eicon RSS pryd bynnag y bydd ef ar gael. Cyn gynted ag yr ychwanegwch chi’r porthiad at eich darllenydd, cewch borthiad ar gyfer y cynnwys yr ydych chi wedi tanysgrifio iddo. Gallwch chi danysgrifio fel hyn i gynifer o borthiadau ag yr hoffech chi.
Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n aelod o staff Prifysgol Caerdydd, cofiwch fod modd ychwanegu porthiadau RSS at eich porth MWE . Cewch chi wybod rhagor am wneud hynny ar dudalennau Cymorth MWE.
Defnyddio RSS yn sgrinlediad y Porth