Greenday The Musical

Mae fersiwn sioe gerdd o American Idiot yn cael ei rhyddhau yn yr hydref yn Berkeley. Nid oes llawer o fanylion i'w cael eto, ond mae'n debyg y bydd y sioe gerdd yn dilyn cymeriadau'r albwm, er nad oes ganddo blot clir. Bydd yn cael ei rhyddhau yn nhymor 2009-2010 Berkeley Rep., yn ôl erthygl yn y New York Times. Mae hyn siwr o fod yn sioc i ffans Green Day oherwydd nad yw punc â sioeau cerdd Broadway yn dueddol o gymysgu.
Bydd y sioe yn gydweithrediad rhwng aelodau'r band – Billie Joe Armstrong (llais/gitâr), Mike Dirnt (llais/bas) a Tré Cool (dryms) – a'r cyfarwyddwr Michael Mayer. Ennillodd Mayer Tony Award Gold ar gyfer ei sioe gerdd Spring Awakening. Dywedodd Billie Joe Armstrong nad oedd y gymysgedd o gerddoriaeth Green Day a sioeau cerdd yn gwneud llawer o synnwyr, ond dyna oedd o'n ei hoffi amdano.
Cafodd yr albwm, American Idiot ei ryddhau gyntaf yn 2004. Mae'n un o albwms roc mwyaf llwyddiannus y ddegawd hon, ar ôl gwerthu 10 miliwn copi ac ennill Grammy. Mae albwm newydd Green Day, 21st Century Breakdown ar gael nawr.
