Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Cwestiynau Cyson

Dydw i ddim yn siŵr o fy lefel, oes yna brawf y gallaf ei wneud?
Oes, gellir gwneud prawf arlein ar ein gwefan www.learnwelsh.co.uk neu gallwch gysylltu â ni ar 02920 874 710 / info@learnwelsh.co.uk i wneud cais am brawf trwy’r post. Mae’r prawf arlein yn rhoi ateb unionsyth i chi a bydd prawf trwy’r post yn cael ei farcio gan diwtor. Peidiwch â gadael i hyn eich dychryn serch hynny, yr unig fwriad yw eich helpu chi i gael gwell syniad o’ch lefel.

Mae cyrsiau gwahanol i ddewis ohonynt ar bob lefel – sut ydw i’n dewis yr un gorau i fi?
Y cwestiwn cyntaf i ofyn i’ch hun ydy faint o oriau fedrwch chi eu hymrwymo i ddysgu bob wythnos. Y mwyaf y gallwch chi ymrwymo, y gorau, oherwydd byddwch yn cyrraedd rhuglder yn llawer iawn cynt. Ar bob lefel mae gennych chi opsiwn i astudio unwaith yr wythnos (2 awr fel arfer) ac opsiwn arall cyflymach sydd yn ddwywaith yr wythnos neu fwy. Gweler yr holl fanylion ar y dudalen ‘Cyrsiau’.

Beth yw cwrs Wlpan?
Cwrs Cymraeg i ddechreuwyr yw Wlpan. Fe’i gelwir yn gwrs cyflym neu’n gwrs dwys gan fod yr oriau dysgu yn uwch na chyrsiau unwaith yr wythnos. Mae’r Wlpan fel arfer yn rhedeg o leiaf ddwy waith yr wythnos a byddwch yn cyflawni dwy lefel genedlaethol ar y cwrs, sef Mynediad a Sylfaen. Byddai hyn yn cymryd 4 blynedd i’w gwblhau petai chi’n dewis yr opsiwn unwaith yr wythnos. Felly, os oes posib ymrwymo’r amser i fynychu mwy nag unwaith yr wythnos, mae’n bendant yn werth ei wneud.

Gellir astudio cwrs Wlpan mewn unrhyw un o’r 4 dull canlynol:

  1. dysgu yn y dosbarth ddwywaith neu fwy bob wythnos
  2. dysgu cyfunol h.y. hanner yn y dosbarth a hanner ar lein fel dysgu annibynnol.
  3. cwrs bloc ar sail dysgu cyfunol, lle y byddwch yn gweithio’n annibynnol arlein am ychydig wythnosau ar y tro gan fynychu sesiynau adolygu yn y dosbarth ar ddyddiadau penodol yn ystod y cwrs.
  4. cwrs bloc llawn amser 4 / 8 wythnos ar y Cwrs Haf. Gellir gwneud lefel Mynediad mewn 4 wythnos a Sylfaen mewn 4 wythnos arall.

Mae’r Wlpan, sy’n deillio o’r Ulpan Hebraeg, yn dechneg arbenigol a ddefnyddir i ddysgu iaith. Fel rheol gyffredinol, bydd y tiwtor yn cyflwyno patrymau newydd ar ffurf driliau h.y. llawer o ailadrodd ar lafar. Bydd y patrymau hyn yn cael eu cyflwyno mewn blociau a bydd llawer o diwtoriaid yn treulio awr gyntaf y wers ar hyn fel bod y patrymau hyn yn cael eu hamsugno ac yn dod yn fwy fwy cyfarwydd wrth eu hailadrodd. Mae hwn yn ddull strwythuredig iawn o ddysgu’r iaith Gymraeg. Bydd y dosbarth wedyn yn ymarfer y patrymau hyn trwy ddefnyddio cardiau, lluniau, gêm fyrddau, deialogau ayb am yr awr nesaf o’r wers. Ceir digonedd o weithgaredd ychwanegol i helpu gyda’r adolygu ac ar gyfer unedau gwaith cartref.  

Bydd dysgwyr yn derbyn llyfr cwrs a CD am ddim ar gwrs Wlpan a ddarperir gan y Brifysgol. Defnyddir llyfrau Defnyddio’r Gymraeg, CBAC ar gyfer gwersi unwaith yr wythnos. Mae pob llyfr fel arfer yn cymryd dwy flynedd i’w gwblhau ac fe’u trefnir fwy yn ôl themau e.e. tywydd, cyflwyno eich hun, teulu ayb. Ceir ymarferion i’w cwblhau yn y llyfr ac mae llyfryn gwaith cartref ar wahân sy’n dod gyda’r llyfr. Mae’r dysgwyr yn talu am y llyfrau / deunyddiau hyn.

Mae’r Cwrs Wlpan yn ymrwymiad mawr, sut ydw i’n gwybod y bydda i’n ei hoffi?
Rydyn ni’n cynnig Cwrs Blasu, sydd ond yn wythnos o hyd ac mae’n dilyn yn union yr un patrwm ag Wlpan, felly mae’n ffordd arbennig o brofi’r cwrs cyn ymrwymo.

Pryd ydych chi’n cynnig y Cyrsiau Blasu?
Mae’r Cyrsiau Blasu yn rhedeg sawl gwaith yn ystod y flwyddyn, mewn gwahanol leoliadau o amgylch Caerdydd a Bro Morgannwg. Maent fel arfer yn rhedeg ychydig wythnosau cyn i gwrs Wlpan gychwyn.

Ydy hi’n bosibl dysgu lefelau Canolradd, Uwch ayb ar gyflymder cynt hefyd?
Ydy, ceir opsiynau dwywaith yr wythnos neu fwy ar bob lefel. Fel Wlpan, y mwyaf o amser y gallwch ei ymrwymo i ddysgu bob wythnos, y cyflymaf y byddwch yn dysgu.

Sut ydw i’n talu am fy nghwrs?
Y peth cyntaf i’w wneud yw edrych pwy sy’n darparu’r cwrs. Bydd y rhestr isod wedyn yn dangos i chi yr opsiynau a gynigir gan bob darparwr:
Prifysgol Caerdydd (PC) – gellir talu arlein, dros y ffôn, neu trwy ddychwelyd ffurflen ymrestru wedi ei chwblhau i’r Ganolfan.
Cyngor Sir Caerdydd (CSC) – arian parod, siec a gall rhai canolfannau dderbyn carden credyd os ydych yn ymrestru mewn person
Cyngor Sir Bro Morgannwg (CBM) – mae’n bosib ymrestru trwy’r post neu drwy ymweld â’r prif ganolfannau. Ffoniwch am amseroedd agor a chau os gwelwch yn dda.
Coleg Glan Hafren (CGH) –
Coleg y Barri (CB) –
   
Alla i dalu mewn rhan-daliadau / yn ôl tymor?
Y peth cyntaf i’w wneud yw edrych pwy sy’n darparu’r cwrs. Bydd y rhestr isod wedyn yn dangos i chi yr opsiynau a gynigir gan bob darparwr:
Prifysgol Caerdydd (PC) – mae’n bosib trefnu rhandaliadau cyn y dyddiad dechrau. Mae’n rhaid cwblhau’r taliadau cyn dechrau’r cwrs. Cysylltwch â’r Swyddog Cyllid.
Cyngor Sir Caerdydd (CSC) – mae’n bosibl talu am un tymor ar y tro
Cyngor Sir Bro Morgannwg (CBM) – mae’n bosibl talu am y ddau dymor cyntaf cyn dyddiad dechrau’r cwrs a thalu’r taliad olaf cyn y trydydd tymor.  
Coleg Glan Hafren (CGH) –
Coleg y Barri (CB) –

Oes unrhyw gonsesiynau / gostyngiadau ar gael?
Mae’n bosib eich bod yn gymwys am nawdd a / neu gostyngiadau. Gweler y rhestr isod sy’n dangos pa gonsesiynau / gostyngiadau a gynigir gan bob darparwr. Cysylltwch â’r darparwr penodol am fanylion pellach ynglyn â sut i hawlio’r gostyngiadau hyn. tabl.doc

 

Oes crèche ar gael?
Mae crèche ar gael yn y Canolfannau canlynol:

Prifysgol Caerdydd (PC)…

Cyngor Sir Caerdydd (CSC)…

Cyngor Sir Bro Morgannwg (CBM)...

Pwy yw’r tiwtor(iaid)?
Cysylltwch â’r darparwr os hoffech chi gael gwybod pwy fydd yn dysgu eich cwrs penodol chi. Fel arfer bydd tiwtoriaid yn cael eu penodi ar gyfer cyrsiau penodol ychydig wythnosau cyn y dyddiad dechrau ac maent i gyd yn gymwys o dan Gymhwyster Cenedlaethol Tiwtoriaid Cymraeg.

Os yw’r cwrs yn rhy hawdd/anodd ydy hi’n bosib i fi newid lefelau?
Ydy, dydy hi ddim yn broblem i newid lefelau.

Os nad yw’r cwrs yn addas, ydw i’n gallu hawlio fy arian yn ôl?
Ydych, mae’n bosibl cael ad-daliad llawn os ydych chi’n penderfynu o fewn pythefnos i ddechrau’r cwrs ei fod yn anaddas i chi.

Oes gennych chi gyrsiau yn fy ardal i?
Cynigiwn ddosbarthiadau ar hyd a lled Caerdydd a’r Fro. Cysylltwch â ni ar 02920 874710 neu info@learnwelsh.co.uk neu ymwelwch â www.learnwelsh.co.uk i ddod o hyd i’r cwrs agosaf i chi.

Ble fydd y cwrs yn cael ei gynnal?
Mae cyrsiau ar gael ar hyd a lled Caerdydd a Bro Morgannwg. Darperir cyfeiriad a chod post am bob lleoliad ble y bydd cwrs yn cael ei gynnal. Gellir dod o hyd i’r holl fanylion yn y Prospectws neu ar y wefan, www.learnwelsh.co.uk. Mae’r rhestr yn cynnwys holl gyrsiau pob darparwr yn y rhanbarth.

Pa mor fawr yw’r dosbarthiadau?
Mae’r dosbarthiadau yn amrywio o 8 i 16.

Oes yna unrhyw waith cartref?
Oes, mae ychydig o waith cartref. Mae hyn yn eich helpu i adolygu rhwng dosbarthiadau a gwirio eich dealltwriaeth.

Oes rhaid i fi sefyll arholiadau?
Mae hyn i fyny i chi. Mae CBAC yn cynnig arholiadau ar gyfer dysgwyr Cymraeg a chynhelir y rhain yn y Ganolfan, serch hynny mae hi i fyny i chi yn llwyr os ydych chi eisiau gwneud yr arholiad neu beidio. Ceir cyrsiau adolygu i’ch paratoi ar gyfer arholiad.

Os ydw i’n penderfynu peidio sefyll arholiad fydda i’n dal i dderbyn tystysgrif?
Byddwch, a bydd seremoni yn cael ei chynnal ar ddiwedd y flwyddyn. Mae asesiadau Agored Cymru hefyd ar gael a thystysgrif mynychu cwrs.

Beth os ydw i’n methu gwersi?
Os ydych chi’n methu llawer o wersi ac yn teimlo eich bod braidd ar ei hôl hi yn y dosbarth, mae’r tiwtoriaid yn fodlon cael sesiwn un i un gyda chi i’ch helpu i ddal i fyny. Mae hefyd sesiynau Llenwi Bwlch ar gael yn ystod y tymor.

Yw’r Cryno Ddisgiau a’r cwrs-lyfrau yn gynwysedig yn y pris?
Os ydych chi’n astudio cwrs wedi ei ysgrifennu gan Brifysgol Caerdydd (e.e. Wlpan) bydd cryno ddisgiau a chwrs lyfrau yn gynwysiedig yn y pris. Os yw’r cwrs yn dilyn cwrs lyfrau CBAC mae’r cryno ddisgiau a’r cwrs lyfrau yn ychwanegol i bris y cwrs.

Ydw i’n gallu prynu Cryno Ddisgiau os nad ydw i ar un o gyrsiau Cymraeg i Oedolion?
Ydych, rydyn ni yn gwerthu’r CDs ar wahân; cost y CDs yw £30 (£4p+p). Cysylltwch ag info@learnwelsh.co.uk neu 02920 874710 am daflen archeb.

Beth os ydw i’n methu mynychu gwers?
Cofiwch adael i ni wybod achos cewch farc ‘esboniad’ yn hytrach nag ‘absennol’. Ffoniwch 02920 874710 neu e-bostiwch info@learnwelsh.co.uk  a bydd y Dderbynwraig yn pasio’r neges ymlaen i’ch tiwtor.

Pryd mae’r dderbynfa ar agor?
Prifysgol Caerdydd (PC) – 9am – 5pm (gyda pheiriant ateb y tu allan i oriau gwaith)
Cyngor Sir Caerdydd (CSC) – Ffoniwch y ganolfan benodol am amseroedd agor a chau os gwelwch yn dda.
Cyngor Sir Bro Morgannwg (CBM) – Ffoniwch y ganolfan benodol am amseroedd agor a chau os gwelwch yn dda.
Coleg Glan Hafren (CGH) – 10am-4pm
Coleg y Barri (CB) – 8:30am-7:30pm (Llun-Iau) 8:30am-4:30pm (Gwe)

Os nad ydw i wedi ymrestru ar un o’r cyrsiau, ydych chi’n gallu fy niweddaru am y cyrsiau y byddwch yn eu rhedeg?
Caiff y wefan ei diweddaru yn gyson, felly mae’r holl wybodaeth am gyrsiau ar y gweill i’w gweld yma. Hefyd, mae gan y Ganolfan gronfa ddata, felly pan fo cwrs newydd ar fin cychwyn byddwn yn eich hysbysu trwy lythyr neu e-bost. Os hoffech chi fod ar y gronfa ddata e-bostiwch info@learnwelsh.co.uk neu ffoniwch 029 2087 4710 gyda’ch manylion os gwelwch yn dda.

Ydw i’n gallu mynychu Sadwrn Siarad os nad ydw i wedi ymrestru ar un o gyrsiau’r Ganolfan?
Ydych, bydd angen i chi lenwi ffurflen ymrestru. Gellir:

  1. ymrestru arlein
  2. lawrlwytho ffurflen ymrestru oddi ar ein gwefan
  3. ymrestru dros y ffôn ar 02920 874 710
  4. gwneud cais am gopi o’r ffurflen trwy ffonio 02920 874 710 / e-bostio info@learnwelsh.co.uk

Ydw i’n gallu mynychu’r Cwrs Adolygu os nad ydw i wedi ymrestru ar un o gyrsiau’r Ganolfan?
Ydych, bydd angen i chi lenwi ffurflen ymretsru. Gellir:

  1. ymrestru arlein
  2. lawrlwytho ffurflen ymrestru oddi ar ein gwefan
  3. ymrestru dros y ffôn ar 02920 874 710
  4. gwneud cais am gopi o’r ffurflen trwy ffonio 02920 874 710 / e-bostio info@learnwelsh.co.uk

Canolfan Cymraeg i Oedolion

Ffôn: +44 (0)29 2087 4710
Ffacs: +44 (0)29 2087 4708
Cyfeiriad:

Canolfan Cymraeg i Oedolion
Ysgol y Gymraeg
Prifysgol Caerdydd
Adeilad y Dyniaethau 
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU