Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Amdanom Ni

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg yn Ganolfan o Ragoriaeth, gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn dysgu Cymraeg i Oedolion.

Wedi ei lleoli yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, mae’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion yn denu 2,000 o ymrestriadau bob blwyddyn a chanddi dîm o ryw 70 o staff.

Dysgwyr Cymraeg - 
gweithgareddau yn y dosbarth

Cynhelir y cyrsiau Cymraeg ar hyd a lled Caerdydd a Bro Morgannwg, mewn nifer fawr o leoliadau, yn cynnwys neuaddau pentref, siopau, canolfannau iechyd a ffitrwydd, yn ogystal ag ysgolion, colegau ac adeiladau’r Brifysgol. Mae hyn yn sicrhau fod cwrs yn agos i chi.

Prifysgol Caerdydd sy’n gyfrifol am holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn y 2 ranbarth ac mae’n derbyn nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Er mwyn darparu’r amrediad o gyrsiau, mae’r Ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth gyda 4 sefydliad, sef Cyngor Sir Caerdydd, Coleg Glan Hafren, Coleg y Barri a Chyngor Sir Bro Morgannwg i sicrhau fod gan y dysgwyr ddigonedd o ddewis.

Mae ansawdd a gwerth am arian yn bwysig. Cynhaliodd Estyn 2 arolwg o ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion y rhanbarth yn 2007. Roedd hyn yn cynnwys cyrsiau a redwyd gan y Ganolfan a phartneriaid eraill. Derbyniwyd Gradd 2, oedd yn gyrhaeddiad clodwiw iawn.

Mae ymchwil yn ganolog i genhadaeth Prifysgol Caerdydd, ac nid yw’r Ganolfan yn eithriad. Mae’n ymchwilio’n barhaol i gaffaeliad iaith ac o hyd yn ymdrechu i weithredu ar sail tystiolaeth ac ymchwil.

Cenhadaeth y Ganolfan

Sicrhau Mynediad

Dysgwyr Cymraeg - yn y 
labordy iaith

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg yn croesawu myfyrwyr o amrywiol gefndiroedd cymdeithasol, ethnig, crefyddol ac addysgol. Rydyn ni’n anelu at sicrhau mynediad i’n holl gyrsiau i bob myfyriwr; boed yn y Ganolfan neu mewn lleoliadau eraill yng Nghaerdydd a’r Fro. Mae hyn yn cwmpasu mynediad i adeiladau, cymorth dysgu fel Braille, print bras, gwaith dosbarth ar bapur lliw ac yn y blaen. Rydyn ni hefyd yn cefnogi’n tiwtoriaid i ddatblygu strategaethau dysgu sy’n cynnwys y rhain.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am ‘sicrhau mynediad’ i’n cyrsiau, neu os hoffech drafod cefnogaeth unigol neu addasu deunydd cysylltwch â’r Ganolfan. Os yw’n bosibl, cysylltwch â ni cyn i’r cwrs gychwyn i’n galluogi i gwrdd â’ch anghenion gorau gallwn.

Cysylltwch â ni

Canolfan Cymraeg i Oedolion

Ffôn: +44 (0)29 2087 4710
Ffacs: +44 (0)29 2087 4708
Cyfeiriad:

Canolfan Cymraeg i Oedolion
Ysgol y Gymraeg
Prifysgol Caerdydd
Adeilad y Dyniaethau 
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Dolenni cyswllt