Cyrsiau Cymraeg
Dod o hyd i gwrs
Mae rhywbeth addas i bawb!
Ceisiwch ehangu eich chwiliad os nad yw eich dewis yn cynhyrchu canlyniadau.
Pa lefel ddylwn i ddewis?
Rwy'n ddechreuwr
Gallwch naill ai wneud cwrs:
- Mynediad (Cwblheir lefel Mynediad mewn dwy flynedd). Un wers Gymraeg yr wythnos.
- Mynediad a Sylfaen (Cwblheir lefelau Mynediad a Sylfaen mewn blwyddyn). Dwy wers Gymraeg neu fwy yr wythnos.
Dydw i ddim yn ddechreuwr
- Os ydych chi'n gwybod eich lefel, gallwch ei dethol o'r rhestr uchod er
mwyn dod o hyd i amser a lleoliad addas, neu ddethol o'r rhestr cyrsiau ar
y dde am fwy o fanylion am gynnwys y cwrs.
- Os ydych chi'n ansicr o'ch lefel, cysylltwch â ni ar +44 029 2087 4710 a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i'r cwrs cywir. Fel arall, gallwch gwblhau prawf lefel ar-lein y BBC fydd yn rhoi ateb i chi'n syth.
Lefelau'r Cyrsiau
Mae 5 lefel cenedlaethol - Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch a Hyfedredd.
Cyn-fynediad / Blasu
Cwrs Cymraeg 10 awr ar gyfer dechreuwyr pur.
Mynediad
Cwrs Cymraeg i ddechreuwyr pur, unwaith yr wythnos. Mae pwyslais mawr ar sgwrsio yn Gymraeg.
Mynediad a Sylfaen
Cwrs Cymraeg i ddechreuwyr pur, dwywaith neu fwy yr wythnos. Mae pwyslais mawr ar sgwrsio yn Gymraeg.
Sylfaen
Cyrsiau Cymraeg i’r rhai hynny sy’n gwybod tipyn o Gymraeg.
Canolradd
Cyrsiau Cymraeg i bobl sy’n gymharol gyfforddus yn siarad Cymraeg / sydd wedi cwblhau cwrs Sylfaen / Wlpan.
Uwch 1 & 2
Cyrsiau Cymraeg i bobl sy’n gallu siarad Cymraeg i safon cymharol uchel ond sydd ychydig yn ddihyder.
Hyfedredd / Gloywi
Cyrsiau Cymraeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr rhugl sydd wedi meistroli’r iaith ar y lefel Uwch genedlaethol.
