Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Cwrs Sadwrn

CWRS SADWRN YN SAIN FFAGAN Dydd Sadwrn 8 Mai 2010

 

Cwrs Cymraeg Sadwrn 08/05/10

Cwrs Sadwrn 08/05/10

Cofrestrwch nawr

Dewch i Gwrs Sadwrn yn yr amgueddfa awyr agored hyfryd hon yn Sain      Ffagan. Bydd cyfle i gael gwersi ac adolygu’r hyn dych chi wedi dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Dewch hefyd i fwynhau Llwybr Llafar o amgylch yr  amgueddfa hon sy’n llawn hanes diddorol ac i gymryd rhan mewn        gweithgareddau llawn hwyl ar ddiwedd y dydd! Mae cinio hefyd yn rhan o’r pris! Mae hwn yn gyfle ardderchog i fwynhau, i ymarfer, i rannu profiadau gyda dysgwyr eraill ac i wneud ffrindiau newydd felly dewch yn llu!!

 

Dyma’r rhaglen llawn i chi gael gweld:

10.00

Pawb yn cwrdd ym mynedfa Sain Ffagan

10.15

Coffi a Chlonc

10.30

Gwers ac Adolygu

12.00

Llwybr Llafar

13.00

Cinio

14.00

Gwers ac Adolygu

15.30

Gweithgareddau

16.30

Adref

Pris: £15 (£20 ar ôl y dyddiad cau).
DYDDIAD CAU: Dydd Mawrth Mai 4 2010

Cofrestwrch nawr neu cysylltwch â Gwenllian Willis ar willisg1@caerdydd.ac.uk

 

Ewch at y calendar i weld yr holl weithgareddau eraill sydd ar gael i chi.

 

Adnoddau Cysylltiedig