Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Dysgu Anffurfiol

Clybiau darllen

Cliciwch i fynd i'r tudalen Clybiau Darllen

Ehangwch eich gorwelion gyda'n Clybiau Darllen

Bydd clybiau darllen yn dechrau cyn bo hir

Mae darllen yn ffordd dda i ymarfer eich Cymraeg - dych chi’n gwella’ch geirfa, yn ymarfer patrymau ac yn gwella’ch sgiliau gwrando, darllen a deall.

Ymunwch ag un o'n clybiau i gwrdd â dysgwyr eraill, i wella'ch Cymraeg, ac i ddod o hyd i lyfrau diddorol newydd

mwy...

 

Dysgu anffurfiol: cael hwyl drwy'r Gymraeg!

Taith o amgylch y stadiwm

Taith o amgylch y stadiwm

Mae’n bwysig eich bod chi’n cymryd mantais o bob cyfle sydd gyda chi i siarad Cymraeg ac oherwydd hyn dyn ni wedi trefnu amserlen llawn o weithgareddau i chi bob tymor. Dewch i gael hwyl drwy siarad Cymraeg a gwneud ffrindiau gyda dysgwyr eraill o bob safon. O nosweithiau yn y dafarn i deithiau cerdded a bowlio deg, mae rhywbeth at ddant pawb! Bydd hefyd cyrsiau Sadwrn neu gyrsiau preswyl bron bob mis felly cofiwch ddod i fwynhau rhain hefyd. Ewch at y calendar i weld yr holl weithgareddau sydd ar gael i chi.


Sialens misol y rhaglen fentora!

Sialens Mis Hydref - Darllen yn Uchel
Y sialens y mis hwn yw i helpu’r dysgwr i ddarllen yn uchel. Helpwch y dysgwr i wella ei h/ynganiad. Efallai gallwch ddarllen llyfr byr i blant, stori fer neu bennod o lyfr. Darllenwch y stori ac ewch trwy’r geiriau gyda’ch gilydd. Helpwch gydag ystyr, ynganu a thrafodwch y stori yn un o’ch sesiynau. Dewiswch y llyfr yn ôl gallu’r dysgwr.

Mae croeso i chi fenthyg llyfr o’r llyfrgell yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg!


'Fflam y ddraig' - Mascot

'Fflam y ddraig' - Mascot

Cadwch golwg allan am Fflam y Ddraig! Bydd Fflam yn dod i bob weithgaredd. Edrychwch am Fflam pryd dych chi’n cyrraedd a dyna ble bydd y dysgwyr i gyd. Dyna fe ar y chwith!

Bydd llawer o gyrsiau llawn hwyl drwy’r flwyddyn yn cynnwys:

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y cyrsiau hyn mae croeso i chi gysylltu â Gwenllian Willis ar willisg1@caerdydd.ac.uk

Dyma’r holl bethau eraill a fydd yn rhoi’r cyfle i chi gael hwyl drwy’r Gymraeg!:

Ewch i’r calendar