Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Cwrs Haf

Gloywi eich Cymraeg yn Gyflym ar Gwrs Haf 2012

 

Cofrestrwch ar-lein

Mae Cwrs Haf Caerdydd yn eich galluogi i gwblhau cwrs Cymraeg fuasai fel arfer yn cymryd 9 mis neu fwy i'w gwblhau mewn 4 wythnos yn unig. Allwch chi feddwl am ffordd fwy adeiladol o dreulio eich haf?

Yn Gryno...

 

 

Cysylltwch â'r Ganolfan am wybodaeth am cwrs Haf 2012


 

Dysgwyr y Cwrs Haf

 

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ymrestriad ac i'ch croesawu yn yr haf!

Tu allan i'r Dosbarth

Prif fwriad y cyrsiau hyn yw i sicrhau fod dysgwyr yn cyfathrebu â'i gilydd a siaradwyr rhugl yn y Gymraeg. Yn ystod y cwrs bydd nifer o deithiau a darlithoedd yn cael eu cynnal fel rhan gyfannol o'r broses ddysgu gyda'r nod o ymestyn sgiliau llafar y dysgwr yn ogystal â gwerthfawrogiad o fywyd a diwylliant Cymreig. Mae tynnu dysgwyr allan o'r dosbarth a defnyddio Cymraeg mewn amgylchiadau eraill o fudd mawr i'r broses ddysgu, ac yn llawer o hwyl yn y fargen!

Rydyn ni hefyd yn ceisio sicrhau fod pobl yn mwynhau'r cwrs ac yn defnyddio'u sgiliau Cymraeg newydd mewn amgylchiadau anffurfiol. I'r perwyl hwn yr ydym yn trefnu cyfarfodydd cymdeithasol, anffurfiol ar ôl y dosbarth unwaith yr wythnos. Mae hwn yn gyfle gwych i ddod i adnabod dysgwyr a thiwtoriaid eraill, ymarfer eich Cymraeg ac wrth gwrs, i gael amser da! Yn syml iawn, y mwyaf yr ydych yn defnyddio'r iaith y gorau.

Trip y Cwrs Haf 2009

 

Cofrestrwch ar-lein

 

Cysylltwch â ni

Canolfan Cymraeg i Oedolion

Ffôn: +44 (0)29 2087 4710
Ffacs: +44 (0)29 2087 4708
Cyfeiriad:

Canolfan Cymraeg i Oedolion
Ysgol y Gymraeg
Prifysgol Caerdydd
Adeilad y Dyniaethau 
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU