Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Polisi Preifatrwydd

Cyffredinol

Ni fydd gwefan Prifysgol Caerdydd yn storio nac yn dal unrhyw ddata personol (e.e. enw, cyfeiriad e-bost) heb roi gwybod i ddefnyddwyr a chael eu caniatâd ymlaen llaw.

Os gofynnir i chi ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol ar y wefan, mae’n bosibl y gofynnir i chi a ydych am dderbyn unrhyw gyfathrebiad pellach gan Brifysgol Caerdydd.  Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod yr holl ddata personol a gyflenwir yn cael ei ddal mor ddiogel ag sy’n bosibl, yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.

Data

Nid yw Prifysgol Caerdydd yn gwerthu nac yn trosglwyddo unrhyw ddata personol i gwmnïau masnachol na sefydliadau eraill mewn unrhyw fodd arall, ac eithrio 1) ystadegau’r we (gweler isod) sy’n cael eu lletya a’u rheoli gan drydydd parti (Google Inc a gwasanaethau dadansoddi eraill ar y we) a 2) amgylcheddau gweinyddu sy’n cael eu lletya oddi ar y safle ar gyfer rhai gwasanaethau gwefannau (eGardiau, Coursefinder a chymwysiadau eraill).

Cwcis ac Ystadegau’r We

Mae rhai rhannau o wefan Prifysgol Caerdydd yn defnyddio cwcis er mwyn cynorthwyo’r profiad i ddefnyddwyr (e.e. arbed y defnyddiwr rhag rhoi manylion personol i mewn ar gyfer pob tudalen ar ran o’r wefan, gan gynnwys yr ardal ‘Dolenni cyflym’).  Hefyd, caiff cwcis eu defnyddio i gasglu ystadegau cyffredinol (nid personol) ar y modd y caiff gwefannau eu defnyddio.  Ni ddefnyddir cwcis i gael neu storio gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben arall.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw cofnodion parhaus o’r gweithgarwch ar ei gwe-weinydd.  Mae’r cofnodion hyn yn cynnwys cyfeiriad IP defnyddwyr y wefan, y math o borwr a’r dudalen yr ymwelwyd â hi ddiwethaf ac ati.  Caiff y cofnodion hyn eu defnyddio i ddadansoddi sut mae ymwelwyr yn defnyddio’r wefan a gellir eu cadw ar ffurf anhysbys ar gyfer cofnodion hanesyddol.

Meddalwedd dadansoddeg we wedi’i lletya sydd ar wefannau Prifysgol Caerdydd. Gwasanaethau wedi’u lletya yw’r rhain a ddarperir ac a reolir gan gwmnïau trydydd parti. Google, Inc yw’r prif gyflenwr dadansoddeg we wedi’i lletya ar gyfer Prifysgol Caerdydd. Defnyddir Clicktale.com hefyd ar rai tudalennau er mwyn cyfarwyddo’r dyluniad gwefannau’n well. Mae’r gwasanaethau ‘Google Analytics’ a ‘Clicktale.com’ yn defnyddio ‘cwcis’ (ffeil destun a anfonir at gyfrifiaduron defnyddwyr wrth iddynt bori ein gwefannau) er mwyn helpu dadansoddi sut mae defnyddwyr yn llywio ein gwefannau. Caiff y wybodaeth ynghylch ein gwefannau (gan gynnwys cyfeiriadau IP) a gynhyrchir gan y cwci ei throsglwyddo i Google, Inc a Clicktale.com a’i chadw ar weinyddwyr wedi’u lletya yn yr Unol Daleithiau o bosibl. Bydd Google, Inc a Clicktale.com yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn cloriannu’r defnydd o’n gwefan, creu adroddiadau o weithgarwch ar y we ar gyfer gweithredwyr gwefannau a darparu gwasanaethau cysylltiedig eraill i Brifysgol Caerdydd.

Mae’n bosibl y bydd Google, Inc. a Clicktale.com hefyd yn trosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti lle bo’n ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith, neu lle mae trydydd parti yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google, Inc a Clicktale.com. Ni fydd Google, Inc na Clicktale.com yn cysylltu’ch cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall y mae Google, Inc neu Clicktale.com yn meddu arno. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ffurfweddu eich porwr gwe i wneud hynny. Wrth ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn caniatáu i Google, Inc a Clicktale.com brosesu data amdanoch chi yn y modd ac at y dibenion a nodir uchod.

Ymwadiad

Mae’r datganiad cyfrinachedd hwn yn berthnasol i wefannau a gynhelir yn ganolog gan Brifysgol Caerdydd. Mae’n bosibl bod gan dudalennau eraill sydd â dolenni atynt ar brif safleoedd Prifysgol Caerdydd bolisi preifatrwydd ar wahân, gan gynnwys rhai gwefannau Ysgolion Academaidd, Canolfannau Ymchwil a rhai sy’n ymwneud â phrosiectau.