Amodau Defnyddio
Ymwadiad
Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb a chyfredoldeb y wybodaeth ar dudalennau gwefan Prifysgol Caerdydd. Fodd bynnag, gall gynnwys newid o bryd i’w gilydd ac ni all y Brifysgol dderbyn unrhyw atebolrwydd am gywirdeb yr holl wybodaeth a gyflwynir ar unrhyw adeg. Mae gan y Brifysgol yr hawl i wneud newidiadau yn ddirybudd.
Rhaglenni Astudio a Chyfleoedd Ymchwil
Mae’r wybodaeth ar wefan y Brifysgol am raglenni astudio wedi’u haddysgu a chyfleoedd ymchwil yn cael ei darparu fel cyhoeddusrwydd ymlaen llaw ac at ddibenion arweiniad yn unig. Nid yw’n ffurfio contract. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod gwybodaeth am gyfleoedd astudio ac ymchwil yn gywir ac yn gyfredol. Fodd bynnag, gall y wybodaeth hon newid yn ddirybudd cyn ac ar ôl i ymgeisydd gael ei dderbyn. Felly, cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â’r adran berthnasol cyn gwneud cais, er mwyn cadarnhau holl fanylion yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.
Defnyddio
Mae gan Brifysgol Caerdydd hawlfraint ar gyfer yr holl destun, delweddau a chynnwys arall ar y wefan hon, oni nodir yn wahanol. Gellir ond ei lawrlwytho neu ei gopïo heb ganiatâd at ddibenion addysgu, gweinyddu ac ymchwil yn y Brifysgol, neu ar gyfer defnydd personol,
anfasnachol.
Os hoffech atgynhyrchu cynnwys y wefan mewn unrhyw ffordd arall, neu at unrhyw ddiben arall, rhaid i chi gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau’r We am ganiatâd.
Dolenni Allanol
Caiff yr holl ddolenni i wefannau allanol eu darparu er hwylustod ymwelwyr â’r wefan hon yn unig. Nid yw’r Brifysgol yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol ac nid yw’n cefnogi’r farn a fynegir arnynt o reidrwydd nac yn sicrhau cywirdeb y wybodaeth a ddarperir ganddynt.
Firysau
Gwneir pob ymdrech i sicrhau nad yw cynnwys y gellir ei lawrlwytho yn cynnwys unrhyw firysau. Ni all Prifysgol Caerdydd dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddifrod o ganlyniad i firws.
Nodau Masnach
Mae’r holl nodau masnach ar y wefan hon yn perthyn i’w perchnogion priodol o hyd a chânt eu defnyddio at ddibenion adnabod yn unig.

