Cynlluniau Gradd
Israddedig
Mae Ysgol Fathemateg Caerdydd yn cynnig ystod eang o raglenni gradd i fyfyrwyr sy’n rhoi sylw i holl agweddau maes mathemateg, ac mae’n darparu hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer ystod eang iawn o yrfaoedd. Cynigir y cyrsiau israddedig dilynol:
- Mathemateg (BSc)
- Mathemateg a Chymwysiadau Mathemateg (BSc)
- Mathemateg, Ymchwil Gweithredol ac Ystadegau (BSc)
- yn ogystal â nifer o raglenni graff Anrhydedd Cyfun sy’n cyfuno’r astudiaeth o fathemateg gyda disgyblaeth eraill.
Ôl-radd trwy Ddysgu
Trefnir MSc cyfun mewn Cyfrifiadureg ym maes y Gwyddorau Ffysegol gan yr Ysgol, yr Ysgol Gemeg a’r Ysgol Gwyddorau Cyfrifiadurol.
Ôl-radd trwy Ymchwil
Mae’r Ysgol yn cynnig goruchwyliaeth tuag at raddau ymchwil M.Phil a PhD yn y prif feysydd ymchwil.
