Amdanom Ni
A view of the main Music building at Cardiff University.
Mae Ysgol Cerddoriaeth Caerdydd ymhlith un o’r adrannu mwyf cyffrous yn y Deyrnas Unedig. Mae’n gartref i tua 240 o israddedigion a dros 40 o olraddedigion, 17 o staff a bron cymaint â hynny wedyn o staff rhan-amser, pump staff cefnogol, a rhif enfawr o diwtoriaid rhan-amser, llawer ohonynt yn chwaraewyr yng Ngherddorfa Genedlaethol Cymru y BBC neu yn gantorion ac offerynwyr yng Nghwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Mae gan yr Ysgol enw da, wedi ei archwilio gan arholwyr ac aseswyr allanol, am ansawdd ei rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig. Mae’r Ysgol hefyd yn nodedig am safon rhyngwladol ei hymchwil ac enillodd radd rhagorol ‘5’ yn yr Ymarferiad Asesiad Ymchwil 2001.
Mae’r myfyrwyr presennol yn dilyn yn llwybrau rheiny a astudiodd gerddoriaeth pan agorodd Coleg Prifysgol Caerdydd ei ddrysau ym 1883. Mae llawer o gerddorion enwog – yn fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr—wedi cyfrannu i ddatblygiad yr Ysgol gyda sawl un ohonynt yn gynfyfyrwyr o’r Ysgol. Rhydd hyn i fyfyrwyr y ganrif newydd hon le blaengar i fanteisio a chyfrannu at broffil lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yr Ysgol Cerddoriaeth.
Mae amcanion yr Ysgol yn syml: i gynnig amgylchedd ysgogol a chefnogol fel bod myfyrwyr a staff yn gallu datblygu a chydweithio ar agweddau eang o ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio. Gall myfyrwyr fanteisio ar sgiliau arbenigol y staff, er enghraifft yn astudiaethau hanesyddol, diwylliant poblogaidd, ethnogerddoreg, perfformio a disgyblaethau sy’n ymwneud â pherfformio, cyfansoddi, dadansoddi, cerddoriaeth y 18ed ganrif, y 19ed ganrif a’r 20fed ganrif, neu gerddoriaeth Prydain, Ffrainc neu Canol Ewrop. Ceir hefyd ddarlithiau gwadd, a rhaglen lawn o gyngherddau gan berfformwyr ar ymweliad a chan gerddorfeydd, corau , ensemblau myfyrwyr, ac unawdwyr. Hefyd cynhelir digwyddiadau eraill fel dosbarthiadau meistr a gweithdai cyfansoddi.
Mae bywyd academaidd ac ymarferol yr Ysgol wedi’i gyfoethogi gan yr adnoddau gwych sydd yn ei hadeiladau. Mae’r rhain yn cynnwys Neuadd Gyngerdd y Brifysgol, y Llyfrgell Cerddoriaeth, yr ystafelloedd ymarfer, y stiwdios electronig a’r ystafelloedd IT ar gyfer y myfyrwyr. Mae gan yr ôl-raddedigion eu hystafelloedd eu hunain. Mae yna hefyd ddwy Ganolfan Ymchwil sudd yn arbenigo mewn cerddoriaeth Canol Ewropeaidd (CEMRC) a pherfformio hanesyddol wybodus (CRHIP).
Yn olaf, ond nid y lleiaf, mae’r cyfoeth o fywyd cymdeithasol a diwylliannol sydd gan Caerdydd ei gynnig. Ni chymer fwy na 10 munud i gerdded o’r Ysgol i ganol y ddinas. Mae Neuadd enwog Dewi Sant ( lle mae Côr a Cherddorfa’r Brifysgol yn rhoddi eu cyngerdd Gwanwyn), y Theatr Newydd, Theatr y Sherman, tai bwyta, bariau a sinemau yn gyfleus iawn i gerdded iddynt o’r Ysgol. Ymhellach i ffwrdd mae Canolfan Gelfyddydau Chapter ac ym Mae Caerdydd, bellach ar ei newydd wedd, mae adeilad newydd Y Cynulliad Cymreig, sinema multiplex a Chanolfan y Mileniwm ar gyfer pob math o berfformiadau. A mae digon o bosibiliadau eraill cerddorol a diwylliannol i ddenu pob myfyriwr eiddgar ac anturus.
