Mae Ysgol Gerdd Caerdydd yn ganolfan ddynamig ac uchelgeisiol ar gyfer astudio cerddoriaeth ar bob lefel. Mae’r Ysgol yn ymrwymedig i ymchwil, cyfansoddi a pherfformio o’r radd flaenaf, ac i addysgu a arweinir gan ymchwil o safon uchel. Mae’r ystod eang o brofiadau ac arbenigaeth ymysg y staff yn sicrhau bod yr Ysgol yn cynnig amgylchedd anogol a chefnogol i chi lle gallwch ddilyn elfennau craidd astudio cerddoriaeth a magu eich syniadau datblygiedig personol ac arbenigaeth cerddorol.
Mae yna dri lefel o astudiaeth: israddedig (BA/BMus), ôl-raddedig addysgol (MA/MMus) ac ymchwil ôl-raddedig (PhD).
Israddedig (BA/BMus)
Mae yna bedwar llwybr israddedig, a phob un fel arfer yn gwrs tair blynedd llawn amser ond yn cynnig yr opsiwn o gynnwys cyfnod o astudio dramor yn unol â chynllun Erasmus:
- BMus Anrhydedd Sengl
- BA Anrhydedd Sengl
- BA Anrhydedd Cyfun (gydag un pwnc arall)
- BSc mewn Ffiseg a Cherddoriaeth
Rydych yn astudio cerddoriaeth trwy gyfuniad o diwtoriaeth unigol, darlithoedd, gweithdai a seminarau. Y bwriad yw cyflawni cymysgedd iachus o astudiaethau academaidd ac ymarferol.
Ôl-radd (MA/MMus/PhD)
Mae’r Ysgol yn cynnig pum rhaglen Meistr trawiadol:
- MA mewn Ethnogerddoreg
- MA mewn Cerddoriaeth, Diwylliant a Gwleidyddiaeth
- MA Mewn Cerddoleg
- MA mewn Astudiaethau Perfformio
- MMus mewn Cyfansoddi
Mae yna dri llwybr ymchwil ar lefel PhD:
- Cyfansoddi
- Cerddoleg
- Perfformio
Gweithdai a Dosbarthiadau Meistri
Mae’r Ysgol yn trefnu gweithdai a dosbarthiadau meistri er mwyn cynyddu profiad y myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig ym meysydd cyfansoddi a pherfformio.
Corau, Cerddorfeydd ac Ensemblau
Mae’r Ysgol yn falch iawn o’r lefel o greu cerddoriaeth ymarferol ac yn anelu i wneud popeth i annog ac hyrwyddo creu cerddoriaeth a gwerthfawrogi cerddoriaeth o fewn i’r Brifysgol a’r Ddinas.
