Ymchwil
Mae Ysgol Gerdd Caerdydd yn ganolfan fywiog ac uchelgeisiol sy’n ymrwymedig i ymchwil, cyfansoddi a pherfformio o’r radd flaenaf, a dysgu a arweinir gan ymchwil o safon uchel. Mae ystod eang o brofiad ac arbenigedd ymysg aelodau staff yn sicrhau bod yr Ysgol ar flaen y gad yng nghyd-destun addysg ac ymchwil mewn nifer o feysydd a disgyblaeth.
Fel un o ddwy ar bymtheg uned Gradd 5 Prifysgol Caerdydd (mae bron i 90% o staff ymchwil y Brifysgol yn gweithio mewn adrannau Gradd 5 neu 5* yn gyfredol), mae’r Ysgol Gerdd wedi chwarae rhan sylweddol yn llwyddiant Caerdydd.
Meysydd Ymchwil
Mae gan yr Ysgol Gerdd gryfderau ymchwil mewn tri maes eang sy’n cynnwys nifer o ddiddordebau a safbwyntiau cyfategol:
- Cyfansoddi
- Cerddoleg a Pherfformio Ymarferol
- Ethnogerddoreg a Cherddoriaeth Boblogaidd
Canolfanau Ymchwil
Mae gan yr Ysgol ddwy Ganolfan Ymchwil:
- Canolfan Ymchwil Cerddoriaeth Canol Ewrop (CEMRC)
- Canolfan ar gyfer Ymchwilio i Berfformiadau Hanesyddol-Hyddysg (CRHIP)
Gweithgareddau Ymchwil
Mae’r adran hon yn darparu rhestr o ddarpar-weithgareddau ymchwil: papurau cynhadleddol, darlithiau cyhoeddus, sgyrsiau cyn-gyngherddol, trafodaethau a chyfansoddiadau wedi’u darlledu, perfformiadau cyntaf byd-eang (**),perfformiadau cyntaf DU (*) a pherfformiadau eraill.
