Skip to content
Skip to navigation menu

English

Canfed dyfarniad UE i Gaerdydd

22 Mawrth 2012

Efelychiad llawfeddygol realistig dros ben sy’n lleihau risg i’r claf yw canfed prosiect Prifysgol Caerdydd i ennill dyfarniad o dan brif gynllun cyllido ymchwil yr Undeb Ewropeaidd, sef y Seithfed Rhaglen Fframwaith (FP7).

Mae tîm o Ysgol Beirianneg y Brifysgol wedi sicrhau £1.2M o dan gynllun Grantiau Annibynnol Cychwynnol y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd i ddatblygu ‘RealTCut’,sef prosiect sy’n cael ei arwain gan yr Athro Stéphane Bordas er mwyn atgynhyrchu effeithiau torri llawfeddygol mewn amser real.

Mae’r tîm, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ynghyd â pheiriannwr, mathemategwyr cymhwysol a niwrolawfeddygon o Awstralia, Ffrainc, Gwlad Belg a’r Almaen, yn anelu at osod sylfeini ar gyfer cenhedlaeth newydd o efelychwyr a allai leihau’r risg i gleifion niwrolawfeddygaeth a chynorthwyo hyfforddiant yn fyd-eang wrth ddatblygu algorithmau i ail-greu’r gwir ‘deimlad’ o dorri i mewn i’r ymennydd.

Dywedodd yr Athro Stéphane Bordas: "Mae hyfforddiant yn hollbwysig ac mae efelychwyr yn dechrau ymddangos sy’n caniatáu i lawfeddygon ymarfer eu sgiliau mewn rhith-amgylchedd, yn debyg iawn i’r ffordd y mae peilotiaid yn cael eu hyfforddi. Mae sicrhau’r arian Ewropeaidd hwn wedi bod yn hollbwysig o ran rhoi’r rhyddid i ni ganolbwyntio ar rwystrau gwyddonol sylfaenol sydd ar hyn o bryd yn ein dal yn ôl. Credwn y gallai RealTCut helpu meddygon sydd dan hyfforddiant yn y maes anodd dros ben hwn. Gobeithiwn y bydd modd, yn y pen draw, i ddatblygu efelychwr llawfeddygol a all gyfuno cywirdeb ac atgynhyrchu torri a gweithdrefnau eraill mewn amser real."

Ar hyn o bryd, Rhaglen Seithfed Fframwaith (FP7) yr Undeb Ewropeaidd yw’r prif gynllun holl-Ewropeaidd sy’n ariannu Ymchwil a Datblygu Technolegol. Hyd yma, mae Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau tua £37M ar gyfer 100 o brosiectau er mwyn helpu i adeiladu galluedd a chynyddu ymchwil a datblygu cydweithredol ar draws Ewrop a thu hwnt.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Dr David Grant: "Mae sicrhau ein canfed dyfarniad trwy’r rhaglen FP7 yn gamp sylweddol ac mae’n dangos sut mae’r Brifysgol wedi arwain cyfranogiad Cymru yn rhaglenni ariannu’r UE.

"Mae’r rhaglen wedi bod – ac mae’n dal i fod – yn gyfrwng strategol pwysig i'r Brifysgol allu cefnogi datblygiad yr Economi Gwybodaeth yng Nghymru.

"Mae ein llwyddiannau wedi darparu llawer o brosiectau arloesol a chydweithredol gyda diwydiant Cymru a phartneriaid ymchwil ledled Ewrop ac yn fyd-eang. Byddwn yn dal i weithio’n galed i ennill dyfarniadau FP7 pellach ac yn canolbwyntio ar gynyddu ein cyfran o gyllid Ewropeaidd trwy Gorwel 2020 er budd Cymru, y DG a thu hwnt."

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Edwina Hart: "Mae ein strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru wedi dangos yn glir fod rhaid i Gymru ennill ei chyfran o’r ariannu ymchwil a datblygu allanol cystadleuol, ac felly rwyf wrth fy modd yn gweld Prifysgol Caerdydd yn ennill ei chanfed dyfarniad o dan brif gynllun cyllido ymchwil yr Undeb Ewropeaidd.

"Fel y mae’r prosiect hwn yn dangos, gall y cysylltiadau hanfodol rhwng y sgiliau ymchwil a gwyddoniaeth, a phrosesau arloesi, datblygu a masnacheiddiwch drawsnewid allbynnau gwyddonol ymchwil i fod yn fantais economaidd i Gymru."

Ymhlith prosiectau eraill sydd wedi elwa ar ariannu FP7 mae:

· Partneriaeth academaidd a masnachol yn pontio Môr Iwerddon a sicrhaodd £705,000 o ariannu trwy gynllun Partneriaethau a Llwybrau Diwydiant-Academia (IAPP) Marie Curie FP7 ar gyfer ffordd newydd o fynd i'r afael â chanser y croen. Mae HIPODERM yn cyfuno arbenigedd gan Ysgol Fferylliaeth Cymru; y cwmni Cymreig, An-eX Analytical Services; a dau bartner o Iwerddon, sef y Ganolfan Ymchwil Biotechnoleg Molecwlaidd yn Sefydliad Technoleg Waterford, a’r cwmni EirGen Pharma.

· Prosiectau ymchwil cydweithredol yn cael eu harwain gan ymchwilwyr o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Caerdydd gyda phartneriaid ym Mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, a phrifysgolion Ewropeaidd eraill. Trwy’r rhaglen TGCh y Dyfdodol a Chyfredol, bu’r prosiect SOCIALNETS, a gostiodd £2M, yn archwilio sut gellir manteisio ar rwydweithiau cymdeithasol i ddarparu a chaffael cynnwys, gan gynnwys materion diogelwch ac ymddiriedaeth. Mae’r un rhaglen yn ariannu RECOGNITION, sef prosiect arall sy'n costio £2M ac sy’n ceisio darparu mwy o elfennau personol i ddefnyddwyr y Rhyngrwyd.

· Mae’r Ganolfan Ymchwil Tyrbinau Nwy yn Ysgol Beirianneg Caerdydd, a sefydlwyd â chymorth cychwynnol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn bartner allweddol yng nghonsortia mawr H2-IGCC a BRISK o ddiwydiant a phrifysgolion. Mae’r H2-IGCC yn canolbwyntio ar hylosgi nwyon ag allyriadau isel trwy gyfrwng prosesau modern o ddal CO2, ac mae BRISK yn anelu at wella’r ffordd o ddefnyddio biomas i gynhyrchu pŵer.

Dolenni perthynol

Yr Ysgol Beirianneg

Y Seithfed Rhaglen Fframwaith